Cymru Ddu - y gyfres deledu Yn ddu ac yn Gymry
gan Gwyn Griffiths Roedd trigolion Bae Caerdydd yn hael eu canmoliaeth i gwmni AntenaDocs ac S4C am y gyfres Cymru Ddu a ddarlledwyd yn ddiweddar ar S4C. Ond mynegwyd syndod na fanteisiodd 91Èȱ¬ Cymru nac HTV ar y cynnig i gydweithio i lunio cyfres Saesneg ei hiaith yr un pryd.
Dangoswyd trydedd raglen y gyfres deledu - Rydyn Ni'n Ddu a Rydyn ni'n Gymry - gerbron cynulleidfa yng Nghanolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown fel rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru Ddu nos Fawrth (Gorffennaf 26).
Hefyd, rhoddodd Glenn Jordan, Cyfarwyddwr Canolfan Butetown a chadeirydd y noson, air da i'r gyfrol Cymru Ddu / Black Wales gan Alan Llwyd a gyhoeddwyd i gydfynd â'r gyfres deledu.
Gwelai arwyddocâd arbennig i'r ffaith fod y gyfrol wedi ei sgrifennu yn y Gymraeg a'i throsi wedyn i'r Saesneg.
Profiad newydd "Yr oedd yn brofiad newydd," meddai Glenn Jordan, "cael criw o'r cyfryngau yn dod atom ni wedi gwneud eu hymchwil sylfaenol cyn gofyn am gymorth a barn ychwanegol wrthym ni, yn hytrach na disgwyl i ni wneud y gwaith i gyd trostyn nhw."
Y mae trydedd raglen y gyfres yn cynnwys llawer o atgofion a phrofiadau hen drigolion Bae Caerdydd - pobl fel yr awdur Neil Sinclair a'i chwaer Leslie Clarke.
Ni wyddai Neil ddim byd am hiliaeth nes iddo ymadael â'r Bae. Ond ni fedrai Leslie weld diwedd i hiliaeth.
A chwynai Gaynor Legall am y modd y mae pobl ddu ac ethnig yn cael eu cadw allan o swyddi uchel yn y sectorau preifat a chyhoeddus.
Byd chwaraeon Y mwyaf trawiadol oedd profiadau rhai o sêr y byd chwaraeon a anwyd ac a fagwyd ym Mae Caerdydd. Er iddo fod yn gapten tîm rygbi ysgolion Cymru, teimlai Billy Boston nad oedd obaith iddo chwarae i Gymru ac aeth i ogledd Lloegr a dod yn seren yn y gêm tri-ar-ddeg.
Yn ôl Billy Boston, hawdd y gallasai ei gymydog plentyndod yn Angelina Street, Joe Erskine, fod yn seren ar y cae rygbi, ond aeth i focsio a dod yn bencampwr pwysau trwm Prydain.
Yr oedd Nigel Walker, pan oedd yn yr ysgol, yn credu ei fod yn un o'r ddau asgellwr gorau yng Nghymru ond ni chafodd ei ddewis i'r tîm cenedlaethol.
Ond ar y trac athletau, fel mewn boscio, os mai chi sy'n ennill, 'does dim dadl. Bu Walker yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa ddisglair fel gwibiwr dros y clwydi cyn dychwelyd i chwarae rygbi i Gymru mewn cyfnod mwy goddefgar.
Dymchwel strydoedd Hwyrach mai un o drasedïau'r cyfnod wedi'r Ail Ryfel fu dymchwel yr hen Bute Street a nifer o strydoedd eraill y bae. Yn ei lle codwyd fflatiau a gwasgarwyd yr hen gymdeithas gymharol gytûn, liwgar ac amlhiliol.
"Chwaraeon a'r protestiadau gwrth-Apartheid," meddai Wyn Thomas o gwmni AntenaDocs, "wnaeth i mi ymddiddori yn y pwnc yma i gychwyn. Rwy'n cofio gorymdeithio mewn protest yng Nghasnewydd a chlywed pobol yn gweiddi 'nigger lover' arna i.
"Roeddwn i'n teimlo bod angen i ni fel Cymry edrych arnon ni'n hunain yn onest. Fel Cymry-Cymraeg mae gennym lawer i fod yn falch ohono yn ein hanes, ond mae gennym lawer nad oes gennym reswm dros ymfalchïo ynddo, hefyd.
"Yr oeddwn am geisio helpu i greu cymdeithas fwy goddefgar yng Nghymru."Gwelai Glenn Jordan y gyfres yn un a wnaeth lawer i greu delwedd well o gymdeithas y bae. "Drwy gydol y ganrif diwethaf crewyd y myth fod Tiger Bay yn lle peryg a bod y dynion duon yn rhywiol ofnadwy," meddai. "Nid oedd mythau o'r fath yn poeni pobol y bae yn ormodol, rwy'n amau fod llawer yn dawel fach yn ymhyfrydu ynddynt - ond y maent yn bell o fod yn wir.
Rwy'n siŵr fod y gyfres wedi gwneud gwaith pwysig yn addysgu ein cyd-Gymru gwyn, Cymraeg ei hiaith."
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|