Gavin and Stacey Cyfres deledu Gymreig ar DVD
Adolygiad Shaun Ablett o DVD Gavin a Stacey gan y 91Èȱ¬.
Mae i'r 91Èȱ¬ draddodiad o gynhyrchu dramâu doniol iawn - fel yr Office, Extras a My Family a byddwch yn hapus o glywed am lwyddiant arall gyda chyfres seml a doniol Gavin a Stacey yn ymwneud â chymeriadau Cymreig naturiol iawn.
Mae'r stori yn troi o gwmpas menyw o'r Barri a bachgen o Essex sy'n syrthio mewn cariad dros y ffôn o fod yn siarad am fisoedd ond heb erioed gwrdd â'i gilydd.
Ond daw y dydd pan fo'r ddau yn trefnu i gyfarfod yn Llundain gan ddod a ffrind yr un gyda nhw - Nessa a Smithy.
Mae eu cariad yn blaguro ar unwaith ond cicio a brathu yw hi rhwng Smithy a Nessa er eu bod yn debyg iawn i'w gilydd!
Yn y penodau sy'n dilyn canolbwyntir ar berthynas Gavin a Stacey ac ymhen dim mae Gavin yn gofyn iddi ei briodi a'r briodas yw testun y bennod olaf.
Cawn berfformiad da gan Joanna Page sy'n chwarae Stacey a chan Mathew Horne fel Gavin.
Yr un modd, James Corden a Ruth Jones fel Smithy a Nessa a hwy hefyd yw'r awduron.
Ond, i mi, y cymeriad sy'n sefyll allan yw Bryn, sef wncwl Stacey, gyda Rob Brydon yn fythgofiadwy yn cyfrannu adegau doniol iawn.
Y peth gorau am Gavin and Stacey yw pa mor syml yw hi a'r elfennau Cymreig cryf iawn.
Stori am ddau gymeriad o deuluoedd a chefndiroedd hollol wahanol yn cwympo mewn cariad.
Bydd pobl o bob oed yn hoffi Gavin a Stacey felly prynwch y DVD nawr, i gael gweld pa mor ddoniol yw e - o'r fan lle mae Bryn yn mynd ar goll ar y ffordd i Essex i'r fan lle mae'r Smithy a Nessa meddw yn bwrw pen-ôlau ei gilydd wrth ddawnsio.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|