Lust, Caution (2008)
Y Sêr: Wei Tang, Tony Leung, Joan Chen, Chung-Hua Tou Cyfarwyddo: Ang Lee
Sgrifennu: Eileen Chang (y stori), James Schamus
158 Munud
Adolygiad Shaun Ablett
Prin yw'r ffilmiau o dramor sy'n cael effaith mewn gwledydd fel America a Phrydain - ond mae'r ffilm hon, sy'n cael ei chyfarwyddo gan Ang Lee, yn un sy'n mynd i gael effaith dros y byd i gyd.
Y cefndir yw Shanghai, China, ddiwedd y Tridegau, pan oedd Siapan yn rheoli'r wlad ac mae'n sôn am ferch o'r enw Wong Chia Chi (Tei Wang) sy'n fyfyriwr drama y gadawodd ei thad iddi ddianc i Loegr yn 1938.
Daw Wong yn agos iawn at fyfyriwr arall, Kuang Yi Min (Joan Chen), sy'n cynllunio i ladd Mr Yee (Tony Leung), cydweithiwr o Siapan.
Dewisir Wong i hudo Mr Yee, i rywle lle gellir ei ladd ond nid yw hyn yn gweithio.
Dair blynedd wedi'r digwyddiad hwn mae Wong yn cwrdd Kuang Yi Min sy'n awr yn aelod o gymdeithas dros gael gwared â grym Siapan dros China.
Erbyn hyn mae cynllun arall i ladd Mr Yee a Wong yn dod yn feistres i Mr Yee ond y cynllwyn yn cael ei gymhlethu wrth iddi syrthio mewn cariad ag ef!
Dyma ffilm orau wythnosau cyntaf 2008. Mae'r perfformiadau i gyd yn ardderchog, yn enwedig y prif gymeriad a chwaraeir gan Tang Wei.
Mae'n hyfryd gweld ffilmiau tramor yn creu argraff a'r cyfarwyddwr Ang Lee yn llwyddo i ddangos effaith bywydau pobl mewn gwlad nad yw neb yn cymryd diddordeb mawr ynddi.
Mae'r ffilm hôn yn gymysg o wirionedd, aberth, marwolaeth, brad a pherthynas dau berson a'i gilydd.
Byddwn yn cymell unrhyw un dros 18 oed i'w gweld os yn mwynhjau ffilmiau gyda dyfnder.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|