Open Water Ofn a dŵrdio
Y sêr Blanchard Ryan, Daniel Travis
Cyfarwyddwr Chris Kentis
Sgrifennu Chris Kentis
Hyd 80 munud
Sut ffilm Yn 1998 cafodd Thomas ac Eileen Lonergan, a oedd ar drip deifio oddi ar arfordir Awstralia, eu gadael ar ôl yn y môr pan ddychwelodd y llong oedd yn eu cludo hwy a gweddill y deifwyr yn ôl i'r lan.
Ac yno, yn unigedd y môr mawr, y bu farw'r ddau.
Ni allwn ond dychmygu'r arswyd a'r anobaith a ddaeth i'w rhan - a dyna wnaeth Chris Kentis wrth sylfaenu ei ffilm Open Water ar y digwyddiad trist hwnnw gan ddefnyddio dau gymeriad dychmygol mewn gwlad wahanol i'w cynrychioli.
Y stori Penderfyna Daniel a Susan (Daniel Travis a Blanchard Ryan), dau iypi Americanaidd priod sy'n tynnu at ben eu tennyn emosiynol, fynd ar wyliau deifio yn y Caribî i atgyfnerthu a chael trefn ar eu bywyd.
Maen nhw ymhlith ugain sy'n mynd allan ar gwch ond trwy amryfusedd wrth gyfri'r rhai sy'n dychwelyd i'r cwch o'r dŵr maen nhw'n cael eu gadael ar ôl a'r cwch yn hwylio am y lân.
Am hanner awr go dda yr ydym yng nghwmni'r ddau yn y môr yn dyfalu a fyddan nhw'n cael eu hachub neu beidio wrth eu gwylio'n cael eu pigo gan sglefrod a'u llygadu gan siarcod rheibus ac yn gwylio llongau'n mynd heibio iddyn nhw heb eu gweld.
Y canlyniad Llwyddiant ysgubol yn ôl y beirniaid yn ddiwahân wrth ganmol yn bennaf y ffaith i gael ei gwneud y ffordd rataf posibl heb unrhyw effeithiau cyfrifiadurol i greu effaith.
Ac, yn wir, mae Kentis yn llwyddo'n rhyfeddol i gyfleu y teimlad yna o ofn ac anobaith llwyr o gael eich gadael yn y fath amgylchiadau.
Mae'r cyfan yn ymwneud a breuder dyn o fewn ei amgylchedd ac a thyndra. Tyndra ynglŷn â'r ofn a fydd y siarcod yn eu llarpio; tyndra a ddaw rhywun i'w hachub - yn wahanol i'r hyn a ddigwyddodd i'r Lonergans.
I weithio o safbwynt strwythur celfyddydol mae'n debyg y byddai'n rhaid iddyn nhw gael eu hachub neu o leiaf fod rhyw dro yn y gynffon.
Fel arall, yr unig beth sydd gennych chi o safbwynt stori ydi, Dau yn cael eu anghofio yn y môr a'r ddau yn boddi neu gael eu bwyta gan siarcod. Diwedd y stori.
Efallai y bydd rhai yn siomedig â'r ffordd y mae pen y mwdwl yn cael ei gau yn Open Water
Fodd bynnag mae'r adolygwyr ffilm yn ddiwahân wedi gwirioni â'r arlwy gan weld yn well mewn rhai ffyrdd na hyd yn oed Jaws. Ond er bod yna siarcod yn y ddwy ffilm does yna ddim cymhariaeth mewn gwirionedd ac mae fel chwilio am debygrwydd rhwng Ryan Giggs a morlo ar sail y ffaith fod y ddau yn medru trin peli.
Y darnau gorau Y ddau yn sylweddoli iddyn nhw gael eu gadael ar ben eu hunain bach yng nghanol y môr. Ennyd ysgytiol o iasol.
Y golygfeydd nos yn fygythiol oer.
Er nad oes â wnelo fawr â datblygiad y stori mae Blanchard Ryan yn noeth yn ei gwely yn mynd i lonni sawl calon.
Perfformiadau Mae Travis a Ryan yn rhagorol gan wneud y gorau o sgript afaelgar.
Y ffraeo a'r closio yn y dŵr yn argyhoeddi.
Gystal â'r trelar? Y trelar yn addo mwy nag a gawn.
Ambell i farn Er i un beirniad gymharu'r ffilm â stori fer gyntaf disgybl chweched dosbarth bu canmoliaeth pawb arall yn golchi'n donnau dros Open Water.
Cyfuniad o 91Èȱ¬ Alone a Jaws ond heb yr hiwmor meddai'r Observer gan ychwanegu fod y ffilm yn cydio mewn ffordd na wnaeth nifer o ffilmiau diweddar.
Ail greadigaeth ryfeddol yn nhraddodiad Touching the Void meddai'r Sunday Times.
Yn ôl y Mirror mae'r ofn cynhenid gystal â'r hyn a deimlwyd wrth wylio golygfa'r gawod yn Psycho
"Y siarcod ydi'r sêr go iawn," ychwanegir.
Rhaid maddau i'r rhai hynny fydd yn teimlo fod gorganmol.
Rhai geiriau I sgïo oeddwn i eisiau mynd - Susan. Dwi wir ddim yn teimlo'n dda iawn - Susan. Pe byddai o'n siarc fe fyddai dy goes wedi mynd - Daniel. A'r peth gora ydi, ein bod ni wedi talu am hyn - Daniel. Wn i ddim be di'r gwaetha - ni yn eu gweld nhw ynteu nhw ddim yn ein gweld ni - wrth weld llongau ac awyren yn mynd heibio.
Anghyfrifol Er bod golygfa gadael y ddau ar ôl yn y dŵr yn ddigon llithrig mae'n anodd iawn credu na fyddai rhywun wedi sylwi fod yna ddau ar goll o blith criw o ddim ond ugain.
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi - ond ichi beidio â disgwyl gormod.
|
|