Hunger (2008) Digon i gnoi cil arno
Y Ser
Michael Fassbender, Stuart Graham, Liam Cunningham
Y Cyfarwyddo
Steve McQueen
Sgrifennu
Steve McQueen ac
Enda Walsh.
Hyd 96 mun
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Mae'r ffilm yma'n cychwyn â thwrw byddarol ac yn gorffen mewn tawelwch pur - ac yn gadael argraff ddofn.
Wyddwn i fawr ddim am Bobby Sands pan eisteddais i wylio Hunger ond gadewais y sinema yn ysu am wybod rhagor amdano, a'r rhesymau am ei safiad aruthrol pan ymprydiodd i farwolaeth ym 1981 dros ei ddaliadau gwleidyddol.
Dau begwn Rhaid aros hanner awr gyfan nes cyflwynir Sands i'r stori, gan fod y ffilm yn dechrau wrth gyflwyno profiad dau gymeriad sy'n cynrychioli dau begwn y sefyllfa wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon ar droad yr 1980au.
Yn gyntaf, profwn rwtîn boreol Ray Lohan (Stuart Graham), gŵr priod sy'n mwynhau paned a phlatiad o Full Irish i frecwast cyn sicrhau nad oes bom wedi'i osod ar waelod ei gar cyn gadael ei gartref swbwrbaidd am ei waith yng nharchar y Maze ym Melfast lle mae dwsinau o aelodau o'r IRA.
Mae Ray yn swyddog yno, yn gyfrifol am "ofalu" amdanynt ac mae'n dychwelyd adref bob nos â'i figyrnau'n waed.
Mae'n ymweld â'i fam mewn cartref henoed, yn mwynhau sigaret unig mewn storom eira - ac mae'r byd dal i droi.
Carcharor newydd Yna cawn ein cyflwyno i Davey (Brian Milligan), carcharor newydd gaiff ei gofrestru'n anghydffurfiwr am wrthod gwisgo dillad troseddwr, cyn cael ei luchio i'w gell rewllyd mewn blanced denau i wynebu golygfa hunllefus.
Yno, ar lawr gwlyb, a'r waliau'n drwch o garthion, eistedd ei gyd-garcharor Gerry (Liam McMahon) yn ei flanced yntau, sy'n cyhoeddi ei fod wedi'i ddedfrydu i'r uffern hwn am ddeuddeng mlynedd.
Pan ddywed Davey wrtho mai chwe blynedd sy'n ei wynebu ef, dim ond un ymateb sydd; "Lucky Bastard".
Dyma'r geiriau olaf am gyfnod, wrth i'r camera ganolbwyntio ar ddiflastod byd carchar cyn troi'n anochel at y trais annynol sy'n wynebu'r carcharorion hyn yn ddyddiol.
Ynghanol un o'r golygfeydd erchyll hyn y cawn ein cyflwyno o'r diwedd i Bobby Sands (Michael Fassbender).
Trafodaethau aflwyddiannus Yn fuan wedi hyn, ceir un olygfa ddi-dor sydd yn para dros chwarter awr, rhwng Sands a'r offeiriad Catholig, y Tad Moran a chwaraeir gan Liam Cunningham, actor a wnaeth argraff mewn ffilm arall am yr ymgyrch Weriniaethol, The Wind that Shakes the Barley yn 2006.
Eglura Sands iddo nad yw'r trafodaethau â'r Llywodraeth Brydeinig dros adfer eu statws fel carcharorion gwleidyddol yn mynd i nunlle ac, fel y gwêl ef, dim ond un dewis sydd; dechrau ympryd er mwyn gorfodi'r Llywodraeth i dderbyn gofynion y Gweriniaethwyr.
Gofyn cwestiynau Mewn ymateb i hyn, mae'r Tad Moran yn mynnu gofyn y cwestiynau sydd hefyd yn ein taro ninnau'r gwylwyr: Ai safiad gwleidyddol, ynteu ymgais am enwogrwydd trwy ferthyrdod yw hyn? Ai hunanladdiad ynteu llofruddiaeth fyddai canlyniad yr ympryd?
Mae hi'n olygfa drawiadol o blith nifer ac yn tanlinellu talentau'r actorion dan sylw.
Yn rhan olaf y ffilm dychwelwn i dawelwch wrth inni ddilyn effeithiau'r ympryd ar gorff Sands gyda'r camera yn mynnu cofnodi pob cam o'i ddirywiad.
Ond er gwaethaf y canlyniadau erchyll hyn, profwn eiliadau annisgwyl o dynerwch ingol wrth i un nyrs mud, dienw, drin y claf â pharch a gofal dyngarol, sydd yn wrthbwynt llwyr i'r golygfeydd cynharach o drais annynol.
Canmoliaeth ryngwladol Denodd portread trydanol Michael Fassbender o Bobby Sands ganmoliaeth ryngwladol ac mae'r actor o Killarney a chwaraeodd un o filwyr Sparta yn y blocbyster 300 ac a fydd i'w weld yng nghynhyrchiad nesaf Quentin Tarantino, Inglorious Bastards yn debygol o ddod yn enw llawer mwy cyfarwydd yn ystod y tymor gwobrau sydd i ddod.
Ond byddai hefyd yn braf gweld agweddau eraill o'r ffilm bwerus hon yn derbyn cydnabyddiaeth, gan gynnwys y gwaith camera, y goleuo a'r gerddoriaeth, gan y DJ o Belfast, David Holmes, sy'n asio'n berffaith i greu naws finimalistaidd ond hynod effeithiol gydol y ffilm.
Cylch dieflig Mae rhai wedi cyhuddo'r cynhyrchiad o ddyrchafu terfysgaeth ond y gwir yw fod y trais a'r erchylltra a ddarlunnir yma yn cael ei briodoli i weithredoedd yr IRA a gweision y Llywodraeth Brydeinig.
Cynrychiolir yma gylch dieflig o ddynion yn ymateb fel anifeiliaid i driniaeth anifeilaidd, a cheir ymdrech amlwg i geisio cadw'r ddysgl yn wastad o ran tegwch.
Mae ôl ymchwil dwys ar y ffilm hon, gan y cyfarwyddwr Steve Mc Queen- enillydd gwobr Turner am gelf ym 1999 - ac yn wir, ôl meddwl dwys hefyd.
Mae'n ffilm bwysig iawn ac rwy'n eich annog i fynd i'w gweld - mae'n brofiad ysgytwol.
Cysylltiadau Perthnasol
|
|