I Am Legend (2007)
Y Sêr: Will Smith, Alice Braga, Dash Mihok, Salli Richardson, Willow Smith
Cyfarwyddo: Francis Lawrence
Sgrifennu: Mark Protosevich, Akiva Goldsmith o nofel gan Richard Matheson.
126 Munud
Adolygiad Shaun Ablett
Dyma'r trydydd tro iddyn nhw wneud ffilm o nofel Richard Matheson.
Yn y flwyddyn 2009 mae firws oedd i fod i drechu canser wedi lladd bron bawb dros y byd i gyd a llurgunio eraill yn fodau annynol.
Erbyn 2012 gwyddonydd o'r fyddin, Robert Neville (Will Smith) yw'r unig un sy'n fyw yn Efrog Newydd gyda'i gi ffyddlon ei unig gydymaith. Mae golygfeydd gwych o Efrog Newydd yn adfeilion ac yng nghanol y llanast mae Neville yn chwilio am ffordd o drechu'r firws a chadw un cam ar y blaen i'r bodau brawychus sydd ond yn gallu cerdded y strydoedd wedi machlud haul.
Bob dydd mae'n darlledu neges yn y gobaith fod pobl normal eraill rywle yn y byd ac yn wir fe ddaw i gysylltiad â mam a'i mab sydd fel yntau wedi osgoi hunllef y firws.
Ond pan ddaw y llygedyn hwnnw o obaith fe'i gorfodir i aberthu ei hunan er mwyn eu hachub hwy.
Mae hwn yn berfformiad ardderchog gan Will Smith yn enwedig o gofio mai cymeriad ar ei ben ei hun y rhan fwyaf o'r ffilm heb gymeriadau eraill i ymateb iddynt.
Mae rhannau ardderchog gan gynnwys agoriad y ffilm a Neville yn gyrru car ar gyflymdra mawr drwy strydoedd gweigion Efrog Newydd gyda'r 'Ddinas nad yw byth yn cysgu' yn gwbl anial.
Yr olygfa sy'n codi'r ofn mwyaf yw pan fo Neville yn mynd mewn i adeilad tywyll i chwilio am ei gi gyda dim ond sŵn anadlu dwfn.
Mae'r tensiwn yn yr olygfa hon yn afreal.
Yr unig broblem gyda'r ffilm yw ei bod yn cymryd rhyw awr cyn i'r cyffro ddechrau.
Serch hynny, byddwn yn cynghori pawb i fynd i weld hôn.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
|