Sleep Furiously Llythyr cariad at Drefeurig!
Cyfarwyddo
Gideon Koppel
Hyd
94 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Blwyddyn cymuned wledig Ffilm ddogfen yn dilyn blwyddyn ym mywyd cymuned wledig Trefeurig ger Penrhyncoch yng Ngheredigion yw Sleep Furiously.
Mae'r teitl, a benderfynwyd ar ganol y broses olygu gan y cyfarwyddwr lleol Gideon Koppel, yn deillio o ddyfyniad diystyr gan yr ieithegydd Noam Chomsky.
Ond efallai y byddai'r teitl gwreiddiol, The Library Van, yn rhoi awgrym tecach o gynnwys y ffilm, gan mai gyrrwr y llyfrgell deithiol leol yw un o'i phrif "gymeriadau".
Mae'n cynrychioli'r cerbyd sydd yn gwthio'r cynhyrchiad yn ei flaen ac wrth i'r gyrrwr ymweld ag aelodau amrywiol o'r gymuned, cawn gipolwg o sefyllfa bresennol un o ardaloedd hyfrytaf Cymru, a rhai o'r newidiadau anochel sy'n ei hwynebu.
Camera'n gwylio'n dawel Yn wahanol i nifer o ffilmiau dogfen cyfoes, does dim sylwebaeth neu droslais i osod yr agenda yn Sleep Furiously.
Yn hytrach, mae'r cyfarwyddwr yn gadael i'r camera llonydd wylio'n dawel - ond wedi dweud hynny, nid ffilm fud mohoni.
Serch adegau distaw iawn mae na weithgaredd cyson, a chlustfeiniwn ar sŵn naturiol bywyd cefn wlad, o'r tractorau prysur, i gyfarth cŵn defaid, bwrw llo a moch bach, hyd at drafodaethau dros baned a phendroni'r beirniaid wrth iddynt ddyfarnu'r darten orau mewn sioe gynnyrch leol.
Hefyd wrth gwrs clywn ddetholiad difyr o deitlau rhai o'r llyfrau sydd yn mynd â bryd darllenwyr brwd yr ardal, a hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Yn wir, mae'r iaith yn bresenoldeb amlwg iawn yn y ffilm, wrth iddi ddechrau â golygfa swreal o glochydd traddodiadol yr olwg yn mynd â'i gŵn- Porgy and Bess - am dro ar dopiau'r Cwm a chyfeirio atynt fel "children".
Yn ystod yr olygfa nesaf, gwelwn fyrddaid bychan o blant yr ysgol gynradd Gymraeg leol yn canu'r gras bwyd "O Dad yn Deulu Dedwydd" cyn cinio.
Mae'n dechneg gynnil, ond hynod effeithiol, o ddeffro'r isymwybod i ffilm sydd yn dathlu ffordd a fu, ond sydd hefyd yn fodern iawn ei hagwedd tuag at gymuned lle mae dwy iaith yn cydfyw'n naturiol.
Golygfeydd hudolus Ceir golygfeydd hudolus o'r ardal a'i thymhorau a dilynir patrymau celfydd y peiriannau amaethyddol wrth iddynt adael eu hôl - ond mae'r cyfathrachu rhwng y trigolion ar adegau yr un mor ddadlennol.
Mewn un olygfa mae pedair dynes mewn oed yn chwerthin llond eu boliau dros baned a hen luniau o gymeriadau lleol, ond o fewn dim, clywn y pedair yn beirniadu'r penderfyniad i gau'r ysgol gynradd, gydag un yn gofyn cwestiwn mawr iawn; pwy sydd biau'r adeilad sydd yn cynrychioli canolbwynt y gymuned?
Mae hi'n ffilm wleidyddol iawn ar un wedd a thrist iawn oedd darganfod i'r ysgol gynradd gau yn fuan ar ôl cwblhau'r cynhyrchiad, yng Ngorffennaf 2007 - er na ddywedir hynny ar ddiwedd y ffilm.
Yn ôl y cyfarwyddwr, sydd yn mynnu hawlio niwtraliaeth wleidyddol, gall diwedd rhywbeth olygu dechrau rhywbeth newydd ac felly, er gwaethaf ambell i dinc trist, mae Sleep Furiously, ar y cyfan, yn ffilm obeithiol iawn.
Cerddoriaeth Mae defnydd y cyfarwyddwr, Gideon Koppel, o gerddoriaeth hefyd yn addas iawn, wrth iddo osod darnau piano minimalistaidd gan yr cyfansoddwr electronica cyfoes, Aphex Twin (neu Richard James i'w rieni - Cymry Cymraeg o'r Canolbarth, yn ôl Koppel) yn gefnlen i daith y llyfrgell deithiol.
Rai blynyddoedd yn ôl defnyddiwyd y darn hudolus Avril 14th mewn ffilm cwbl wahanol - Marie Antoinette gan Sophia Coppola - ac ar y pryd, ychwegodd hwnnw at naws felancolig y biopic amryliw hwnnw.
Yma, mae'r darn yn gydnaws â neges obeithiol y ffilm.
Yn un lle, ar ganol y ffilm, cynrychiolir crescendo emosiynol o fath wrth i'r camera dorri rhwng ymarfer côr ABC yn perfformio fersiwn digyfeiliant o Y Deryn Glas a golygfa odidog o belydrau'r haul yn disgleirio trwy'r cymylau ar fae Ceredigion islaw.
Yr hyn sy'n ddiddorol am yr olygfa drydanol hon yw i'r cyfarwyddwr benderfynu canolbwyntio ar wyneb yr arweinyddes - aelod o gymuned Trefeurig - yn hytrach na'r côr; penderfyniad anghonfensiynol yn sicr, ond yr un cywir, gan ei fod yn gadael argraff ddofn, ac yn cyfleu sefyllfa llawn angerdd - a chydig o hiwmor hefyd.
Mae cyffro . . . Cyn i chi feddwl nad oes na unrhyw beth "cyffrous" am Sleep Furiously wele un o'r treialon cŵn defaid mwyaf cyffrous i mi ei weld erioed, diolch yn bennaf i olygfa sydd yn cynnwys "sylwebaeth" dwy ddynes mewn car, wrth iddynt gysgodi rhag y glaw.
Mae eu dehongliad naturiol a hynod ddifyr o'r hyn welwn ni o'n blaenau yn hynod ddigri a'u hwyl yn gwylio'r ffermwr a'i gi yn ceisio corlannu'r defaid yn heintus.
Golygfa sy'n enghraifft dda o un o'r adegau niferus pan ofynnais y cwestiwn, "Sut goblyn lwyddodd y meicroffon glustfeinio ar foment mor breifat? "
A feddyliais i erioed y cawn fy hypnoteiddio gan wraig mewn cegin yn paratoi Victoria Sponge - a hynny o iro'r tuniau hyd gwasgaru'r siwgr dros y deisen nobl cyn ei gosod yn ddestlus mewn basged - ond dyna'n union ddigwyddodd. Mwynheais bob eiliad!
Un o'r ffilmiau prydferthaf Heb os nag oni bai, dyma un o'r ffilmiau dogfen prydferthaf imi ei gweld erioed. Mae'n deyrnged hudolus i'r gymuned lle cafodd y cyfarwyddwr ei rannol fagu. Yn wir, awn mor bell â'i disgrifio'n llythyr cariad i Drefeurig, ei thirlun a'i phobol.
Mae'r ffilm eisoes wedi creu argraff fawr ar gylchdaith y gwyliau ffilm rhyngwladol a phan y'i dangoswyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth am chwe noson yn gynharach eleni gwerthwyd pob un tocyn - rhywbeth na lwyddodd Indiana Jones and the Kindom of the Crystal Skull i'w wneud wythnos ynghynt!
Os byddwch yn ddigon ffodus â dal Sleep Furiously ar daith sinema o amgylch Cymru yn y flwyddyn newydd, rwy'n eich siarsio chi i fynd i'w gweld - mae'n un o ffilmiau gorau 2008.
|
|