The Hitchhiker's Guide to the Galaxy 42 ydi'r ateb ond beth yw'r cwestiwn?
Y sêr Martin Freeman, Mos Def, Sam Rockwell, Zooey Deschanel, Alan Rickman, Bill Nighy
Cyfarwyddwr Garth Jennings
Sgrifennu Douglas Adams, Karey Kirkpatrick.
Hyd 108 munud
Sut ffilm Ffilm gomedi hir ddisgwyliedig am deithwyr drwy'r gofod yn dilyn y gyfres deledu a ddilynodd y llyfr a ddilynodd y gyfres radio wreiddiol gan Douglas Adams.
Y stori Mae'r ffilm yn agor gydag Arthur Dent (Martin freeman o'r Office) yn herio gweithwyr a JCB sydd ar fin chwalu ei dÅ· er mwyn adeiladu ffordd newydd.
Ond mae gwaeth i ddod pan gyfaddefa ei ffrind, Ford Prefect (Mos Def) mai creadur o blaned arall ydyw a bod y Ddaear ar fin cael ei chwythu i ebargofiant gan y Vogons i wneud lle draffordd ofodol.
Yn ffodus mae Dent a Prefect yn bachu lifft ar un o longau gofod y Vogons a hynny'n gychwyn ar daith ffantastig drwy'r gofod i chwlio am gwestiwn bywyd, y bydysawd a phopeth sy'n rhoi'r ateb, 42.
Ar gyfer hyn maent yn dibynnu'n helaeth ar y llawlyfr taith, The Hitchhikers Guide to the Galaxy yr adroddir talpiau ohono gan Stephen Fry.
Dau gydymaith iddyn nhw ar y daith ydi Arlywydd y Galaeth, y deuben - "Allwch chi ddim bod yn arlywydd gydag ymennydd cyflawn" - Zaphod Beeblebrox (Sam Rockwell) a Marvin, android sy'n barhaol dan y don yn dioddef o'r felan (gyda llais cymwys gan Alan Rickman.
Y ferch yn y stori ydi Trillian (Zooey Deschanel).
Y canlyniad Mae'r ffilm yn debycach o blesio'r rhai hynny nad ydynt wedi eu trwytho yng nghyfres radio a llyfr Douglas Adams.
Er yn addasiad digon ffyddlon dyw'r ffilm ddim, rywsut yn mynd i ysbryd y darn.
Ar ben hynny, bu'r datblygiad gymaint yn y maes hwn y gall yr hiwmor. a oedd mor ffresh pan ddarlledwyd y gyfres wreiddiol, ymddangos fymryn yn hen ffash erbyn heddiw.
Y darnau gorau Gyda'r gwneuthurwr bydau (Bill Nighy).
Pob golygfa efo Marvin.
Planed y bobl gyda 50 o freichiau - yr unig blaned i ddyfeisio chwistrell erosol cyn dyfeisio'r olwyn.
Y dyfyniadau o'r geid.
Perfformiadau Marvin (llais Alan Rickman) sy'n 'dwyn y sioe' chwedl y Sais ond mewn gwirionedd does yna ddim perfformiad gwan gan neb.
Rhai geiriau "Mae'n rhaid mai dydd mawrth ydi hi. Ddaltis i rioed ddyddiau Mawrth."
"Bydd eich marwolaeth yn cael ei fonitro i ddibenion hyfforddiant."
"Dydi hwnna ond yn baranoia cwbl normal.""Mae gwybod cymaint ag y mae deilen de yn ei wybod am yr East India Company."
Gystal â'r trelar? Heb weld un.
Ambell i farn Er mawr syndod mae cryn amrywiaeth gyda rhai ar ben eu digon - fel gwefan y 91Èȱ¬ (bloomin brilliant) i eraill sy'n gweld y ffilm yn amddifad o ddoniolwch.
Gwerth mynd i'w gweld? Os am daith wallgof, gyda llinellau ffraeth, llawer o ddwli, dychan crafog ac ymresymu gwallgof bydd yn werth prynu'r DVD hefyd pan fydd ar gael.. Ond cofiwch aros tan y diwedd un - mae'r rhestr cyfranwyr werth chweil hefyd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|