Ailadrodd stori i adlewyrchu ofnau'n hoes
Y sêr
Tom Cruise, Miranda Otto, Justin Chatwin, Dakota Fanning, Tim Robbins
Cyfarwyddwr
Steven Spielberg
Sgrifennu
Josh Friedman a David Koepp, yn seiliedig ar nofel H. G. Wells
Hyd
116 munud
Adolygiad Grahame Davies
The War of the Worlds, gan H.G.Wells yw un o'r storïau hynny y mae pob cenhedlaeth, fel petai, yn teimlo'r angen i'w hail-adrodd.Ac mae fersiwn newydd Steven Spielberg, fel y gellid disgwyl, yn dweud llawer am ofnau a disgwyliadau ein hoes, yn ogystal ag yn darparu'r iasau a'r golygfeydd trawiadol y mae rhywun yn edrych amdanynt gan gyfarwyddwr o statws hwn.
Mae'n rhaid imi ddweud imi edrych ymlaen yn fawr at y ffilm hon, gan i'r stori fod yn un o fy ffefrynnau ers fy mhlentyndod.
Coeliwch neu beidio, gan fy nain yr etifeddais fy niddordeb yn y ffuglen wyddonol greiddiol hon. Hwyrach yr ymddengys yn od fy mod wedi cael fy nghyflwyno i ragoriaethau sci-fi gan rywun a aned i deulu o löwyr Cymraeg yn 1906, a adawodd ysgol yn 14 oed, ac a aeth i weithio maes o law fel morwyn. Ond dyna a fu.
Beth ddigwyddodd oedd bod fy nain yn gweithio i deulu o fyddigions yn Surrey, sef yr union ardal lle y gosodwyd y nofel arloesol hon, a gyhoeddwyd yn 1898. Oherwydd y cysylltiad lleol hwnnw, fe lyncodd hi'r stori yn awchus, gan basio ei brwdfrydedd ymlaen i mi lawer o flynyddoedd wedyn. Hyd yn oed wrth ddarlunio rhyfel rhwng dwy blaned, mae'r cysylltiad lleol yn bwysig!
Dial am yr ymerodraeth?
Yn ei nofel, roedd Wells wedi darlunio pŵer mwyaf y byd, bryd hynny, sef Lloegr, yn cael ei oresgyn yn y ffordd fwyaf didrugaredd gan lu o greaduriaid o'r blaned Mawrth. Defnyddiodd Wells arddull naratif lle roedd y storïwr fel pe bai'n cofnodi hanes go-iawn. Roedd hyn yn rhoi naws o realaeth anghyffyrddus i'r cyfan.
Un o ddiddordebau Wells, fel anffyddiwr ymosodol, oedd tanseilio cred dynion mai nhw oedd canolbwynt y cread. Roedd wrth ei fodd yn dangos breuder ymerodraeth dyn a gwendidau'r cymeriad dynol, a beth gwell na thrychineb fyd-eang am wneud hynny?
Mae'n debyg mai rhyw fath o ddameg yn erbyn y ffordd roedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn trin ei threfedigaethau oedd hi i fod hefyd, gyda Wells yn cymryd dileit yn y ffordd mae'r gelynion o'r gofod yn difrodi'r brifddinas ymerodraethol.
Roedd 'na is-destun o ddyngasedd yng ngwaith Wells hefyd, fel y dengys John Carey yn ei bennod 'H.G.Wells getting rid of people' yn ei lyfr The Intellectuals and the Masses, a brofodd fel yr oedd Wells, oedd yn ofni gor-boblogi wrth i gymdeithas ddiwydiannol ddatblygu yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn lleddfu'r pryder hwnnw gyda ffantasïau lle cawsai poblogaeth y byd ei lleihau mewn dulliau drastig iawn.
Felly, er ei fod ymhell o flaen ei oes gyda natur ei stori a'i arddull naratif, dyn ei oes ydoedd o hyd o ran ei ofnau.
Achos ofn sydd wrth wraidd llwyddiant y stori aflonyddol hon.
Adlewyrchu ofnau'r oes
Y tro cyntaf i stori War of the Worlds gael ei darlledu oedd yn 1938 pan greodd y cyfarwyddwr Americanaidd, Orson Welles, fersiwn radio, gan symud y digwyddiadau i Grover's Mill, New Jersey.
Fel y gwyddys, fe arloesodd Welles dechneg ddramatig o wneud i'r sioe radio swnio fel cyfres o fwletinau newyddion yn adrodd digwyddiadau go-iawn. Fe ddychrynwyd rhai o'r gynulleidfa am eu bywydau, gan iddynt gredu bod y Martians wir wedi glanio. Aeth rhai ohonynt i guddio yn eu seleri gan gymaint eu braw.
Wrth gwrs, 1938 oedd hynny, gyda chymylau rhyfel eisoes ar y gorwel. Roedd Welles wedi rhoi ei fys ar fan gwan iawn yn y psyche Americanaidd.
Y ffilm gyntaf o'r stori oedd yn 1953, gyda George Pal yn cynhyrchu fersiwn lliw, gyda'r digwyddiadau y tro hwn wedi eu symud i gyffiniau Los Angeles. Fersiwn digon effeithiol oedd hwn hefyd, gyda brwydr rhwng y fyddin a pheiriannau hedfan y goresgynwyr yn ganolbwynt lliwgar.
Yn y pumdegau, Comiwnyddiaeth oedd y bygythiad mawr, ac mae ôl gwleidydda digon llawdrwm ar y ffilm honno mewn mannau wrth iddo bwysleisio rhinweddau a gwerthoedd Americanaidd. Er enghraifft, tra bod y sosialydd Wells (H.G. nid Orson) wedi mynd allan o'i ffordd yn y nofel wreiddiol i ddarlunio cymeriadau crefyddol fel rhai gwan a hunanol, aeth ffilm George Pal i'r cyfeiriad arall gan ddangos crefydd fel un o amddiffynfeydd gwareiddiad.
Wedyn yn 1977 fe gafwyd fersiwn gerddorol o'r stori gan Jeff Wayne, gyda chaneuon yn cyflwyno'r uchafbwyntiau, a llais dihafal Richard Burton yn darllen y naratif. Hwn oedd un o'r albymau mwyaf llwyddiannus erioed, gan werthu 13m o gopïau. Ac yn ddiddorol iawn, hwn oedd yr unig fersiwn uchelgeisiol o'r stori hyd yn hyn i gael ei osod yn y cefndir a'r cyfnod gwreiddiol, sef troad yr ugeinfed ganrif yn Llundain. Mae pawb arall wedi teimlo'r angen i ddiweddaru a newid y lleoliad.
Fersiwn Spielberg
Â'r stori bellach wedi cyrraedd ei thrydedd ganrif, diweddaru'r stori yw yn union beth y mae cyfarwyddwr amlycaf ein cyfnod ni wedi gwneud.
Mae'r lleoliad wedi newid i New Jersey - teyrnged amlwg i fersiwn Orson Wells - a'r cyfnod yw y presennol, sef y byd ansicr ôl-Medi'r-unfed-ar-ddeg.
Ar wahanol adegau yn y ffilm mae'r cymeriadau yn meddwl tybed mai rhyw fath o derfysgaeth yw'r ymosodiadau sydd wedi dod i ran eu byd. Ac fe geir adlais anghysurus iawn o 9/11 wrth i gymeriad Tom Cruise gael ei daenu gyda llwch a ddaeth o ganlyniad ymosodiadau pelydr-tân y goresgynwyr.
Tad dosbarth-gweithiol wedi ysgaru yw cymeriad Cruise, Ray Ferrier. Am y penwythnos mae ganddo ofal ei blant, yr arddegwr unsill Robbie, (Justin Chatwin) a'r ddeg-oed a bregus Rachel (Dakota Fanning).
Ar ôl agoriad digon effeithiol lle gosodir deinameg y teulu toredig hwn yn gynnil, buan iawn y sylweddola Ray fod ganddo fwy o broblemau ar y penwythnos hwn na chadw trefn ar ei dylwyth, wrth i storom ryfedd o fellt ymddangos uwchben y ddinas.
Mae Spielberg yn feistrolgar wrth adael i'r tyndra gynyddu'n raddol. Ceir golygfa gofiadwy lle mae'r cymdogion yn sefyll yn ei geirddi yn gwylio'r storm, gyda'r golch ar eu llinellau yn cyhwfan yn wyllt yn y gwynt. Wedyn, fe ddaw'n amlwg fod y mellten wedi stopio pob peth electronaidd, a bod bollt ar ôl bollt wedi taro'r un fan ynghanol y dref.
I'r fan honno yr â Ray, i sefyllian a syllu gyda gweddill y cymdogion, dim ond iddo orfod ffoi am ei fywyd ymhen munudau wrth i beiriant teircoes anferthol wthio ei hun drwy'r tarmac a dechrau difa popeth mewn golwg gyda phelydr tân. A ffwrdd â ni, wrth i Ray frwydro yn erbyn pob rhwystr i achub ei deulu rhag yr ymosodiad anesboniadwy hwn, tra, wrth gwrs, yn dysgu llawer am sut i fod yn dad cyfrifol ar y ffordd.
Golygfeydd cofiadwy
Ac ar y ffordd honno fe geir rhai golygfeydd cwbl deilwng o feistr fel Speilberg. Un sy'n glynu yn y cof yw pan mae llu o ffoaduriaid yn aros wrth groesfan rheilffordd wrth i'r barier ddod i lawr. Fe glywn y trên yn dod, ac wedyn, wrth iddo ruthro drwy'r groesfan, fe welir ei fod yn wenfflam, o'r injan i'r cerbyd olaf. Gweledigaeth hunllefus.
Un o'r rhesymau pam y bûm yn edrych ymlaen at weld y ffilm hon yw am fod technegau effeithiau-arbennig wedi datblygu cymaint ers dyddiau ffilm George Pal, pan fu rhaid i'r tîm cynhyrchu greu'r pelydr tân hanfodol drwy losgi darn o weiran o flaen y camera yn y stiwdio, a phan fu rhaid dangos peiriannau'r Martians fel rhyw fath o soseri hedegog yn lle teclynnau teircoes am nad oedd modd iddyn nhw greu modelau digon effeithiol.
Ni'm siomwyd yn hynny o beth. Mae'r peiriannau ymladd yn ffilm Spielberg lawn mor frawychus ag unrhywbeth a ddychmygodd Wells.
Ond fe'm siomwyd mewn ffordd ddyfnach. Mae'n ymddangos yn beth od i'w ddweud, ond er gwaethaf cyllideb o $128m a chyfoeth o dechnegau cyfrifiadurol at wasanaeth y gwneuthurwyr, mae'r ffilm fel petai wedi crebachu ei gorwelion yn hytrach na'u hehangu o'i gymharu â fersiynau blaenorol.
Gorwel rhy gyfyng
Y broblem yw iddyn nhw ddewis dangos y cyfan o safbwynt Ray. Golyga hyn fod y ffilm yn effeithiol iawn yn dangos effaith digwyddiadau erchyll byd-eang ar un person, ond yn fethiant o ran dangos effeithiau digwyddiadau erchyll byd-eang ar y byd.
Ac wedi'r cyfan, dyna'r hyn sy'n denu'r gynulleidfa, a'r artist, yn ôl at y stori hon: stori'r ddynoliaeth yn brwydro am ei bywyd yw hi. The War of the Worlds, yw hi i fod, ac oni cheir darlun go lew o'r rhyfel planedol hwnnw, yna mae'r ffilm wedi methu'r nod.
Mae dangos y cyfan o safbwynt cyfyng a chlawstroffobaidd Ray Ferrier megis gwylio ffilm am un o gemau rygbi enwocaf Cymru yn gyfan gwbl o safbwynt y bachwr, Robin McBryde - lot fawr o chwysu a gwthio yn nhywyllwch y sgrym, a dim ond ambell i gip ar y darlun ehangach. Profiad dwys, yn sicr, ond hanfodol anfoddhaol fel persbectif ar y gêm.
Maddeuer y rhyfelgarwch, ond siom hefyd oedd peidio â gweld yr un ymgais ddynol i lorio un o'r peiriannau ymladd hyd nes bod y ffilm bron drosodd. Gan mai symbol canolog y frwydr unochrog yw gweld technoleg gyntefig dyn yn cwrdd â thechnoleg uwch a pheryclach - 'bows and arrows against the lightning' fel y'i rhoddir yn y nofel - mae hyn yn ddiffyg gweledog a storïol sylweddol iawn.
Y cyfan a gawn yw gweld un confoi o filwyr ar eu ffordd i gyfeiriad perygl, a golygfa estynedig arall lle gwelwn wahanol fathau o galedwedd milwrol yn diflannu dros fryn i gyfeiriad y gelyn, heb ddychwelyd. Nid wn i ai bwriadol oedd gadael i'r frwydr digwydd oddi ar y llwyfan fel pe bai mewn drama Roegaidd - neu mewn ffilm heb fawr o gyllideb - ond roeddwn wedi gobeithio am arlwy dipyn yn well gan gyfarwyddwr Saving Private Ryan.
Roedd hyd yn oed H.G. Wells yr heddychwr wedi bod â digon o synnwyr i ddarlunio nifer o frwydrau cyffrous rhwng lluoedd dynion a'r peiriannau ymladd.
Tyndra ac arswyd
Does dim dwywaith am yr arswyd a'r teimlad o fygythiad sy'n hydreiddio ffilm Speilberg. Mae'n gafael fel feis yn gynnar iawn, ac yn tynhau wrth fynd ymlaen. Mae'r cywair yn dywyll iawn hefyd, gydag adleisiau, yn ymylu ar y di-chwaeth, o ddelweddaeth yr Holocost ac o Fedi'r unfed ar ddeg, a chyda Dakota Fanning yn personoli arswyd pur mewn ffordd gredadwy a dirdynnol iawn. Nid un i'r plantos mo'r ffilm hon yn sicr.
Ond fe'i cefais yn anesboniadwy bod Spielberg wedi gadael i'r tyndra costus hwnnw lithro trwy ei ddwylo wrth greu diweddglo'r ffilm. Tra bod ffilm 1953 wedi cynyddu'r tyndra i uchafbwynt wrth i weddillion poblogaeth Los Angeles geisio lloches (mewn eglwys, wrth gwrs) wrth i'r peiriannau ymladd nesau, mae Speilberg fel pe bai'n llacio'i afael gan adael i ddiwedd y ffilm fod yn ddisgynneb ddigamsyniol.
Ac fe geir ambell i dwll sylweddol yn y plot. Mae awydd mab Ray, Robbie, i redeg i ffwrdd ddwywaith, yn ddi-arfau, i gyfeiriad y frwydr, yn amhosibl i'w ddeall. Fe'm hatgoffwyd o ymosodiad cymeriad Tom Hanks ar y gwn peiriant Almaenaidd yn Saving Private Ryan - roedd yn ddyfais i symud y digwydd i fan gwahanol, ond yn anghredadwy o ran ymddygiad a chymhelliad y cymeriad.
Mae'r syniad bod y peiriannau wedi bod ynghudd dan y ddaear am filiynau o flynyddoedd hefyd yn ychwanegiad diangen - ydyn ni i fod i gredu na fuasai cloddwyr mwynfeydd a thwneli rheilffordd ddim wedi darganfod o leiaf un ohonyn nhw yn ystod y cyfnod hwnnw?
Rhoi seren cyn y stori?
Ond hwyrach y ceir cliw i un o wendidau pennaf ffilm wrth edrych ar y credits: 'Tom Cruise, War of the Worlds' ac wedyn gweddill y cast yn dilyn. Ar y gorau, nid Cruise yw'r dyn am astudiaeth amlochrog o gymeriad, ond mae'r penderfyniad i ganolbwyntio'r ffilm ar ei gymeriad digon dau-ddimensiwn ef gan adael stori am ddinistr y byd fel rhyw fath o gefnlen, yn gam gwag.
Mae'r ffilm yn werth ei gweld, ydy, am rai o'r golygfeydd gosod, fel y storom fellt gychwynnol, y peiriant ymladd yn rhwygo o'r ddaear, y trên ar dân, a'r tyndra, bron annioddefol pan mae Ray a'i deulu yn cuddio mewn hen dŷ rhag yr anghenfilod - golygfa, mae'n rhaid dweud oedd yn hynod debyg i un yn Jurassic Park.
Ond mae'r ffilm gyfan yn llai na'i rhannau, ac mi fyddaf yn awr yn edrych ymlaen at y fersiwn ffilm gyntaf erioed i geisio darlunio stori wreiddiol Wells yn ei chyfnod a'i lleoliad cywir, sef cynhyrchiad Pendragon Productions o 'H.G.Wells' War of the Worlds'.
Gobeithiaf na fydd siom yn fy aros eto. Tybed be fyddai nain wedi ei feddwl?