Ocean's 13 Un o'r ffilmiau gorau
Adolygiad Carys Mair Davies
"Ocean's 13" yw'r ffilm ddiweddaraf mewn cyfres a ddechreuodd gydag Ocean's 11.
Pan es i'r sinema i'w gweld gyda fy ffrindiau nid oeddwn yn gwybod a fuaswn yn ei mwynhau neu beidio.
Roeddwn yn poeni na fuaswn yn dilyn y plot gan na welais y ddwy ffilm gyntaf. Ond cefais fy siomi ar yr ochr orau a chael modd i fyw yn gwylio Ocean's 13.
Nid oedd wahaniaeth nad oeddwn wedi gwylio ffilmiau eraill y gyfres.
Efallai taw'r nifer o actorion enwog wnaeth fy nenu at y ffilm ac mae'n rhaid cyfaddef fod uno'r holl actorion yma i wneud un campwaith arbennig wedi bod yn syniad penigamp.
Yr actorion amlycaf yw George Clooney, Brad Pitt, Matt Damon ac Al Pacino. Mae hi'n werth mynd i weld y ffilm am yr olygfa yn unig, ferched!!
Dechreuodd y ffilm gyda sefyllfa beryglus - a hynny'n gosod y naws briodol ar gyfer gweddill y stori gan ei bod yn ffilm sy'n llawn antur a chyfrinachau.
Ond er yr holl helynt cafodd ei throsglwyddo i'r gwylwyr mewn ffordd ysgafn a chyffrous gyda lle pwysig i hiwmor.
Sail y stori yw i un o'r 13 gael ei dwyllo gan berchennog casino anferth yn Las Vegas a'r 13 am ddial ar y perchennog.
Ac felly, maen nhw'n creu cynllun hynod o fentrus sy'n golygu y bydd pawb yn y casino yn ennill miliynau o bunnau yr un gan adael y perchennog heb yr un ddimai goch.
Mae'r plot yn symud o un eithaf i'r llall a hynny'n cynnwys trwyn ffug ar gyfer Matt Damon; hudo Ellen Barkin ac hyd yn oed ddaeargrynfeydd ffug!!!
Yn fy marn i, mae'r ffilm yn addas ar gyfer plant dros 12 oed ac er wedi ei thrwyddedu yn PG13 yr unig olygfa nad yw'n addas i lygaid ifancach yw Ellen Barkin yn cael ei hudo'n rhywiol gan Matt Damon.
Rwy'n cymell pawb i weld Ocean's 13 gan ei bod yn un o'r ffilmiau gorau i mi ei gweld ac yn addas i fechgyn
a marched acedrychaf ymlaen yn fawr at Ocean's 11 ac Ocean's 12.
Yn ôl fy ffrindiau, nid yw 13 gystal ag Ocean's 11 ond yn llawn cystal ag Ocean's 12.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|