The Departed (2006) Twyll, cyffro a digon o saethu
Adolygiad gan Rhun Iwan
Y Sêr:
Leonardo DiCaprio, Matt Damon, Jack Nicholson, Martin Sheen, Vera Farmiga, Mark Wahlberg, Ray Winstone.
Cyfarwyddwr:
Martin Scorsese.
Sgrifennu: William Monahan.
Hyd:
151 munud.
Sut Ffilm?
Ffilm sydd wedi ei seilio ar y ffilm wefreiddiol Hong Kong, Infernal Affairs (2002).
Trwyddi mae yna berfformiadau arbennig a deialog ardderchog i gyfeiliant llawer o saethu!
Y Stori?
Mae'r awdur, William Monahan, yn symud cyffro'r ffilm wreiddiol i South Boston, lle mae gangiau yn brwydro am rym yn ardal Heddlu Massachusetts.
Frank Costello (Jack Nicholson) yw prif darged yr heddlu. Y bwriad yw ei garcharu fel y bydd ei ymerodraeth gyfan yn torri'n deilchion.
Ond er mwyn sicrhau hyn rhaid i'r Capten Queenan (Sheen) a Sergeant Gignam (Wahlberg) ddinistrio Costello trwy blannu recriwt ifanc, Billy Costigan (DiCaprio) yn ei ymerodraeth.
I wneud y peth yn gredadwy maent yn anfon Costigan i garchar er mwyn iddo ymddangos fel heddwas sydd wedi troi'n droseddwr.
Ond heb yn wybod i'r heddlu, mae gan Costello ddyn sy'n agos iawn i'r Uned Ymchwiliadau Arbennig sef Colin Sullivan (Damon) sy'n bwydo Costello â gwybodaeth.
Mae'r ddwy ochr yn syrthio i mewn i drap ac yn rhoi gwaith holl-bwysig i Sullivan a Costigan.
Yna, maent yn creu cynllun i ddod o hyd i'r bradwr.
Y Canlyniad?
Mae The Departed yn chwarae i'w gryfderau trwy fanteisio ar yr holl actorion gwych yma gyda Nicholson yn disgleirio ym mhob golygfa - gyda help DiCaprio a Damon.
Y darn gorau:
Yr olygfa pan fo Mr French (Winstone) yn gweld Costigan yn bwrw dyn wrth y bar ac yn dweud wrtho, "There's guys you can hit. Now he's not a guy you can't hit, but he's pretty close to a guy you can't hit".
Ac yna mae Mr French yn mynd draw at y dyn ac yn ei fwrw.
Perfformiadau:
Rydych yn gallu gweld Leonardo DiCaprio yn datblygu fel actor ac mae'r ffordd mae Matt Damon yn chwarae ei ran yn arbennig.
Gwerth ei gweld?
Ydy. Ffilm dda iawn. Byddwch yn barod am sawl tro yn y stori - a llawer o saethu!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|