Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events Ffilm hynod o annymunol heb hapusrwydd ar y dechrau na'r diwedd nac yn y canol - meddai'r awdur!
Y sêr Jim Carrey, Meryl Streep, Jude Law, Emily Browning, Liam Aiken, Kara Hoffman, Shelby Hoffman, Timothy Spall, Billy Connolly
Cyfarwyddwr Brad Silberling
Sgrifennu Robert Gordon
Hyd 102 munud
Sut ffilm Cymysgedd o arswyd gothig a chomedi. O dynerwch a braw gyda Jim Carrey yn ddihiryn pantomeimaidd.
Addasiad yw'r ffilm o dair nofel gyntaf awdur Americanaidd, Daniel Handler; sy'n sgrifennu dan yr enw Lemony Snicket am anturiaethau tri o blant amddifad, Violet,Klaus a Sunny Baudelaire y mae eu hewythr ffiaidd, Count Olaf, a phob gewyn ar waith yn ceisio dwyn ffortiwn teuluol y maent i'w etifeddu.
Y stori Wedi i'w rhieni gael eu lladd mewn tân amheus sy'n llosgi eu cartref i'r llawr mae Violet (Emily Browning), Klaus (Liam Aiken) a'u chwaer fach, Sunny (Kara a Shelby Hoffman) yn cael eu hanfon i fyw at eu hewythr, Count Olaf (Jim Carrey) sy'n byw mewn plasty a fyddai'n codi of ar y Munsters neu'r deulu'r Addams!
Nid yn unig yn troi eu bywyd yn hunllef ond hefyd yn cynllwynio i'w lladd er mwyn iddo ef etifeddu cyfoeth eu rhieni.
Yn dilyn methiant ei gynllun cyntaf mae'r plant yn cael eu symud at aelodau eraill o'r teulu er eu diogelwch gan yr ysgutor, Mr Poe (Timothy Spall).
Ond hyd yn oed yn nghartref Uncle Monty Montgomery (Billy Connolly) ac Aunt Josephine (Meryl Streep) ni all y plant ddianc o grafangau Olaf sy'n smalio'n gyntaf ei fod yn wyddonydd ac wedyn yn hen longwr.
Y darnau gorau Ar boen eich bywyd peidiwch â rhuthro o'r sinema wedi i'r ffilm orffen. Arhoswch i weld yr enwau ar y sgrîn gan fod y graffeg sy'n gefndir iddynt yn hyfryd.
Yn anffodus, ychydig iawn fydd ar ôl i werthfawrogi hyn. Eu colled hwy yw hynny.
Sgyrsiau Sunny.
Ymosodiad y gelannod.
Disgwyl gwrthdrawiad y trên.
Y neidr erchyll a Sunny.
Perfformiadau Jude Law fel yr awdur gydag ansawdd ei lais yn wefreiddiol.
Carrey fel Olaf - ond dydio ddim cystal fel y ddau gymeriad arall.
Mae Billy Connolly yn Billy Connolly.
Mae gwahaniaeth barn ynglŷn â Meryl Streep fel modryb sy'n byw ar ei nerfau.
Gystal â'r trelar? Yn well.
Ambell i farn Canmoliaeth gan fwyaf - yn enwedig o Carrey fel ei dri chymeriad - ac er nad yw pawb yn ffoli ag ystumiau arferol Carrey mae ei osgo talsyth fel Olaf yn gweddu i'r dim.
Y canlyniad Er bod llawer sy'n ystrydebol yn y ffilm - plant hoffus a diymgeledd yng nghrafangau perthynas dieflig ond neb yn eu coelio pan ydynt yn cwyno - mae presenoldeb yr awdur, Lemony Snicket (Jude Law) yn troi hon yn stori well na'r arferol.
Mae o'n siarad yn barhaus â'r gynulleidfa ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd mewn ffordd fydd yn gyfarwydd i'r rhai hynny fu'n darllen y llyfrau.
Gwelir Snicket yn eistedd yn y cysgodion gyda'i deipiadur yn teipio'r hanes ac yn cymell y gynulleidfa i hyd yn oed adael y sinema (roi'r gorau i ddarllen y llyfr) ar adegau.
Ei eiriau cyntaf wrthym yw: "Mae'r ffilm yr ydych ar fin ei gwylio yn un hynod o annymunol," gan fynd ymlaen i'n cymell i adael os ydym eisiau gwylio rhywbeth brafiach, hapusach!
"Nid yn unig does yna ddim diwedd hapus i'r stori hon - does yna ddim dechrau hapus iddi ychwaith. Ac ychydig iawn o bethau hapus sy'n digwydd yn y canol hefyd," rhybuddia.
Mae llais Law yn gweddu i'r dim ar gyfer y rhan hunan barodiol hon ac er nad yw prin yn cael ei weld mae ei bresenoldeb yn allweddol i lwyddiant y ffilm.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae i'r tri o blant briodoleddau arbennig sy'n eu cynorthwyo wrthsefyll bygythiadau Olaf. Mae Violet "y ddyfeiswraig bedair ar ddeg oed o wychaf yn y byd"; mae Klaus yn ddarllenwr mawr nad yw byth yn anghofio unrhyw beth a ddarllenodd o Sartre i lawlyfr hwylio cwch.
Mae Sunny, wedyn, yn gnowraig sydd a'i dannedd ym mhopeth - a phawb - ac yn siarad mewn iaith babi nad yw ond ei brawd a'i chwaer yn ei ddeall. Dyfais ddoniol sy'n gweithio'n hyfryd gydag is-deitlau ar y sgrîn.
Un o hynodion mwyaf apelgar y ffilm yw'r modd y llwyddir i gymysgu mor ddidramgwydd wahanol 'gyfnodau'.
Un funud, yr ydym yn dilyn stori wedi ei gosod yn ystod y ganrif ddiwethaf yna, mwyaf sydyn, mae'r awyrgylch yn gwbl fodern wrth inni gamu o rhyw fyd gothig i'r dydd heddiw. Clyfar.
Geiriau gorau . . . Mae plant yn bethau estron i mi - Olaf.Onid ydych chi'n cael yr argraff nad yw'r un o'n perthnasau yn perthyn inni?
Gwerth mynd i'w gweld Yn wir - er y byddai ar ei mantais o fod wedi cael ei chwtogi, hon, gyda'r Incredibles, yw ffilm deulu orau'r Nadolig hwn .
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|