Down in the Valley Dryllio breuddwyd Americanaidd
Y sêr
Edward Norton, Evan Rachel Wood, Rory Culkin, Bruce Dern
Cyfarwyddo a sgrifennu
David Jacobson
Hyd
125 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Ffilm ddwys sy'n ysgogi'r meddwl ac yn archwilio'r y cysyniad o'r 'Feudddwyd Americanaidd' drwy awgrymu nad yw delfryd yr hen America bellach yn medru bodoli yn y byd modern.
Ar un ochr, roedd arloesi y gorllewin gwyllt wedi creu cyfleon i bawb, ond bellach mae'r hen obeithion wedi mynd yn anodd iawn i'w gwireddu.
Y stori
Mae Tobe, (Evan Rachel Wood) merch ifanc wrthryfelgar, yn dechrau perthynas gyda Harlan (Edward Norton) sydd yn grwydrwr carismatig sy'n breuddwydio am fyw bywyd hen ffasiwn y cowbois.
Mae'r byd cyfforddus a breuddwydiol hwn yn apelgar iawn i Tobe, a'i brawd bach, gan nad yw eu bywyd cartrefol yn sefydlog a llawn cariad.
Mae'r berthynas rhwng Tobe a'i thad yn dirywio ymhellach pan fo'n cwrdd â chariad newydd ei ferch.
Gan nad yw'n hapus fod ei blant yn ymwneud â Harlan mae'n bygwth ei saethu ond mae'r weithred hon yn arwain at sefyllfa llawer gwaeth - a thrasig.
Y canlyniad
Yn debyg i'r hyn a gyflawnodd David Cronenberg gydag A History of Violence yn ddiweddar, mae hon yn ffilm sy'n benthyg strwythur a fformat y Western, a'i osod mewn cyd-destun modern yn America, a dwi'n falch o ddweud ei fod yn llwyddo i fod yn ddathliad o'r genre yn hytrach na dwyn oddi arno.
Yn anffodus, mae nifer o olygfeydd penodol yn benthyg ychydig yn rhy hael o nifer o ffilmiau o'r 70au fel Taxi Drivera Badlands ond er hyn, mae'r stori yn datblygu mewn modd crefftus dros ben ac mae'n anodd iawn rhagweld y cyfeiriad mae'r awdur yn mynd a chi tan tua hanner ffordd drwyddi, sy'n anarferol iawn mewn ffilmiau Hollywood y dyddiau hyn.
Mae'n rhaid dweud fod y golygfeydd o dirwedd cwm San Fernando yn Los Angeles yn wefreiddiol, ac mae'r gwrthgyferbyniad trawiadol rhwng prysurdeb, traffyrdd, adeiladau uchel y Byd modern, a thawelwch y mynyddoedd dramatig uwchlaw yn ychwanegu a chryfhau'r thema cyffredinol y stori.
Mae'r arddull hamddenol a cherddoriaeth llawn naws ramantaidd y gorllewin gwyllt yn effeithiol iawn yn yr hanner cyntaf, ond wrth i'r trywydd newid - a'r ddrama yn datblygu, teimlais na lwyddodd y cyfarwyddwr i gyflymu ac addasu yr arddull i gyfateb a'r sefyllfa, ac o ganlyniad roedd hyn wedi cyfrannu at ddiffyg tensiwn a momentwm tuag at y diwedd.
Ambell i farn Down in the Valley is a potent indie drama about what happens if you think you're living in a cowboy film when you're actually living on the outskirts of Los Angeles" meddai Nicholas Barber o'r Independant. Down in the Valley dares you to explore the violence of the mind. Take the dare. It's something rare these days: untamed," meddai Peter Travers o Rolling Stone Magazine.
Perfformiadau Nid yn unig fod talent aruthrol gan Edward Norton fel actor, ond mae ganddo hefyd y ddawn o ddewis prosiectau sydd wastad yn sialens, dwys ac yn wahanol i'r confensiynol.
Er ei oed, mae perfformiad Rory Culkin (brawd yr enwog Macaulay Culkin o'r ffilmiau 91Èȱ¬ Alone) yn hynod sensitif ac aeddfed fel hogyn ifanc sy'n crefu cariad tad. Mae'n sicr yn enw i'w gofio yn y blynyddoedd i ddod.
Gwerth ei gweld?
Ffilm diddorol a gwreiddiol ar y cyfan, sy'n llawn symbolaeth a pherfformiadau sy'n disgleirio.
Mae'r stori yn dueddol i fynd ar gyfeilion tuag at y diwedd ond oherwydd imi ddeall prif amcanion a neges y gwneuthurwyr a beth yr oedden nhw yn ceisio'i gyflawni, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi mwynhau ac edmygu'r ffilm yn ei chyfanrwydd. Yn sicr, yn ffilm sydd werth ei gweld!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|