Twist yn cael un tro arall
Y sêr
Syr Ben Kingsley, Barney Clark; Jamie Foreman; Harry Eden; Leanne Rowe; Edward Hardwicke, Jeremy Swift. Cyfarwyddwr
Roman Polanski
Sgrifennu
Ronald Harwood yn seiliedig ar nofel Charles Dickens
Hyd
130 munud
Adolygiad Grahame Davies
Sut ffilm
Ymdriniaeth ffyddlon ac effeithiol o hen glasur cyfarwydd iawn.
Y stori
Plentyn amddifad deg oed yw Oliver Twist (Barney Clark), yn crafu byw mewn wyrcws annynol yn Lloegr yn hanner cyntaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Llwydda i ddianc rhag y drefn greulon a cherdded i Lundain, lle caiff ei lochesu gan gwmni o fechgyn sy'n byw drwy ladrata i'r pen-leidr carismataidd, Fagin. (Ben Kingsley)
Ac yntau angen gwneud bywoliaeth rywsut, does gan Oliver fawr o ddewis ond i gyd-fynd gyda'i achubwyr hyblyg eu hegwyddorion, ac fe gaiff ei ddysgu yng nghrefft y rhai blewog eu dwylo.
Ond ceir ffrwd gref o drais a bygythiad dan wyneb yr isfyd troseddol hwn, gyda'r bwrgler bwystfilaidd Bill Sykes yn bresenoldeb tywyll.
A phan aiff pethau o chwith ar un o'u helfeydd, ac fe ddaw Oliver i gysylltiad â noddwr caredig a phwerus, Mr Brownlow (Edward Hardwicke), mae'r stori yn mynd yn frwydr rhwng grymoedd goleuni a thywyllwch wrth iddynt ymgiprys am gorff ac enaid y plentyn.
Y canlyniad
Effeithiol yw'r gair sy'n dod i'r meddwl fwyaf. 'Does dim llawer annisgwyl yma, ac nid yw Polanski yn ceisio ychwanegu fawr ddim at y stori, na'r deialog, na chwaith at yr arddull o ddweud y stori, sy'n tueddu at y parchus a'r uniongyrchol, os nad, mae'n rhaid dweud, at yr amlwg.
Mae hwnna'n rhinwedd neu'n gyfle wedi'i golli, gan ddibynnu ar eich safbwynt. Os am fersiwn sy'n driw i'r gwreiddiol, yna dyma'r ffilm i chi. Os am wreiddioldeb a thorri tir newydd, yna, na.
Yn sicr, fydd neb yn cyhuddo'r Pwyliad o wneud cam â'r llyfr gwreiddiol, na chwaith - o gofio mai dyma'r dyn a foddodd y sgrîn mewn gwaed wrth addasu'r ddrama Macbeth - o fynd dros ben llestri o ran darlunio'r trais.
A dweud y gwir, er gwaetha'r erchyllterau a ddaw i ran Oliver yn y wyrcws ac wedyn ar y stryd, ac er mai tywyll i'r olwg ac i'r dychymyg yw llawer iawn o ddigwyddiadau'r ffilm, bron na ellid dweud mai ar garedigrwydd y mae ffocws y cyfarwyddwr.
Daw'r ffilm yn fyw drwy'r fflachiadau o ddaioni - hunanaberth cariad Bill Sykes, Nancy (Leanne Rowe), neu dosturi'r hen fenyw (Liz Smith) a lochesa Oliver ar ei ffordd i Lundain - sydd yn goleuo'r tywyllwch sydd bob amser yn bygwth llyncu'r gwyliwr.
Yn sicr, mae gan Polanski ddigon o atgofion addas i dynnu arnynt, ac yntau wedi bod yn blentyn o ffoadur yng ngwlad Pwyl adeg gormes y Natsïaid ar y wlad honno yn yr Ail Ryfel Byd, ac wedi goroesi o groen ei ddannedd drwy garedigrwydd y rhai a'i llochesodd.
Tybed ai dyna pam mae 'na rywbeth didaro bron iawn am y golygfeydd o greulondeb, tlodi a thrais, tra bod yr eiliadau o dosturi yn amlwg wedi tynnu'r gorau allan o'r cyfarwyddwr ac o'r actorion fel ei gilydd? Bron fel petai'r cyfarwyddwr yn cymryd dioddefaint yn ganiataol, fel cyflwr naturiol, ond yn cyffroi o weld posibiliadau amgenach.
Yn sicr, ar ymatebion a dewisiadau unigolion y mae ffocws y ffilm. Ni cheir llawer o delynegi gweledol, boed o fath tywyll neu olau, na chwaith o ddyfeisgarwch naratif na ffotograffaidd. Canolbwyntir ar y perfformiadau, gyda'r lleoliadau mewnol yn adlewyrchu'r ffaith mai ar ddrama fewnol cydwybod yr unigolyn y mae'r stori mewn gwirionedd yn troi.
Y darnau gorau
Unryw ddarn lle darlunir y berthynas annwyl-fygythiol rhwng Fagin ac Oliver, yn enwedig eu cyfarfod dirdynnol olaf.
Y beadle, Mr Bumble, (Jeremy Swift), yn eiriog ac yn hunanbwysig wrth dra-arglwyddiaethu ar y trueiniaid dan ei 'ofal'.
Perfformiadau
Er gwaethaf addasrwydd ei olygon hoffus ac eiddil yn y brif ran, ac er mai di-fai oedd ei actio, mae lle i amau a oes gan Barney Clark cweit ddigon o garisma mewnol. Ond dylid nodi mai cymeriad goddefol yw Oliver i raddau helaeth, felly mae'n anodd disgleirio pan fo rhywun yn wrthrych i ddigwyddiadau yn hytrach nag yn gatalydd.
Yn hynny o beth y mae gan gymeriad prif-gynorthwy-ydd ifanc Fagin, yr Artful Dodger (Harry Eden), lawer mwy o fantais. Gyda'i gymeriad yn fydol-ddoeth cyn ei amser ac yn gymysgedd o gydwybod a drygioni, mae'n anodd peidio â chael hwyl yn y rhan hwn, ac yn sicr mae'r actor ifanc yn dod â'r cyfuniad cywir o dynerwch a chaledwch at y rhan.
A Fagin wedyn. Mae'r cymeriad hwn yn un eiconig, ac yn un, fel gyda Scrooge, sydd wedi mynd y tu hwnt i'w swyddogaeth wreiddiol fel cymeriad Dickensaidd gan ddod yn enw ar unrhyw arweinydd ar giang o ladron ifanc.
Anodd felly yw i unrhyw actor ddiosg y baich o ddisgwyliadau a phortreadau blaenorol sydd yn pwyso mor drwm arno â'r gôt drymlwythog o drysorau y mae Fagin yn ei gwisgo. Teyrnged i alluoedd Ben Kingsley, felly, yw iddo ddod â Fagin yn fyw, a bod rhywun yn ymdeimlo i'r byw â'r cymeriad swynol ac eto sylfaenol hunanol a diegwyddor hwn.
Ffeithiau difyr
Ffilmiwyd y lleoliadau yn ninas Prâg yn y Weriniaeth Tsiec.
Nid oedd ffilmio yn Lloegr yn opsiwn i Polanski, gan iddo ofni ymweld â 'r wlad rhag ofn iddo gael ei estraddodi i'r Unol Daleithiau, lle mae'n wynebu dedfryd llys am drosedd o drais statudol yn erbyn merch 13 oed yn 1977.
Mae dau o blant Polanski, o'i drydedd briodas, yn ymddangos mewn rhannau bychain yn y ffilm.
Cystal â'r trelar?
Ydi. Ambell i farn
Rhy gynnar eto, gan fod y ffilm heb gyrraedd y sinemâu wrth i'r adolygiad hwn gael ei ysgrifennu.
Gwerth mynd i'w gweld?
Ydy, os am addasiad heb yr annisgwyl, a chofiwch fod y ffilm braidd yn araf a thywyll ar gyfer plant iau.