Superman Returns (2006) Unig fab yn waredwr y byd
Y sêr
Brandon Routh, Kate Bosworth, Kevin Spacey
Cyfarwyddo
Bryan Singer
Sgrifennu
Michael Dougherty, Dan Harris
Hyd
157 munud
Sut ffilm
Superman ydi Superman ydi Superman - ond mae gwedd dywyllach fwy myfiol nag arfer i'r ffilm hon.
Mwy o ddifrifoldeb, llai o hwyl. Mwy o ddwys fyfyrio a llai o chwerthin rhwng yr effeithiau trawiadol wrth i'r Dyn o Ddur gydio mewn awyren sydd ar dân yn yr entrychion a'i gosod yn daclus mewn stadiwm pêl fâs neu godi darn o gyfandir uwch ei ben a'i hyrddio i bellafoedd y gofod.
Ond er gwaethaf pob gwrhydri cafodd un adolygydd ffilmiau ei berswadio i fedyddio'r Superman diweddaraf fel, Sufficientman.
Ac, yn wir, fe wnaiff o a'r ffilm yn iawn am y tro.
Mae hwn hefyd yn Superman gydag islais crefyddol iawn gyda phlethiad o gerddoriaeth nefolaidd a bostfawr bob yn ail!
Y stori
Wedi pum mlynedd yn chwilio'r gofod am weddillion ei hen blaned, Krypton, dychwel Superman (Brandon Routh) i Metropolis i ganfod fod sawl peth wedi newid.
Mae Lois Lane (Kate Bosworth), y newyddiadurwraig y mae persona dynol Superman, Clark Kent, yn gweithio â hi, nid yn unig yn byw â Richard white (James Marsden) nai golygydd y Daily Planet, Oerry White (Frank Langella) ond hefyd yn fam i fachgen pedair oed.
Ond erys rhai pethau yr un fath byth ac yn dragywydd - fel ei hen elyn Lex Luthor (Kevin Spacey) sy'n parhau yn ddrwg yng nghaws Metropolis.
Ei gynllun dieflig y tro hwn yw creu cyfandir newydd ar arfordir yr Unol Daleithiau o ble bydd ef yn rheoli'r byd ac gwneud ei ffortiwn wedi i'r America y gwyddom ni amdani ddiflannu dan y dyfroedd a achosir gan y diriogaeth newydd.
A chyda gwythiennau o Kryptonite yn rhedeg drwy ddaeareg y cyfandir newydd caiff wared â'i hen elyn y dyn anorchfygol mewn dillad glas a mantell goch hefyd - wel mantell fymryn yn llai coch nag yn y gorffennol erbyn hyn.
Ond mae ei drons yn dal dros ei drowsus.
Yr her i Superman yw adfer ei berthynas â Lois, achub Metropolis ac America rhag Lex Luthor a gwneud y byd yn lle diogelach i fyw ynddo
Na dydi pethau ddim yn newid mewn gwirionedd. .
Yr unig ddrwg yw, fod gan Luthor y Kryptonite difaol yn ei feddiant - yr unig wendid yn arfogaeth y Dyn o Ddur.
Yn hynny o beth, hefyd, dydi rhai pethau ddim yn newid!
Y canlyniad Cadwyn o olygfeydd cyffrous lle mae'r gwaredwr anorchfygol yn gwneud Metropolis a'r byd yn lleoedd saffach i fyw ynddynt.
Mae diddordeb hefyd yn y stori garu rhwng Lois a Superman ac yn nheimladau Clark Kent tuag at Lois.
A beth am blentyn Lois a Richard? Yr epil salw sy'n dioddef o asthma ac fel pe byddai ofn ei gysgod. Ai Richard yw ei dad? Be? 'Da chi rioed wedi gweld ffilm o'r blaen? Acwedi anghofio y am noson a dreuliodd Lois ym mreichiau'r Dyn o Ddur dim ond i'r cyfan wedyn gael ei olchi o'i meddwl gan fab enwocaf Krypton. Y dêt rêp eithaf fel petai!
Rhwng hyn a'r alegorïau Cristnogol mae digon i fynd a meddwl rhywun yn Superman Returns.
Ond a ydym angen dwyawr a hanner i'w treulio sy'n gwestiwn arall. Go brin.
Ambell i farn Mae cryn amrywiaeth barn - o 'super stupid' i gwych.
Cyfeirwyd yn barod at adolygydd y New Staesman yn disgrifio'r Superman newydd fel Sufficientman ond dydi honno ddim yn farn sy'n gyffredin i bawb.
Yn ôl gwefan saesneg y 91Èȱ¬ mae Superman Returns yn well nag oedd neb wedi meiddio gobeithio gyda'r cyfarwyddwr, Bryan Singer (X-Men) , yn cael ei ganmol am drin yr arwr gyda pharch a hynny'n ei alluogi i atgyfodi'r hanes "gyda steil, didwylledd a hiwmor".
Ffilm Gristnogol yn ei hanfod meddai'r Observer ac alegori o fywyd Crist ond mae'r adolygydd, Philip French, yn gweld eisiau y ffraethineb a'r gyriant storïol a roddodd Christopher Nolan i Batman Begins yn ddiweddar.
"Epig. Epig iawn, iawn," meddai'r Telegraph
Ond tra dywed yr Independent on Sunday ei fod "yn un o'r ffilmiau arch-arwr mwyaf boddhaol a wnaed erioed" cwyna'r Independent dyddiol nad yw'n peri unrhyw ryfeddod ('wonder') - "hyd yn oed yn yr oes anarwrol hon".
Disgrifia adolygydd y Spectator ei hun yn gwylio'n geg agored gydag edmygedd o'r golygfeydd cyffrous - "open-mouthed, slack-jawed andotherwise agape" gan ychanegu na fu amser gwell i wneud y math yma o ffilm oherwydd yr holl dechnoleg ffilm sydd ar gael ac na fu neb gwell na Bryan singer i gyfarwyddo. Tybed nad y Guardian sy'n taro decaf yr hoelan ar ei phen trwy ddweud i'r ffilm ennill y frwydr - ond dim ond o drwch blewyn. "The battle is won: but only just."
Perfformiadau Disgwylir dau beth gan y sawl sy'n chwarae Superman. Yr arwriaeth Roegaidd honno sy'n gwneud ichi gredu y gall achub bydoedd rhag dinistr ar ôl dinistr bydded y rheini yn rhai naturiol neu o law dyn. A phob yn ail a hynny rhaid wrth ddiniweidrwydd ymddangosiadol loiaidd Clark Kent, gohebydd trwsgwl y Daily Planet sy'n cuddio'r gyfrinach fawr rhag Lois a'r byd y tu ôl i sbectol.
Ac yn hynny o beth mae Brandon Routh yn llwyddo'n rhyfeddol.
Yr un mor rhyfeddol yw ei debygrwydd i'r diweddar Christopher Reeve y mae'n ei olynu yn y rhan ac fel Reeve, pan welwyd yntau gyntaf yn y rhan, mae Routh hefyd yn anadnabyddus i'r rhan fwyaf ohonom. Ond os bydd dilyniant i'r ffilm hon does dim rheswm o gwbl dros beidio â'i alw yn ôl.
Yn wir, mae Routh yn llawer iawn gwell Superman/Kent nag yw Kate Bosworth o Lois Lane ac mae rhywbeth mawr yn eisiau yn y berthynas actio rhwng y ddau.
Yr oedd yr her a wynebai Kevion Spacey cyn gymaint bob tamaid â'r un a wynebai Routh. Nid ar chwarae bach y dilynid Gene Hackman fel Lex Luthor ac oherwydd diffygion yn y sgrifennu dim ond yn rhannol y llwydda Spacey er cystled actor yw e.
Dim ond mewn rhai golygfeydd y mae'n rhagori - fel yr un a ddefnyddir yn y trelar sy'n hyrwyddo'r ffilm.
Dywedodd ef mai ei fwriad oedd chwarae ei Luthor ei hun yn hytrach nag efelychu Hackman ond mae cysgod hwnnw mor drwm dros y cymeriad pwy all ei anghofio?
Heb os yr hoff 'ran fach' ym mhob un o'r ddilmiau Superman yw un cwbl ystrydebol Perry White, golygydd y Daily Planet ac mae Frank Langella yn fendigedig. vTri pheth, meddai, sy'n gwerthu papurau newydd; "Trychineb, Rhyw a Superman" a'r mwyaf o'r rhai hyn i Perry ar y funud ydi . . .
Darnau gorauY dychweliad i'r ddaear trwy lygaid Superman o bellafoedd eithaf y gofod yn yr olygfa agoriadol. Mae'n wych - trueni am yr enwau sy'n tarfu ar y golygfeydd!
Cerddoriaeth Lex Luthor a Lex ar y piano.
Y graig yn codi drwy'r llong wrth i'r cyfandir newydd gael ei greu.
Y colofnau tân..
Rhai geiriau"Mae'r mab yn dod yn dada'r tad yn dod yn fab. . ." Y? "Gobeithio nad yw hyn wedi eich troi yn erbyn hedfan. Mae'n parhau y ffordd ddiogelaf o deithio."
"Tri pheth sy'n gwerthu papurau newydd - trychinebau, rhyw a Superman."
"Anfonais ti atyn nhw, fy unig anedig fab."
"Fe ddywedais ti nadyw'r byd angen gwaredwr ond bob dydd yr wyf yn clywed pobl yn erfyn am un."
"Mae Superman yn farw - mae Superman yn fyw" - dau bennawd 'rhag ofn' Perry White ar gyfer dalen flaen y Daily Planet.
Gwerth ei gweld?Er yn hir, mae'n haws i'w gwylio na sawl blocbystar diweddar. Ac mae digon i'w drafod; o gymharu actorion newydd mewn hen rannau i'r thema grefyddol gref.
Ond peidiwch a disgwyl cystal datblygiad ac a gafwyd yn Batman Begins nac yn yr ail SpiderMan na'r un faint o hiwmor ac a gafwyd yn y tri Superman blaenorol.
Cysylltiadau Perthnasol
Y Superman crefyddol - gweler ein gwefan crefydd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|