PS I Love You (2008) Post cyntaf nad yw o'r radd flaenaf
Y sêr
Hilary Swank, Gerard Butler, Lisa Kudrow, Kathy Bates, Harry Connick, Jr
Cyfarwyddo
Richard LaGravenese
Writer: Richard LaGravenese, Steven Rogers
Stars: Hilary Swank, Gerard Butler, Lisa Kudrow, Kathy Bates, Harry Connick, Jr
Sgrifennu
Richard LaGravenese, Steven Rogers - yn seiliedig ar nofel gan Cecelia Ahern..
Hyd
125 munud
Sut ffilm
Bosib mai hynodrwydd pennaf y gomedi ramantaidd hon yw iddi gael ei seilio ar nofel a sgrifennwyd gan ferch Prif Weinidog Iwerddon, Bertie Ahern.
Dim syndod felly fod y Gwyddelod ac yn arbennig eu gwlad yn edrych yn dda iawn ynddi.
Yn ystrydebol o dda!
Y stori
Er bod y ffilm yn agor gyda'r gŵr a'r wraig, Gerry a Holly Kennedy (Gerard Butler a Hilary Swank), yn ffrae gwyddom mai ffrae dau sydd mewn gwirionedd mewn cariad â'i gilydd yw hon a daw dyfnder y cariad hwnnw i'r amlwg yn dilyn marwolaeth sydyn Gerry, cerddor o Iwerddon ond yn awr yn byw yn yr Unol Daleithiau, a Holly yn cael ei dal heb fod wedi mynegi maint ei chariad hithau iddo mewn geiriau.
Dyna ei gofid wrth wynebu'r dyfodol yn ferch ifanc weddw ac mae'n mynd i'w chragen gan ymwrthod a'i theulu a'i chyfeillion.
Fodd bynnag, yn ei ddyddiau olaf cyn marw lluniodd Gerry gyfres o lythyrau sydd i gyrraedd Holly yn ysbeidiol wedi ei angladd, un ohonynt ar ei phen-blwydd, gyda theisen, yr olaf yn ei hanfon ar bererindod i Iwerddon lle cyfarfu'r ddau ac i ail fyw y cyfarfyddiad hwnnw a chlensio perthynas a'i rieni.
Pwy sy'n dosbarthu'r llythyrau - sy'n diweddu gyda'r geiriau, P.S. I Love You - ar ei ran ni wyddom ond eu bwriad yw helpu Holly i gychwyn ar bennod newydd yn ei bywyd.
Ffilm yr ysgol "Rhaid i fywyd fynd yn ei flaen" o athroniaeth yw hon.
Mae'n rhamantus, yn siwgwraidd, yn Americanaidd, hyd yn oed yn ei Gwyddeligrwydd, ac yn dibynnu llawer ar drawsblannu y Gerry marw i sefyllfa gyfoes yn llygaid ei weddw. Bydd yn atgoffa rhai o Ghost Patrick Swayze a Demi Moore.
Y canlyniad Mor hawdd y gallai'r stori fod yn blot stori arswyd. Wedi'r cyfan mae rhywbeth bron a bod yn wyrdroëdig yn syniad o wraig weddw yn derbyn llythyrau oddi wrth ei phriod yn y byd arall ac mae'n anodd dyfalu pa un yw'r mwyaf gwyrdroëdig, ef yn cynllunio'r fath beth ynteu pwy bynnag sy'n gwireddu ei ddymuniadau yn y byd hwn.
Ond mae'n rhywfaint o glod i'r ffilm ei bod yn llwyddo i'n cael ninnau i dderbyn y fath senario.
Mae'r wedd Wyddelig i bethau y tu hwnt o ystrydebol a'r ystrydeb honno yn ein morio i'r olygfa olaf un.
O bosib mai'r wedd fwyaf deimladwy o'r ffilm i gyd yw perthynas Daniel (Harry Connick Jnr) â Holly. Hi'n ei ystyried yn gyfaill da a chywir ond ef a theimladau llawer dwysach tuag ati hi a'i awch am berthynas ramantus â merch yn ddwfn.
"Fe hoffwn i fod yn Gerry rhywun," meddai.
Perfformiadau Gan fod y cyfan mor ystrydebol dim ond dau sy'n haeddu eu henwi; portread deallus a dwys Harry Connick Jnr a pherfformiad hwyliog a bras Lisa Kudrow fel Denise, ffrind Holly, sy'n llwgu am ddyn.
Mae'r olygfa ohoni yn holi rhes o ddynion wrth chwilio am un addas mewn clwb nos yn berl.
Mae Hilary Swank yn berchen dau Oscar yn barod ac er na chaiff hi un arall am y ffilm hon mae'r ffilm yn ffodus ohoni i'w harbed a dod a rhywfaint o gredinedd iddi.
Gwerth ei gweld Ar DVD, bosib. Ond bydd angen rhoi eich cyneddfau beirniadol yn y ffrij am 125 o funudau.
|
|