Choke (2008) Comedi ddu gyda joch o ryw
Y Sêr Sam Rockwell, Anjelica Huston, Kally Macdonald.
Cyfarwyddo Clark Gregg
Sgrifennu Addasiad Clark Gregg o Nofel Chuck Palahniuk
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Sut mae disgrifio Choke i gynulleidfa Gymreig? Ceisiwch ddychmygu ffilm am secsaholig hoffus wedi'i gosod mewn ysbyty meddwl ac amgueddfa werin à la Sain Ffagan, ac mi gewch chi un o gomedïau rhamantus mwyaf beiddgar 2008.
Y stori Mae'r ffilm yn dilyn hanes Victor Mancini (Sam Rockwell), dyn ifanc sy'n portreadu gwas fferm Gwyddelig o'r 18ed Ganrif mewn parc thema hanesyddol ers gadael ei astudiaethau meddygol ar eu hanner er mwyn talu am arhosiad ei fam , Ida, mewn ysbyty meddwl.
Yn anffodus, mae'r lleianod sy'n rhedeg y ganolfan yn rhai digon di-enaid, ac felly rhaid i Victor ddarganfod ffyrdd creadigol, a dweud y lleiaf, o hel digon o bres i barhau â'i thriniaeth.
Mae hyn yn cynnwys smalio tagu ar ganol pryd bwyd mewn amrywiaeth o dai bwyta, gan orfodi dieithriaid llwyr i'w "achub", sy'n arwain ei "arwyr" i deimlo rhyw ddyletswydd dwyfol wedyn i gynnal Victor am oes.
Pan nad yw Victor yn twyllo mewn tai bwyta, mae'n ymweld yn gyson â'i fam anghofus (Angelica Houston ar ei gorau), ac yn mynychu cyfarfodydd Sex Addicts Anonymous er mwyn cael rhyw. Lot fawr o ryw.
Yn wir, mae Victor yn gymaint o hit efo'r merched ei fod yn "adnabod" y rhan fwyaf o weithwyr yr ysbyty, heb sôn am y cleifion oedrannus, ac mae'n methu'n lân a chymryd y pedwerydd cam hollbwysig yn ei wellhad fel secsaholig.
Hynny yw, nes iddo gyfarfod â meddyg newydd ei fam, yr hyfryd Dr Paige Marshall a chwaraeir gan yr Albanes Kelly Macdonald ac a welwyd ddiwethaf yn No Country For Old Men ac sy'n llwyddo unwaith eto i ddarbwyllo'n llwyr fel Americanes.
Teimladau annisgwyl Mae'r cyfarfyddiad yma'n sbarduno Victor i brofi teimladau hynod annisgwyl ac yn arwain at gymhlethdodau pellach wrth i'r meddyg egluro fod clefyd ei fam yn dirywio'n gyflym.
Cyniga Dr Marshall un ffordd - go anghonfensiynol - o wella Ida- arbrawf fyddai'n siwtio "clefyd" Victor i'r dim fel rheol ond nid y tro hwn.
Ar yr un pryd, daw Victor i ddeall pwy yn union oedd ei dad go iawn; ffigwr hynod ddadleuol sydd yn ysbardun pellach iddo geisio newid ei ffyrdd er gwell, a chymryd y pedwerydd cam tyngedfennol hwnnw. Ond tybed yw hi'n rhy hwyr?
Comedi dywyll Afraid dweud mai comedi dywyll yw Choke ond comedi hynod ddifyr hefyd a ffrwyth dychymyg un o awduron mwyaf dadleuol yr 21ain Ganrif, yr Americanwr Chuck Palahniuk, wnaeth roi ei fendith i addasiad sgript y cyfarwyddwr Clark Gregg o'r nofel a sgwennwyd yn 2001.
Os ydych yn gyfarwydd â'i nofelau nihilyddol, sy'n cynnwys Snuff, Rant, a Fight Club a addaswyd yn ffilm hynod lwyddiannus gydag Edward Norton a Brad Pitt yn 1999 efallai y byddwch yn disgwyl ymchwiliad pellach i ochor dywyll y seici gwrywaidd.
Yn sicr, ceir elfen o hynny yma ond y gwir ydy fod Sam Rockwell - actor talentog sydd wedi chwarae ystod eang o rannau mewn ffilmiau fel Charlie's Angels, The Green Mile, a Confessions of a Dangerous Mind - yn llwyddo i bortreadu Victor Mancini fel cymeriad sydd mor annwyl y byddai unrhyw ferch yn falch o gael ei gyflwyno i'w mam!
Gwreiddiol a ffraeth Yn wir, tra bo Seth Rogen yn mynnu parhau â'i ymgyrch ddiflino i hudo cynulleidfaoedd gyda'i slacker-charms mewn cyfres o gomedïau rhyw tila ar gyfer y Naughty-Noughties, dyma i chi ffilm am ryw sydd yn cynnig stori wreiddiol, sgript ffraeth, cyfres o gymeriadau hynod ddifyr, a diweddglo hapus. Mewn geiriau eraill, y date movie perffaith!
Yr unig beth wnaeth fy siomi oedd sylweddoli mai Americanwr, ac nid Cymro, oedd yn ddigon goleuedig i osod cymeriad mor wreiddiol mewn canolfan dreftadaeth yn y lle cyntaf.
Yn wir, dylai llwyddiant rhyngwladol y gyfres deledu Con Passionate brofi y gallwn droi ein heiconau cenedlaethol ben i waered, a chyflwyno cyfres o gymeriadau y gall unrhyw un uniaethu â hwy.
Siawns bod na o leiaf un serial killer ffuglennol yn trigo ymhlith beirniaid yr Å´yl Gerdd Dant. Neu beth am felodrama epig yn dilyn croeswisgwyr y Cynulliad? Rwy'n byw mewn gobaith!
|
|