Hope Eternal (2008) Ffilm ddirdynnol gan Karl Francis
Y mae ffilm gan Karl Francis bob amser yn ddigwyddiad o bwys ac mae hynny'n wir am ei waith diweddaraf a sgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd ganddo, Hope Eternal.
Dywedodd Derith Rhisiart y cynhyrchydd i'r ffilm gael ei gorffen fis Chwefror eleni a'i dangos gyntaf yn NgwÅ·l y Gelli.
Fe'i disgrifiodd fel stori sy'n eich tynnu yn emosiynol bob ffordd ac yn llawn o ieithoedd a diwylliannau gwahanol sy'n cyd-dynnu'n ac asio'n berffaith.
Mae'n cael ei dangos yn y Chapter, Caerdydd Medi 19-25, 2008.
Y Stori
Yn ddwy awr o hyd mae Hope Eternal - sydd wedi ei dangos ar y teledu - yn dweud stori nyrs o Fadagasgar sy'n gweithio mewn hosbis TB ac Aids yn y Congo. Mae ganddi ferch o'r enw Bantu ac mae'n fam sengl.
Yn ei hamser sbâr mae Hope (Christine Rochat Genoud) yn helpu plant digartref: gan edrych ar eu holau, eu dysgu, a'u diogelu rhag unrhyw gamdriniaeth rhywiol.
Mae hefyd yn casglu data o'r camdrinaethau a'u coleddu i elusen yr ydych yn darllen amdani yn y cyfryngau.
Mae ei bywyd wastad mewn perygl.
Mae Hope yn deall yn union beth yw camdriniaeth hefyd gan iddi gael ei cham-drin yn rhywiol o 8-17 oed ei hun. Mae'n haws ganddi drystio plant na dynion.
Pan yw'n cwrdd ac yn syrthio mewn cariad ag Evan (Richard Harrington), meddyg o Gymru, mae'n cynllunio i weld Cymru a newid y byd.
Mae Evan yn cynnau fflam diddordeb am rygbi yn Bantu (Lusungha Munthali) - merch Hope. Mae Bantu yn caru Shane Williams ac y mae asgellwr dawnus yn ymddangos yn y ffilm fel ef ei hun!
Mae Evan yn cael ei lofruddio a phapurau a phasports y ddwy yn cael eu dwyn - mae Hope ar ei phen ei hun eto - heb brawf pwy ydi hi a dyma gychwyn y daith i'r ddwy ddewr i chwilio am eu hunanieth. Mae pobl dda yn helpu, rhai drwg yn distrwyio.
Ffilm rymus, emosiynol a phwerus iawn.
|
|