Amazing Grace (2007) Capten Ffantastic - yn Amazing?
Amazing Grace (2007)
Y sêr
Ioan Gruffudd, Romola Garai, Benedict Cumberbatch, Albert Finney, Michael Gambon
Cyfarwyddo
Michael Apted
Sgrifennu
Steven Knight.
Hyd
109 munud
Sut ffilm
Ffilm hanes barchus a theilwng i gyd-fynd â dau ganmlwyddiant pasio deddf seneddol i ddileu'r fasnach mewn caethwasiaeth o fewn yr ymherodraeth Brydeinig.
Mae o ddiddordeb arbennig yng Nghymru am mai Ioan Gruffudd sy'n chwarae rhan yr arwr, Sais o Swydd Efrog, William Wilberforce - gŵr y mae rhai yn mynnu ei ganmol am ddileu caethwasiaeth er mai dileu'r fasnach wnaeth o. Parhaodd caethwasiaeth ei hun er gwaethaf ei ddeddf.
Ond yr oedd y gŵe hwn o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion yn un a aberthodd yn fawr dros ei achos - "Rhoddaist dy ieuenctid a dy iechyd dros yr achos hwn," meddir wrtho.
Y stori
Brwydrodd William Wilberforce (Ioan Gruffudd) am ddeunaw mlynedd i gael mesur yn dileu'r fasnach mewn caethwasiaeth drwy'r senedd yn Llundain gan gychwyn gyda gwrthwynebiad sylweddol iawn. Dim ond un ar bymtheg bleidleisiodd gydag ef y tro cyntaf!
Ei ymdrech ddiflino i argyhoeddi aelodau seneddol yw testun y ffilm hon a'i frwydr hefyd yn erbyn salwch sy'n ei ysu gymaint ei fod yn ymgreinio mewn poenau ar y llawr ac yn dod yn gaeth i laudnum a ddefnyddiai i leddfu'r boen.
Y gwrthwynebiad ffiaidd iddo ar ran rhai fel Dug Clarence (Toby Jones) a'r pwysau arno o du cefnogwyr fel Yr Arglwydd Fox (Michael Gambon), Thomas Clarkson (Rufus Sewell) a John Newton (Albert Finney) cyn fasnachwr caethweision a edifeiriodd ond sy'n cael ei ysu gan "20,000 ghosts" y rhai a ddioddefodd dan ei law dros y blynyddoedd.
Newton oedd awdur yr emyn Amazing Grace sy'n rhoi i'r ffilm ei theitl - emyn sy'n deillio o brofiad Newton ac effaith yr hyn a welodd ac a wnaeth arno.
Yn gweu drwy hyn mae hanes carwriaeth, betrus i ddechrau, Wilberforce a Barbara Spooner (Romola Garai).
Y canlyniad
Er yn ffilm hawdd ymgolli ynddi maeAmazing Grace yn nes at fod yn ffilm ddogfen nag yn ddrama arferol gyda'r pwyslais fel pe byddai ar addysgu yn hytrach nag ar greu tyndra dramatig.
Hanes y frwydr seneddol ac effaith hynny ar iechyd Wilberforce yw diddordeb Michael Apted sydd wedi bodloni ar ddarlun cwbl undimensiwn o'r arwr. Mae'n sant a dyna fo; gyda chyflwr ei iechyd bregus ei unig wendid arwahan i gyfnod yn ei faboed.
Carwriaeth Ysgol Sul yw un Wilberforce gyda Barbara Spooner - carwriaeth sy'n ymylu ar fod mor ddi-ryw a'i gyfeillgarwch â'r prif weinidog, William Pitt, (Benedict Cumberbatch) - cyfaill mynwesol sydd, er yn gefnogol i Wilberforce, yn gorfod atal rhag dangos hynny er mwyn diogelu ei le ei hun fel prif weinidog.
Yn ei phortread gafaelgar o'r elfennau gwleidyddol hyn a'r cynllwynion a'r triciau seneddol y mae'r ffilm yn rhagori yn hytrach na'i threiddgarwch cymeriadol.
Yr anhawster y mae hyn yn ei achosi yw nad oes lle ar ôl i gyfleu'n ddarluniadol yr arfer ysglyfaethus y mae Wilberforce yn brwydro mor daer yn ei erbyn.
Mae hon bron a bod yn ffilm am erchylltra caethwasiaeth heb gaethwas yn agos ati oni bai am un olygfa fer a chyfraniad Youssou N'Dour fel y cyn gaethwas, Olaudah Equiano - yn sicr ni welir dim cam-drin a phan gawn olwg ar y llongau cludo maen nhw'n wag a ninnau heb weld cyflwr y sawl a gludid.
Ac er bod digon o gadwyni i'w gweld ni welwn neb yn eu gwisgo.
Dewisodd Michael Apted beidio â dangos dim mewn cyfrwng sydd yn ei hanfod yn un gweledol! Er bod digon o ²õô²Ô am ddioddef - a hynny mewn geiriau cignoeth a lliwgar am waed yn llifo a chyrff yn cael eu dryllio - nid oes dioddefaint i'w weld.
A chan adolygydd yr Observer, Philip French, mae'r dewis hwn ar ran Michael Apted yn cael ei gymeradwyo o ystyried cyd-destun y ffilm.
Mae Ioan Gruffudd hefyd wedi amddiffyn y penderfyniad mewn cyfweliad ar y wefan hon a ddarlledwyd ar y rhaglen radio Bwrw Golwg.
Perfformiadau Yn ôl y disgrifiadau dyn bychan, disylw, oedd yr William Wilberforce go iawn ac oherwydd hynny yr oedd rhywun yn amau addasrwydd actor golygus fel Ioan Gruffudd ar gyfer y rhan.
Cawn ein siomi ar yr ochr orau. Ydi, mae mor olygus ag erioed ond y mae ei bortread yn un sy'n argyhoeddi ac mae'n dal ei dir yn well nag y byddai rhai wedi disgwyl ochr yn ochr ag actorion sylweddol iawn fel Gambon a Finney.
Ac er nad yn edrych yn gorffilyn gwantan - wedi'r cyfan ef yw Captain Fantastic hefyd - mae'r golygfeydd ohono mewn afiechyd yn wych.
Un peth sy'n cael ei anghofio, fodd bynnag, yw mai dim ond 21 oedd Wilberforce pan etholwyd ef i'r senedd ond er i ddeunaw mlynedd fynd heibio cyn ei fuddugoliaeth ychydig iawn newid sydd yn ei bryd a'i wedd - ond mae amryfusedd o'r fath yn wir am nifer o ffilmiau sy'n rhychwantu cyfnod maith. Ond y mae hon yn rhan sy'n bluen yn het Ioan Gruffudd ac yn llawer mwy teilwng ohono na rhyw stwnsh fel y Fantastic Four.
Ond er mai Ioan Gruffudd biau'r prif gymeriad y rhannau sy'n rhoi gwir bleser yw rhai Albert Finney fel John Newton, Michael Gambon fel Fox a Rufus Sewell fel Thomas Clarkson.
Agwedd arall o'r ffilm sy'n gweithio o ran cymeriadu yw'r cyfeillgarwch rhwng William Pitt a Wilberforce gyda Ioan Gruffudd a Benedict Cumberbatch yn gweithio'n dda a'i gilydd.
Ambell i air Yr ydw i yng Nghaerfaddon i gael fy iachau o wleidyddiaeth.
Waeth pa mor uchel y gwaeddwch wnewch chi ddim boddi llais y bobl.
"Fel dy Brif Weinidog rwy'n dy gymell i fod yn ofalus."
"Ac fel ffrind?" "A, i'r diawl a bod yn ofalus."
Darnau gorau Pob un o'r dadleuon a'r ymrafael geiriol yn y senedd.
Araith Fox sy'n cychwyn gyda'r geiriau: "Pan ydych yn meddwl am wyr mawr yr ydych yn meddwl am ddynion treisgar . . ."
Ambell i farn
Mae Amazing Grace yn haeddu mwy o ganmoliaeth nac a gafodd mewn rhai lleoedd ac er bod elfennau o wirionedd yn y beirniadu mae'r adolygiadau yn rhoi'r argraff fod hon yn salach ffilm nag yw hi mewn gwirionedd. Deborah Ross yn y Spectator yn dweud bod ei gwylio fel gwylio fersiwn wedi'i ffilmio o'r hyn sydd gan yr Encyclopaedia Britannica i'w ddweud am Wilberforce Yn y Guardian dywed Peter Bradshaw i'r ffilm gael ei mwydo mewn bwriadau da . . ."ond mae'n sych ac yn ddisymud o ran drama," meddai. Diffyg cyffro a phrif gymeriad anniddorol yw cwyn y Daily Mirror hefyd. "Mae rhywbeth ychydig bach yn 'wedi-ei-gwneud-ar-gyfer-ysgolion' ynglÅ·n ag Amazing Grace meddai gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ ond y mae'r adolygydd yn cydnabod fod y ffilm yn diddori yn ogystal ag addysgu.
Gwerth ei gweld? Pe byddai ond i ryfeddu sut y gallai aelodau seneddol gyfiawnhau y fath fasnachu am ddeunaw mlynedd!
Ac yng Nghymru, mae gennym ni oll ddiddordeb, siwr iawn, yn beth wnaeth Ioan Gruffudd nesaf!
Cysylltiadau Perthnasol
Ioan Gruffudd yn siarad am y ffilm
Cymru a chaethweision
Wilberforce y misfit
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|