Meet the Fockers Cawl claear yn hytrach nag eildwym
Meet the Fockers
Y sêr Ben Stiller, Robert De Niro, Dustin Hoffman, Barbra Streisand, Blythe Danner
Cyfarwyddwr Jay Roach
Sgrifennu fgh
Hyd 115 munud
Sut ffilm Ail ran naturiol Meet the Parents.
Comedi deuluol Americanaidd gyda dau deulu yn cyfarfod am y tro cyntaf wrth i ferch un baratoi i briodi mab y llall.
Dilyniant i Meet the Parents
Y stori Er gwaethaf pob hunllef a thrychineb a brofwyd yn Meet the Parents mae'r cyn swyddog CIA Jack Byrnes (Robert De Niro) wedi caniatau i Greg Focker (Ben Stiller) briodi ei ferch, Pamela (Teri Polo).
Fel rhan o baratoadau'r briodas mae'r tri a Mrs Byrnes (Blythe Danner) yn teithio i Cocontut Grove, Florida, i gyfarfod mam a thad Greg gan dybio bod y naill yn feddyg a'r llall yn dwrnai parchus.
Fodd bynnag mae Bernie (Dustin Hoffman) a Roz (Barbra Streisand) yn ddau gwahanol iawn i'r disgwyl ac yn gwbl wahanol i'r Byrnes gyda Roz yn therapydd rhyw a Bernie yn ŵr tŷ ac heb fod yn dwrnai ers pasio'i arholiadau.
Ar ben hynny, mae Moses, ci y Fockers, yn syrthio mewn cariad â Jinx, y gath y mae Jack yn ei heilun addoli.
Mae'r ymweliad yn llithro o un helynt i'r llall.
Y darn gorau Moses y ci yn cael ei olchi i lawr y tÅ· bach.
. Perfformiadau Nid yw De Niro ond cysgod o'r hyn oedd yn y ffilm wreiddiol lle'r oedd ddigon llym i godi ofn ar unrhyw un!
Anodd meddwl sut y perswadiwyd Streisand mai dyma'r ffilm iddi ddychwelyd ar ei chyfer wedi bron iawn i ddeng mlynedd o ddistawrwydd.
O ystyried y dalent sydd ar gael byddai rhywun wedi disgwyl amgenach sgript a chynhyrchiad.
Y canlyniad 'Iawn' - dim ond iawn. Boddhaol yn hytrach na gwych ac heb fod yn symud mor llyfn a Meet the Parents ond gyda thameidiau digon blasus.
Ond prawf arall o beryglon dilyniant - ac wrth gwrs mae rhywun yn ofni'n awr y bydd yna o leiaf un dilyniant arall i gynnwys y briodas ei hun. Ond bydd y jôc wedi hen fynd yn stêl erbyn hynny.
Gystal â'r trelar? Na.
Ambell i farn Yn rhyfedd iawn, bu'r ymateb yn ddigon cyfartal gyda thua'r un faint o gondemnio ac o ganmol.
Cyhuddodd un adolygydd y cynhyrchiad o fod yn ddim amgenach nag ymdrech i wneud ceiniog sydyn ar draul llwyddiant y ffilm wreiddiol.
Ac meddai un arall: "Y syniad y tu ôl iddi ydi'r peth gorau am y ffilm hon," gan ychwanegu mai methiant yw'r ymdrech hon i ail gylchu llwyddiannau Meet the Parents.
Tebyg mai'r Daily Mirror sy'n taro'r hoelen ar ei phen wrth ddweud; "Efallai nad yw' Meet the Fockers yn drychineb ond dydi hi ddim ychwaith gystal ag y dylai hi fod."
Gwerth mynd i'w gweld? Cawn ein hannog i beidio â rhentu'r DVD hyd yn oed gan un adolygydd rhag i hynny wneud iddyn nhw feddwl gwneud trydedd ffilm.Ond mae yna ddigon o bethau gwaeth yn ein sinemâu.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|