Iron Man (2008) Digon o bres mewn hen haearn
Y sêr
Robert Downey Jr, Gwyneth Paltrow, Jeff Bridges.
Cyfarwyddo
Jon Favereau
Sgrifennu
Mark Fergus, Hawk Ostby, Art Marcum a Matt Holloway - yn seuiliedig ar y cymeriad o gomic Marvel.
Hyd
126 munud
Sut ffilm
Oes wir, mae yna arian mewn hen haearn..
A beth fyddai Hollywood yn ei wneud heb gomic Marvel. Dim Batman, dim Spider-Man, dim Incredible Hunk, dim llawer o ddim.
Ac yn awr, Iron Man - nid y mwyaf atyniadol na'r mwyaf poblogaidd o gymeriadau'r comic ond yn un y teimlwyd ei bod hi werth gwario $200m arno i'w drosglwyddo'n ffillm. Y gyntaf o dair ffilm amdano, medden nhw.
Oes wir, mae yna bres mewn hen haearn.
Y stori
Mae'r stori'n cychwyn yn niffeithdir Affganistan lle mae'r gwerthwr arfau dinistriol Tony Stark (Robert Diowney Jnr) yn arddangos gerbron arweinwyr milwrol America ei arf diweddaraf.
Yn un o ddynion cyfoethocaf y byd sy'n ymdrybaeddu mewn bywyd swanc a bras mae ei lygaid bob amser ar y ferch nesaf i'w hudo i'w gartref crand sy'n clwydo ar ochr clogwyn uwchlaw traeth Malibu.
Ond yn Affganistan mae Dynion Drwg yn chwythu'r cerbyd mae'n teithio ynddo yn chwilfriw mân a'i niweidio yntau yn ddifrifol gyda'i arfau ei hun cyn ei gludo i un o'r ogofau hynny y mae Dynion Drwg yn byw ynddynt.
Yr ydych yn gwybod yn syth eu bod yn ddynion drwg gan eu bod yn gwisgo barfau duon ac yn siarad iaith sy'n gwbl annealladwy iddo.
Yn ffodus mae carcharor arall yn yr ogof sy'n deall be maen nhw'n ddweud heb orfod darllen y geiriau ar y sgrin ond sydd, yn bwysicach fyth, yn achub bywyd Stark trwy osod magned drydanol yn ei frest er mwyn rhwystro'r shrapnel o'r ymosodiad ffrwydrol gyrraedd ei galon.
Mae'r fagned hon yn fogail o oleuni gydol y ffilm, nid annhebyg i'r bobl annifyr yna sy'n dreifio tu ôl ichi yn y nos a'u golau niwl yn eich dallu o'ch drych..
Ta beth caiff Stark gyfarwyddyd i adeiladu ei arf diweddaraf ar gyfer y terfysgwyr ac er ei fod yn ymddangos fel pe byddai'n brysur ufuddhau yr hyn mae o'n ei wneud mewn gwirionedd ydi adeiladu gwisg fetel iddo'i hun er mwyn dianc.
Mae'r wisg - er yn edrych fel rhywbeth a wnaed gan Ned Kelly a'r Steptoes - yn gwrthsefyll bwledi ac yn taflu mwy o fflamau na thân eithin. Yn llwyddiant ysgubol mae'n ei godi hefyd i'r entrychion a'i hedfan i ddiogelwch i'w achub gan Americanwyr cyfeillgar.
Bu'r profiad yn un digon ysgytwol iddo sylweddoli nad trwy gynhyrchu arfau mae dofi'r byd gan fod tuedd i Elynion Drwg ddefnyddio arfau'r Bobol Dda yn erbyn Americanwyr fel ef.
Felly mae'n cysegru ei fywyd i berffeithio'r wisg fetel a fydd yn ei alluogi i hedfan yma ac acw dros y byd yn trechu Dynion Efo Barfau Duon ac achub Plant Diniwed Gyda Llygaid Mawrion.
Ond mae gelyn mewnol (gyda barf wen!) mewn gwisg cyfaill ym mhresenoldeb Obadiah Stane (Jeff Bridges) sy'n cynllwynio yn ei erbyn gyda phob math o obadias sut i goncro'r byd ac ymgyfoethogi.
Yn y frwydr fawr i drechu Stane mae Stark yn dibynnu'n fawr ar ei ysgrifenyddes bersonol Pepper Potts (Gwyneth Paltrow) sydd mewn cariad â Stark er nad yw ef na hi yn sylweddoli hynny.
Ac wrth gwrs mae yntau mewn cariad â hithau er nad yw ef na hi yn sylweddoli hynny ychwaith!
Y canlyniad
Wel, mae'n well na gwario $200m ar wneud arfau mae''n debyg ac ni fydd neb yn synnu clywed bod yr effeithiau arbennig yn eithriadol o, wel o arbennig, unwaith eto yn ffrwydradau ac yn fflamau ac yn hedfanau.
Mae'r feddylfryd, wrth gwrs, yn gwbl Americanaidd ac yr oedd hynny'n wir am y cymeriad pan ymddangosodd gyntaf yn y Chwedegau.
Y gwahaniaeth yw mai'r Comiwnyddion oedd Y Dynion Drwg yr adeg honno ond gyda'r oes a'r byd wedi symud yn eu blaen mewn ogofau ym mynydd-dir caregog Affganistan mae'r gelyn yn cartrefu'n awr.
Ond gyda rhywfaint o ddrwg yn y caws gartref hefyd ar ffurf Obadiah Stane.
Ambell i farn
At ei gilydd mae'r beirniaid wedi eu bodloni gan ganmol Yr Effeithiau wrth gwrs ond hefyd yr elfen o hiwmor sydd yn y ffilm.
Yn ôl y Daily Mirror hon, blocbystar cyntaf y flwyddyn, "fydd yr un i'w guro" eleni. Mae'r papur hefyd yn hoffi'r ffaith fod Iron Man / Stark mor wahanol o ran nature i'r Spider-Man-Toby Maguire myfiol a'r gweddill o'r arwyr .
Mae'r Guardian yn gweld Iron Man fel cymysgedd o Robocop, Darth Vader ac Iron Man Ted Hughes hyd yn oed "ond ei fod yn llai o ddirgelwch ac yn fwy llwydaidd na nhw".
Ond er nad yw'n llawdrwm ar y ffilm mae'r papur yn ofni bod ôl rhwd ar yr haearn yn barod!
Rhoddodd y ffilm gryn dipyn mwy o bleser i adolygydd gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ sy'n canmol ynni a hiwmor Downey Jr a'i berfformiad "delightful" gan ychwanegu ei fod yn tra rhagori ar Batman a Spider-Man - ond rwy'n ei chael ei anodd cael fy narbwyllo o hynny gan fod y Batman diwethaf a'r ail a thrydydd Spider-Man wedi torri cwys go drawiadol.
Rhan orau Mae'r holl rannau 'action' yn drawiadol.
Yr ymladdfa fawr rhwng Iron Man ac Obadiah.
Y darnau o'r arfwisg fetalaidd yn clicio i'w lle am gorff Stark.
Rhai geiriau "Maen nhw'n dweud mai'r arf gorau yw'r un nad oes raid ichi ei danio. Mae'n well gen i arf nad oes raid ichi ei danio ond unwaith."
"Heddwch ydi bod â ffon fwy na'r dyn arall." "Mae hynna'n grê t o enau'r dyn sy'n gwerthu'r ffyn!"
"Gwelais ddynion yn cael eu lladd gydag arfau a adeiladais i'w hamddiffyn."
"Dyro imi 'Scotch' rydw i ar lwgu."
Perfformiadau Mae Downey Jr yn cyfuno'r elfen hedonistaidd a'r elfen egwyddorol yn ddigon creadwy. Digon o hiwmor a sawl brawddeg fachog. Ydi, mae o'n iawn.
Mae Gwyneth Paltrow wedi hen ennill y disgrifiad "The Queen of Bland ac mae'n parhau i deyrnasu yn y ffilm hon. Er pob ymdrech i greu rhyw berthynas Bond / Moneypenny dydi o ddim yn gweithio. Roedd angen rhywun gyda chryn dipyn mwy o gythrel ynddi.
Yn eich atgoffa . . .
O'r hysbyseb ar y teledu lle mae'r car yn troi'n greadur dwygoes.
Gwerth ei gweld? Un i'r teulu. Efallai y bydd y plantos yn gogrwn rhywfaint yn ystod y darnau geiriol ond fe fyddan nhw wrth eu boddau gyda'r ffrwydradau, yr hedfan a chyda'r dyfeisiadau yn labordy Stark.
|
|