Rendition Carchar a phoen yn erbyn terfysgaeth
Hydref 2007
Y sêr
Jake Gyllenhaal, Reese Witherspoon, Peter Sarsgaard, Alan Arkin, Meryl Streep.
Cyfarwyddo
Gavin Hood.
Sgrifennu
Kelley Shane.
Hyd
122 munud
Adolygiad Aled Edwards
O'i chymharu â'r ffilm wleidyddol arall a gyhoeddwyd yn yr un cyfnod, Lions for Lambs, y mae Rendition yn filwaith gwell fel mynegiant o drafodaeth ystyrlon o'r modd y mae America yn ymdrin a therfysgaeth.
Y mae rhannau o'r trafod yn wirioneddol dreiddgar.
Y mae Jake Gyllenhaal yn chwarae rhan un o swyddogion y CIA, Doglas Freeman, sy'n dyst i ffrwydrad terfysgol yng ngogledd Affrica ac o'r digwyddiad hwn mae'n cael ei hun yn lygad-dyst i'r modd y mae Anwar (Omar Metwally), Americanwr a gafodd ei eni yn yr Aifft, yn cael ei herwgipio, ei holi a'i arteithio gan wasanaethau cudd America.
Yn y cefndir mae gwraig y dioddefwr, Isabella El-Irahimi (Reese Witherspoon), yn apelio am gymorth gan hen gyfaill gwleidyddol.
Ymddengys Reese Witherspoon yn andros o feichiog gydol y ffilm gan ddod wyneb yn wyneb a chymeriad oeraidd o'r CIA (Meryll Streep) sy'n gyfrifol am herwgipio ei gŵr i gael ei arteithio yng nghelloedd tywyll Marrakech.
Llinyn arall yn y ffilm sy'n gwneud y stori yn llawer difyrrach yw'r hyn sy'n digwydd i ferch yr arteithiwr gormesol o'r enw Abasi Fawal (Igal Naor) a chwaraeir gan Zineb Oukach.
Y mae'r ferch, heb wybod hynny, yn cael ei hun yn ymwneud a'r jihadi sy'n gyfrifol am y ffrwydrad.
Heb bregethu'n ormodol, y mae'r ffilm hon yn dweud rhywbeth o bwys am y modd y mae gwladwriaethau yn parhau i herwgipio dinasyddion i'w harteithio fel rhan o'r rhyfel honedig yn erbyn terfysgaeth.
Prif rinwedd y ffilm hon yn nhermau dweud rhywbeth am yr hyn y mae'r Americanwyr yn ei alw'n 'rendition' yw ei bod yn ein hatgoffa bod y peth yn parhau i ddigwydd a bod yr hyn sy'n digwydd yn fygythiad i unrhyw gymdeithas wâr.
Ffilm gwerth i'w gweld ac yn llawn haeddu sawl seren am ei chyflwyno cywrain a gafaelgar.
|
|