Lassie (2005) Ci a gerddo . . .
Y sêr
Jonathan Mason; Peter O'Toole, Samantha Morton, John Lynch, Peter Dinklage, Robert Hardy, Steve Pemberton
Cyfarwyddo
Charles Sturridge
Sgrifennu
Charles Sturridge ar sail nofel Eric Knight.
Hyd
100 munud
Sut ffilm
Taith ryfeddol ci ffyddlon - Ci a gafodd ar ôl cerdded, yn wir
Y stori
Yn Selby, Swydd Efrog, mae Lassie yno'n ddi-ffael wrth giât yr ysgol i gyfarfod Jo Carraclough (Jonathan Mason) ar ddiwedd dydd.
Ond pan fo'r pwll glo lleol yn cau; er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd rhaid i Sam a Sarah Carraclough (John Lynch a Samantha Morton), tad a mam Joe, werthu Lassie i'r pendefig lleol, Dug Rudling (Peter O'Toole) - sydd ei heisiau i godi calon ei wyres bruddglwyfus, Cilla (Hester Odgers).
Wrth gwrs mae Lassie yn mynnu dianc a dychwelyd at Joe bob cyfle gaiff. Ond, deulu gonest ac anrhydeddus ag yw, mae'r Carracloughs yn ei dychwelyd i'r Dug bob tro i'w rhoi eto yng ngofal y meistr cŵn brwnt a ffiaidd, Hynes (Steve Pemberton).
Hyd yn oed pan fo'r Dug yn symud i hafota yng ngogledd eithaf Yr Alban mae Lassie yn dianc o ddwylo Hynes a chychwyn ar daith beryglus yn ôl at Joe, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Mae sawl antur ar y ffordd gan gynnwys cip ar anghenfil Loch Ness, cael ei bygwth gan ffarmwr â gwn, cael ei herlid gan ddynion dal cŵn hyd strydoedd Glasgow, ac ysbaid fwy dymunol yng nghwmni corrach crwydrol gyda sioe bypedau (Peter Dinklage).
Y canlyniad Does yna ddim byd gwell na rhyfel dosbarth hen-ffasiwn i hogi rhagfarnau greddfol rhywun! Y teulu bach - cyffredin, gonest a gweithgar - yn ei fwthyn tlawd ond diddos ar y naill law a'r pendefig trahaus, crand ei acen, ar y llaw arall!
A dyna a gawn ar gychwyn Lassie wrth i'r Dug fanteisio ar dlodi'r Carracloughs a defnyddio'i arian i gael Lassie i'r wyres fach sy'n hiraethu am eu rhieni sy'n byw yn Llundain.
Yn anffodus, dydi'r syniad traddodiadol hwn o drechaf treisied gwanaf gwinged ddim yn parhau ac erbyn y diwedd gwelir mai calon ddigon meddal sydd gan yr hen Ddug dan y rhwysg allanol. Ei gynffonnwr o was cyflog, Hynes, yw'r gwir ddihiryn a buan iawn y caiff hwnnw gic bendefigaidd yn ei ben ôl.
Yn wir, molawd i'r syniad traddodiadol o bobl yn gwybod eu lle gyda'r pendefig yn ei blasdy a'i weision yn ei fythynnod ar rent yw un Charles Sturridge.
Daw'r stori i'w therfyn ar drothwy'r Nadolig ac ysbryd yr ŵyl honno sy'n teyrnasu gyda phawb, gan gynnwys Joe, ei dad, ei fam a Lassie, yn hapus byth mwyach tra bo Hynes yn ei gwt yn llyfu'i glwyfau.
Y sefyllfa berffaith ar gyfer dilyniant.
Crio? A ydi Rhodri Morgan yn arbenigwr ar hwyaid? Ooooooo - byddwch fwy o angen ffunen na phopcorn.
Y darnau gorau Ffilm gymesur yw hon heb olygfeydd mawrion - ond fe fydd y diweddglo Nadoligaidd a Lassie'n hanner marw yn yr eira wedi ei thaith bedestraidd o'r Alban yn cyffwrdd sawl calon.Mwynhewch y frwydr rhwng y dihirod a'r corrach.
Perfformiadau Gwyliwch am gameos gan nifer o actorion adnabyddus sy'n cynnwys Edward Fox, Robert Hardy a Nicholas Lyndhurst. Mae Jonathan Mason yntau yn gwneud diwrnod da o waith fel Joe. Drygionus ac annwyl ar yr un pryd - fel y dylai pob arwr o blentyn fod.Mae Peter O'Toole yn mwynhau pob eiliad o fod yn Ddug esentrig.
Gystal â'r trelar?
Heb weld un.
Ambell i farn
Yn y Sunday Times roedd y pennawd gorau: Flair of the Dog.
Ci o frîd
Mewn stori fer, Lassie Come 91Èȱ¬ a gyhoeddwyd yn The SaturdayEvening Post yn yr Unol Daleithiau yr adrododd Eric Knight stori Lassie gyntaf.
Yn y stori honno bu Lassie yn disgwyl Joe ddeg oed wrth giât yr ysgol bob diwetydd am bedair blynedd nes y collodd tad Joe ei waith a gorfod gwerthu'r ci i bendefig lleol er mwyn cael arian i fyw.
Ar ôl cael ei chludo i berfeddion yr Alban dihangodd Lassie gan gychwyn ar daith anturus yn ôl at Joe gan gerdded mil o filltiroedd i gyd cyn cyrraedd giât yr ysgol mewn storm o eira.
Cafodd y stori gystal derbyniad fe'i hymestynnwyd gan Knight a'i chyhoeddi'n llyfr yn 1940. Yn fuan iawn yr oedd hwnnw ar gael mewn 25 o wahanol ieithoedd.
Ymddangosodd y ffilm gyntaf, Lassie Come 91Èȱ¬, yn 1943 gydag Elizabeth Taylor ddeg oed yn cymryd rhan.
Dilynwyd Lassie Come 91Èȱ¬ gan saith ffilm Lassie arall a chyfresi radio a theledu - ond blas Americanaidd oedd i'r rhain i gyd.
Ci - yn hytrach na gast - o'r enw Pal a chwaraeodd ran Lassie yn y ffilm wreiddiol. Collodd yr ast a ddewiswyd yn gyntaf y rhan oherwydd iddi ddechrau bwrw'i blew adeg ffilmio.
Bu Pal mor llwyddiannus y cafodd ei ddisgrifio gan un adolygydd fel "Greer Garson efo blew" ac ef chwaraeodd y rhan yn chwech o'r saith ffilm a ddilynodd ac ef a glywyd yn cyfarth ac yn chwyrnu ar The Lassie Radio Show.
Yn 1962, ymddangosodd Lassie's Great Adventure.
Cadwyd y rhan yn y teulu, fel petai, gyda Lassie yn cael ei chwarae gan bedair cenhedlaeth o gŵn o'r un tras rhwng 1954 a 1973 ac yn y ffilm The Magic of Lassie yn 1978 parhawyd â'r arfer i ddefnyddio ci, yn hytrach na gast - yr wythfed genhedlaeth o'r un llinach o gŵn y tro hwn!
Yn 1973 gwnaeth y cynhyrchwyr bethau'n haws iddyn nhw'u hunain trwy greu cyfres gartŵn, Lassie Rescue Rangers.
Yr awdur
Yr oedd Eric Knight ei hun yn awdur diddorol. Fel Joe Carraclough yr oedd yntau yn fab i löwr yn Swydd Efrog ond bu farw ei dad pan nad oedd Eric ond yn dair oed. Wedi rhai blynyddoedd yn gweithio'n blentyn yn y pyllau gadawodd yn 15 oed am yr Unol Daleithiau i geisio gwell a chafodd ei addysg yn Boston.
Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i Ewrop yn filwr ym myddin Canada.
Wedi'r rhyfel bu'n ymhél ag amrywiaeth o waith gan droi at newyddiaduraeth yn y diwedd ac ennill ei blwyf yn feirniad ffilm yn Philadelphia cyn troi at ffermio a sgrifennu.
Ond diwedd trist a fu iddo -yn swyddog yn adran gwneud ffilmiau byddin yr Unol Daleithiau fe'i lladdwyd pan ddaeth ei awyren i lawr yn 1943.
Ymhlith ei lyfrau eraill cyhoeddodd Portrait of a Flying Yorkshireman a nofel a gyhoeddwyd yn 1938, You Play the Black and the Red Comes Up.
Man a lle
Er mai yn yr Alban a Swydd Efrog mae'r stori yn Iwerddon ac Ynys Manaw y bu llawer o'r ffilmio. Golygfeydd gwych.
Gwerth ei gweld?
Hei, on'd yw pawb yn hoffi stori seml, hen-ffasiwn, dda o bryd i'w gilydd? Newid braf o'r holl ruthro, rasio, saethu a mynd dros ben llestri sydd yn y sinema y dyddiau hyn. Hen ffasiwn efallai ond mae stori dda bob amser yn gafael.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|