Dau yn Tokyo
Stori garu sy'n llygadu gwobrau
Ionawr, 2004
Dechrau canmol
Derbyniodd Lost%20in%20Translation bum enwebiad Golden Globe gan ennill tair gwobr. Cafodd hefyd wyth enwebiad BAFTA a phedwar enwebiad Oscar.Serch hynny, dydi'r ffilm ddim yn edrych fel blockbuster ond yn debycach i'r ffilmiau bach annibynnol sy'n cael eu dangos mewn sinemau 'celfyddyd' ac wedi cael eu canmol gan y wasg ffilmiau a'r ychydig a'u gwelodd, yn diflannu.
Nid yw hynny'n digwydd gyda Lost%20in%20Translation ac er i'r ffilm gael ei gynhyrchu gan gwmniau "bychain" cafodd ei sgwennu a'i gyfarwyddo gan aelod o deulu brenhinol Hollywood, Sofia Coppola, sy'n ferch i Francis Ford Coppola (sy'n un o gynhyrchwyr gweithredol y ffilm).
Mae talent, yn amlwg, yn rhedeg yn y teulu.
Dyma ail ffilm Sofia, yn dilyn The Virgin Suicides, 1999, yn cyfarwyddwo ac yn sgrifennu.
Ar ben hynny, mae'n actores hefyd; wedi ymdangos ym mhob un o ffilmiau Godfather ei thad. Yn fabi yn y gynta, hi oedd y crwt yn yr olygfa fedyddio tua diwedd The Godfather, 1972.
Yn y ffilmiau diweddar, hi yw May Corleone.
Ers hynny, bu'n astudio cynllunyo dillad a chelfyddyd gain ac mae dylanwad yr ail yn drwm ar Lost yn Translation a'r sinematograffi yn wych a llawer o olygfeydd yn aros yn hir yn y cof.
Y stori
Mae Bill Murray a Scarlett Johansson yn chwarae dau berson sy'n cwrdd mewn gwesty yn Nhokyo - y ddau dan bwysau emosiynol am resymau gwahanol.
Actor enwog ydi Bob Harris (Murray) a Charlotte (Johansson) yn briodferch ifanc sy'n aros yn yr un gwesty gyda'i gwr, John (Giovanni Ribisi), ffotografydd trendi.
Mae'r ddau brif gymeriad yn anhapus - Charlotte yn unig heb ei gwr sy'n ei gadael yn y gwesty tra'n gweithio ymhlith y sêr, a Bob, sy'n briod ers talwm, yn cael ei blagio gan ei wraig sy'n ffonio gyda chwestiynau twp.
Gyda Charlotte ei hun yn dechrau amau ei phriodas ac yn chwilio am ystyr i fywyd nid yw'n syndod eu bod yn closio at ei gilydd a pherthynas dyner yn ffurfio ond heb fod yn rhywiol - er bod iasau dan yr wyneb.
Gyda'i gilydd darganfyddant hwyl a chyfeillgarwch yn ystod nosau Tokyo er gwaetha'r gwahaniaeth yn eu hoed.
Mae'n arwyddocaol mai "Everyone wents to be found" yw tagline y ffilm sydd â diweddglo clyfar iddi.
Dealltwriaeth pobl o deimladau ei gilydd ydi'r lost in translation yn y teitl.
Seren arall
Tokyo yw seren arall y ffilm gyda'r cyfan fel breuwydd a'r gerddoriaeth wych yn ychwanegu at yr awyrgylch yma.
Yr actorion
Mae Bill Murray a Scarlett Johansson yn berffaith i'w rhannau.
Yn wir, dywedodd Sofia Coppola iddi sgwennu'r rhan ar gyfer Murray gan ddweud na fyddai wedi gwneud y ffilm hebddo!
Mae Scarlett Johansson yn bopeth y dyddiau hyn wrth gwrs ac i'w gweld yn y ffilm newydd, Girl With A Pearl Earring, hefyd.
Adlleisiau
Mae Johansson yn fy atgoffa o Julie Delpy ifanc ac awyrgylch y ffilm fel Before Sunrise nôl yn yr wythdegau.
Yn arwyddocaol, Dolce Vita sydd ar deledu'r - ffilm arall lle mae'r nos yn bwysig.
Y dyfarniad
Ffilm wych. Ewch i'w gweld cyn iddi ennill cwpwl o Oscars!
Gredwch chi hyn?Mae Sofia Coppola yn gyfnither i Nicholas Cage.
Saethwyd y ffilm mewn 27 diwrnod.
Nid pen ôl go iawn sydd ar y dechrau ond enghraifft o waith yr artist photoreal, John Kacere -Jutta (1973) - sy'n arbenigo mewn paentio menywod mewn nicyrs!