Beichiau tad a mab
Y sêr
Akshaye Khanna, Darshan Jariwalla, Shefali Shah, Bhumika Chawla
Cyfarwyddo
Feroz Abbas Khan
Sgrifennu
Feroz Abbas Khan.
Hyd
137 munud
Adolygiad Aled Edwards
Fel rhywun a aeth ati flynyddoedd yn ôl i astudio genedigaeth yr India fel gwlad ar gyfer fy nghwrs gradd, diddorol oedd gweld y ffilm hon sy'n trafod hanes trist mab hynaf Gandhi, Harilal.
Peth iachusol fe dybiwn i yw cael y cyfle i edrych o dan wyneb bywyd teuluol dyn a ddaeth yn fyth.
Talu pris
Y mae'r gwladgarwyr hynny sy'n ymroi yn y modd mwyaf unplyg i greu gwladwriaethau neu genhedloedd yn aml yn gorfod talu pris ac fe dalodd Gandhi y pris eithaf.
Fe dalodd ei deulu, yn arbennig Harilal, bris mawr hefyd.
Fel y dywed broliant y ffilm, aeth Gandhi ati i drawsffurfio enaid cenedl, ond fe fethodd ag achub enaid ei fab ei hun - a gwisgodd y mab etifeddiaeth ei dad fel melltith o gwmpas ei wddf.
Y mae'n rhaid canmol cyfarwyddo graenus Feroz Khan ac actio Akshaye Khanna yn rhan y prif gymeriad. Cyfoethogwyd y ffilm drwy'r trafod dwyieithog.
Aberthu mab
Y mae'r ffilm yn dechrau yn Ne Affrica wrth agor llen ar hiliaeth enbyd. Yno y dechreuodd Gandhi ei yrfa wleidyddol. Dangoswyd yn y modd mwyaf cywrain sut yr aeth ati i aberthu ei fab ar allor ei argyhoeddiadau personol a chyhoeddus. Bu Harilal farw yn gardotyn meddw ar strydoedd India.
O weld y ffilm rymus hon cefais fy mod yn deall Harilal yn well na'i dad gan i hunanoldeb unigryw Gandhi godi ofn arnaf.
Dwi'n parhau i edmygu'r tad ond roedd dod i adnabod rhywfaint ar y mab yn dda.