Night at the Museum (Rhagfyr 2006) Pan fo pawb yn cysgu - dydi pawb ddim yn cysgu
Y sêr
Ben Stiller, Robin Williams, Dick Van Dyke, Ricky Gervais, Steve Coogan, Owen Wilson, Mickey Rooney, Jake Cherry
Cyfarwyddo
Shawn Levy
Sgrifennu
Robert Ben Garant, Thomas Lennon - wedi ei seilio ar lyfr Milan Trenc.
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Comedi antur gyda chyffyrddiadau rhamantus, sentiment a moeswers a la UDA.
Y stori
Yn dilyn ei ysgariad, tad dydd Sadwrn ydi Larry (Ben Stiller) i'w fab bychan (Jake Cherry) ond, ac yntau'n methu cadw unrhyw job mae mewn peryg o golli ymddiriedaeth ei blentyn.
Er mwyn ceisio diogelu eu perthynas cytuna Larry i fod yn warchodwr nos mewn amgueddfa hanes naturiol yn Efrog Newydd a gwneud ymdrech deg i fod yn 'gyfrifol'.
Ond nid amgueddfa gyffredin mo'r amgueddfa hon gan fod yr arddangosfeydd - sy'n cynnwys sgerbwd Tyrosanus Rex, llewod wedi'u stwffio, mamoth, pobl o Oes y Cerrig, Attila the Hun, cadfridog Rhufeinig (Steve Coogan) a chowboi (Owen Wilson) tegan sy'n ffraeo'n benben, ac un o gyn arlywyddion yr Unol Daleithiau (Robin Williams) - yn dod yn fyw rhwng machlud haul a thoriad gwawr gan greu pob math o anhwylustod a dychryn i'r gwarchodwr heb sôn am ei gael i drwbwl gyda chyfarwyddwr yr amgueddfa (Ricky Gervais yn ei groen David Brent).
Y canlyniad
Er mor annhebygol, gwirion ac afresymegol y stori mae hon yn orig ddigon difyr i'r teulu cyfan ac yr oedd cryn chwerthin (ar yr adegau iawn) yn ystod y perfformiad.
Mae'r syniad o bethau difywyd yn troi'n fyw pan fo pobl yn huno ymhell o fod yn un gwreiddiol. Yn y Pumdegau yr oedd Teulu'r Cwpwrdd Cornel yn y Gymraeg i fyny a phob math o driciau berfeddion nos.
Ym myd ffilmiau mae gennym ni eisoes Jumanji, Toy Story a'r Indian in the Cupboard. - ond dydi hynny ddim yn rheswm i'r peth beidio gweithio eto. Ble byddem ni, pe byddai gwaharddiad ar Hollywood i ymweld â hen syniadau?
Go brin fod angen dweud fod yr effeithiau technegol mor gampus a'r disgwyl gan gynnwys y T-Rex yn ymddwyn fel ci eisiau ichi daflu asgwrn iddo i'w nôl.
Nid bod dim yn wreiddiol yn hynny ychwaith i'r rhai a welodd hysbysebion diweddar Renault lle mae car yn dynwared ci yn cael ei ollwng o'i gwt!
Perfformiadau Mae Stiller yn llwyddo'n well na'r disgwyl fel y breuddwydiwr o dad sy'n methu cadw job ar ôl job ac mewn peryg o suro'r berthynas rhyngddo ef â'r mab y mae yn amlwg yn hoff iawn ohono.
Siomedig, fodd bynnag, yw Ricky Gervais a dyw ei David Brent ddim yn gyfforddus o fewn y cyd-destun hwn nac yn argyhoeddi. Yn cael llawer iawn gwell hwyl ar bethau mae Owen Wilson fel model cast o gowboi sy'n ffraeo'n barhaus â chadfridog Rhufeinig o'r un maint ag ef - cyfle yma am sawl jôc 'maint' ac i ffilmio golygfeydd wedi eu dwyn yn syth o stori Gulliver. Boddhaol ydi Robin Williams fel yr Arlywydd Teddy Roosvelt sydd ond yno mewn gwirionedd i wthio'r stori yn ei blaen ac i roi llais i ambell i foeswers Americanaidd siwgwraidd.
Ac wrth gwrs bydd gan bawb ddiddordeb ym mherfformiad Dick Van Dyke fel cyn warchodwr nos yr Amgueddfa gyda'i ddau gydymaith, Bill Cobbs a Mickey Rooney gegog, gwerylgar.
Ambell i farn Ni chafodd pawb ei blesio gyda'r Guardian yn disgrifio'r ffilm fel "comedi ofnadwy" a pherfformiad Gervais fel un sy'n marw ar ei draed fel blodyn wedi ei osod ar blaned Plwto.
"Am y tro cyntaf yn ei yrfa," meddir, "mae ei bresenoldeb yn embarasment."Mae gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ yn llawer caredicach gan ddweud fod yr ymweliad hwn ag amgueddfa yn hwyl a'r golygfeydd gyda Stiller yn gyffrous a doniol. Wedyn, mae'r Wales on Sunday yn rhoi'r ffilm yn gyntaf ar ei restr deg uchaf gyda phedair seren allan o bump.Rhy hir ac yn ddiddychymyg - "uninventive" - ydi barn yr Observer fodd bynnag ond y mae'n croesawu cameo Mickey Rooney 86 oed ond heb gyfeirio o gwbl at Dick Van Dyke!
Darnau gorauY T-Rex.Y Cowboi a'r Rhufeiniwr yn dychwelyd i'r Amgueddfa.Dial ar y mwnci.
Gwerth ei gweld? Fel ffilm i'r teulu wedi'r Dolig mae'n ddifai. Yn llawer iawn mwy o hwyl na'r sêls.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|