Elizabeth: The Golden Age (2007) Rhamant, cynllwyn, arwriaeth a thatws
Y sêr
Cate Blanchett, Clive Owen, Samantha Morton, Geoffrey Rush, Abbie Cornish
Cyfarwyddo
Shekhar Kapur
Sgrifennu
William Nicholson, Michael Hirst.
Hyd
115 munud
Sut ffilm
Rhamant, cynllwyn, arwriaeth a thatws yn llys yr wyryf enwocaf i fod yn frenhines Lloegr - a ffilm sy'n gwneud ichi holi faint fydd hi nes bydd Cate Blanchett yn chwarae rhan Mrs Thatcher mewn ffilm am y 'frenhines' wleidyddol honno.
Y stori
Er ei bod bron i ddeng mlynedd ar hugain (30) yn hynach na phan welsom ni hi o'r blaen yn llances ifanc yn ei hugeiniau yn Elizabeth (1998) dydi'r Elizabeth Gyntaf (Cate Blanchett) ddim wedi heneiddio odid ddim ac mae'n dal mor ddeniadol wyryfol ag erioed yn rheoli ei theyrnas yn haearnaidd gyda'r awgrym lleiaf o'r tegwch hwnnw sy'n gwneud y Saeson yn gymeriadau mor hawdd cymryd atyn nhw.
A hithau'n awr yn 55 oed mae Syr (cyn diwedd y ffilm) Walter Raleigh (Clive Owen) newydd ddychwelyd o'r America gyda sachaid o datws sy'n mynd i drawsnewid cinio ysgol am byth wedyn a choflaid o ddail baco sy'n mynd i drawsnewid toiledau ysgol am byth wedyn.
Yn naturiol, mae'r frenhines yn syrthio mewn cariad gyda'r anturiaethwr golygus sy'n taflu ei glogyn dros bwll o ddŵr er mwyn arbed ei thraed rhag gwlychu ac ar ennyd dawel mae'n cyfaddef iddo ei bod yn ysu am fywyd mwy naturiol o gariad, priodas a phlant.
Ond nid felly mae hi i fod gan fod Walt yn syrthio mewn cariad a Bess (Abbie Cornish), prif forwyn (Lady in Waiting) y frenhines.
Yn waeth byth mae'r Pabyddion a Mary Brenhines y Scotiaid (Samantha Morton) yn cynllwynio i'w diorseddu mewn cydweithrediad a Philip II (Jordi Molla), brenin Sbaen sy'n trefnu i anfon ei lynges enfawr (Yr Armada) i ymosod ar Loegr a dymchwel Elizabeth.
Fel y gwyddom, weithiodd hynny ddim diolch yn bennaf, yn ôl y ffilm hon, i wrhydri rhyfeddol Walt sy'n neidio i'r dŵr a nofio dan yr Armada er mwyn . . . wel, dydi hi ddim yn eglur iawn pam; ond dyna wnaeth o.
A mynd am fygyn a phryd iawn o stwnsh tatws wedyn - Na, na, jyst jocan.
Beth bynnag, swm a sylwedd y cyfan yw i'r Armada fynd dan y don, i Mary golli'i phen yn llythrennol ac yr ydym ni'n awr bedwar can mlynedd yn ddiweddarach yn ymladd ein brwydrau ein hunain yn erbyn baco sy'n ein lladd a thatws sy'n ein gwneud yn rhy dew.
A hynny ddim ond yn un o'r ffyrdd y mae'r ffilm hon yn rhoi persbectif i Hanes.
Y canlyniad Mewn gair; siomedig Hynny'n bennaf oherwydd na allwn ymroi i'r cymeriadau a theimlo bod gennym ots o gwbl beth a ddigwydd iddyn nhw.
Ac y mae yma ymdrech rhy amrwd i greu cyffelybiaeth rhwng y bygythiad o Sbaen a bygythiadau terfysgwyr modern a'r pwyslais ar y syniad o degwch sy'n rhan mor anhepgor o Brydeindod a'i barch tuag at ryddid i fynegi barn a goddefgarwch tuag at y rhai sy'n anghydweld hyd yn oed.
Ond fe lwyddodd y ffilm i gyffroi'r dyfroedd ymhlith Catholigion trwy ddarlunio Pabyddiaeth y cyfnod fel rhywbeth peryglus yn wleidyddol a chrefyddol.
Ar y rhaglen radio Bwrw Golwg 4 Tachwedd 2007 Evan Morgan o Gaerdydd fu'n rhoi ymateb:
"Yn gyffredinol roedd yn ffilm braidd yn siomedig - roedd yr holl gynhwysion yno, roedd yr actio yn wych, Cate Blanchett yn mynd am ei Hoscar, ac wedyn yr holl wisgoedd a sut yr oedden nhw wedi saethu'r ffilm, golygfeydd rhagorol ond eto doedd yna ddim rhyw fath o sbarc yn ffilm am gyfnod mor gyffrous, mor dywyll yn ein hanes fel Prydain Fawr," meddai.
Ychwanegodd fod y ffilm gyntaf - yn 1998 - yn un llawer iawn mwy cyffrous ac yr oedd yn feirniadol na chrëwyd "cymeriadau sy'n argyhoeddi".
"Yr oedd hi yn fformiwlaig iawn yn dilyn rhyw batrwm ac yr ydym yn gweld Elizabeth ar gefn ei cheffyl yn annog ei phobl yn debyg iawn i rhyw groesiad rhwng Margaret Thatcher a Harry'r Pumed . . . roeddwn i'n disgwyl ei chlywed yn gweiddi The lady's not for turning!'," meddai.
Dywedodd ei fod yn cael anhawster cydymdeimlo gyda phrotest Catholigion yn erbyn y ffilm.
"Os ydych chi'n edrych ar yr hanes yr oedd hwn yn gyfnod ofnadwy o dywyll ac yr oedd y Vatican yn awyddus iawn ar y pryd i gofleidio Prydain yn ôl i'r gorlan Babyddol ond beth sy'n bwysig i'w gofio yw fod y ffilm wedi ymdrechu i wneud rhywbeth allan o rywbeth nad oedd ddim yna - mae'r blyrb [yn dweud] 'The destructive wind of fundamentalist Catholicism' a dwi'n meddwl fod y cyfarwyddwr wedi trio yn rhy galed efallai i ffendio rhyw bararel a'r oes sydd ohoni heddiw," meddai.
Yn fwy o loes iddo ef na'r na'r darlun o Gatholigrwydd oedd y darlun annheg o frenin Sbaen a'r Sbaenwyr:
"Yr oedden nhw'n cael eu darlunio fel rhyw popinjays ond mae'n rhaid cofio mai ffilm sydd yma nid rhaglen ddogfen ac mewn unrhyw ffilm Hollywood mae'r bobl ddrwg yn cael eu portreadu fel pobl od ," meddai.
Ond dywedodd mai'r gwir amdani oedd fod Phillip mewn gwirionedd yn frenin pwerus a chymhleth iawn a oedd yn cymryd ei gyfrifoldebau fel brenin yn gwbl o ddifrif er yn cael ei bortreadu fel ffŵl fan hyn.
"Ond allai o ddim bod yn ffŵl gan fod Sbaen y wlad fwyaf pwerus yn y byd ar y pryd ac mae'n rhaid fod iddyn nhw rhyw fath o arweiniad arbennig," meddai.
Dywedodd hefyd i'r ffilm droi'n dipyn o Pirates of the Carribean tua'r diwedd gyda'r frwydr yn erbyn yr armada o longau o Sbaen.
Perfformiadau
Ni ellir ond diolch i Cate Blanchett am ddod a thipyn o dân a chynnwrf i'r ffilm gyda pherfformiad sy'n gyfuniad o Joan d'Arc a Mrs Thatcher a does bosib y bydd hi'n hir iawn cyn y gwelwn ni hi yn ail fyw hanes y ddynes honno hefyd yn anfon ei Harmada hithau i bellafion de'r Iwerydd. Hynny, a threchu glowyr sy'n fygythiad i'r deyrnas gartref. Mae'n rhan y gallai ei chwarae gydag arddeliad.
Y cyfan y bu gofyn i Clive Owen ei wneud oedd edrych yn enigmataidd olygus a siarad yn garuaidd - ac mae'n gwneud hynny'n ddifai.
Un o ddynion y cysgodion yn y ffilm yw'r ffuretwr ysbiwyr a'r Machiavelli, Walshingham, sy'n cael ei chwarae'n odidog gan Geoffrey Rush mewn stafelloedd a choridorau tywyll.
Mae ein cydymdeimlad, fodd bynnag, gyda Jordi Molla yn gorfod chwarae rhan brenin Sbaen sy'n teyrnasu dros ran helaeth o'r byd fel rhyw wlanen o ddyn penchwiban.
Yr oedd y daten, wrth gwrs, yn rhagorol - ond y dail baco, braidd yn llipa.
Golygfeydd cofiadwyEr bod dynesiad yr Armada yn drawiadol a'i symudiad bygythiol tuag at arfordir Lloegr; siomedig yw'r frwydr fawr ei hun .
Gwerth ei gweld Ydi - ond fe allai fod yna gymaint mwy o dyndra a gwrthdaro.
|
|