Spider-Man 3 (2007) Troi'r corryn coch yn ddu a blin!
Y sêr
Tobey Maguire, Kirsten Dunst, James Franco, Thomas Haden Church, Topher Grace
Cyfarwyddo
Sam Raimi
Sgrifennu
Sam Raimi, Ivan Raimi, Alvin Sargent.
Hyd
139 munud
Adolygiad gan Gwion ap Rhisiart Sut ffilm?
Y drydedd mewn cyfres lwyddiannus hyd yn hyn o ffilmiau sydd wedi ei seilio ar y comic o'r un enw - ac, hyd yn oed cyn rhyddhau hon, yn un sydd wedi gwneud $1.5 biliwn o ddoleri.
Mae'r cyfarwyddwr Sam Raimi a'r prif actorion yn parhau a'u gwaith gyda Spider-man 3 y dywedir ei bod y ffilm ddrutaf a wnaed erioed.
Y stori
Mae bywyd Peter Parker (MacGuire) yn mynd yn dda. Mae dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â Mary Jane (Dunst) ac mae ei hunan arall, Spider-man, yn ffigwr poblogaidd ymhlith dinasyddion Efrog Newydd gan iddo leihau troseddu i bron i ddim.
Ond mae pethau'n newid wedi i sylwedd du, sinistr ac arallfydol lynu wrth siwt goch Spider-man.
Yn ogystal â throi'r siwt yn ddu mae'r sylwedd yn newid ei gymeriad er gwaeth a'i droi yn berson digon ffiaidd ac annymunol.
O ganlyniad i'r newid hwn, mae Mary Jane yn 'gorffen' â Parker.
Ac ar yr un pryd mae dau elyn yn y ddinas, y Green Goblin (James Franco) a'r Sandman sydd a'i fryd ar ddwyn arian o fanciau trwy droi ei gorff yn dywod a thrwy hynny newid ei ffurf a'i siâp fel bo'r angen.
Y canlyniad
Blerwch hir gyda gormod o straeon strae yn union fel pe byddai'r cyfarwyddwr mor ansicr mae'n ceisio gwasgu pob botwm a thaflu popeth i'r crochan mewn ymdrech i greu hud a lledrith sy'n mynd i blesio pawb.
Yn y golygfeydd cyffro, mae yna ormod o olygu byr ac mae'r effeithiau cyfrifiadurol yn rhy gyflym i'r llygaid gyfarwyddo â'r hyn sy'n digwydd.
Yn wir, teimlais fy mod yn ymbellhau o'r stori wrth i un olygfa fawr ar ôl y llall geisio rhagori ar ei gilydd mewn cyffro.
Rhai Geiriau
• "Dwi ddim angen dy gymorth di," meddai Peter Parker. "Mae pawb angen cymorth - hyd yn oed Spider-man" yw ateb Mary Jane.
• "Y dyn yma laddodd fy ewythr, ac mae'n dal allan yna," meddai Peter Parker.
• Wrth roi modrwy yn llaw Parker dywed Anti May; "Dy ewythr Ben roddodd y fodrwy briodas hon i mi. Defnyddia hi i'w gwneud yn un ti."
Ambell i farn
• Dwedodd Gary Slaymaker yn ddi flewyn ar dafod fod y "golygu yn rhy chwim a'r stori yn rhy araf; a dim digon o'r golygfeydd cyffrous sydd wedi gwneud y gyfres hon mor eithriadol o dda. Os ydych am weld un ffilmsuperhero eleni, gwnewch yn siŵr nad hon yw hi. Amazing Spider-man? Mae'n debycach i Appalling Spider-Man!"
• "Mae na ambell i foment lwyddiannus yn Spider-man 3, ond ar y cyfan mae hi'n rhy hir a blêr a dyw'r storïau ddim yn rhedeg yn llyfn," medd Peter Bradshaw yn y Guardian.
Perfformiadau
• Perfformiad digon dymunol gan Tobey MacGuire yr rhan fwyaf o'r amser - ond doedd e ddim mor effeithiol wedi i'w gymeriad droi'n ddrwg.
• Fe'm cythruddwyd yn llwyr gan gymeriad a pherfformiad Kristen Dunst. Ymddengys fel hogan arwynebol a gwan - ond dwi ddim yn siŵr os mai bai yr actores ynteu'r sgrifennu yw hyn.
Darnau gorau
• Yr unig olygfa gyffrous a fwynheais oedd un y craen allan o reolaeth lle gwelir y llafn anferth o ddur yn malu ochr yr adeilad tal. Wrth gwrs, daeth 'Spidey' i'w gwaredu cyn i neb frifo.
Gwerth ei gweld?
Mae ddeugain munud yn rhy hir. Yn sicr nid oes angen tri gelyn - yn enwedig gan fod ymddangosiad y gelyn olaf mor chwithig a diangen - ac mae hynny yn ddisgrifiad teg o'r ffilm i gyd hefyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|