Casino Royale Croesawu'r Bob newydd
Adolygiad Siwan Davies o Casino Royale
Rhwng 1962 a 2006, rydym wedi gweld 20 "The name's Bond; James Bond" a 007 ar y sgrin fawr. Nawr, mae ffilm arall i'w hychwanegu at y rhestr; Casino Royale.
Ac yn hon mae pethau wedi newid. Yn bwysicach na dim, mae yna actor newydd yn chwarae'r brif ran gan ddilyn yn 么l troed Sean Connery, George Lazenby, Roger Moore, Timothy Dalton a Piers Brosnan.
Daniel Craig yw asiant arbennig M16 y tro hwn.
Corff deniadol Dyw popeth, serch hyn, ddim yn newid gan fod y drylliau, y tuxedo, y martini, y corff deiniadol yn ymddangos o'r m么r a'r awydd i goncro yn parhau!
Mae M hefyd wedi goroesi yn cael ei phortreadu gan y bytholwyrdd Judi Dench.
Chwarae'i gardiau Tasg Bond yw atal bancwr terfysgwyr rhag ennill twrnamaint casino a'i amddifadu o arian i hyrwyddo gweithgareddau terfysgol.
Ar 么l dilyn ei drwyn i'r Bahamas a Miami, ym Montenegro y mae'n wynebu dros y bwrdd chwarae Le Chiffre (Mads Mikkelsen) - y dyn sy'n llefain dagrau o waed.
Cyfrifydd ddeniadol Bond yw Vesper Lynd (Eva Green).
Wrth i'r chwarae ar y bwrdd dwymo mae Bond yn darganfod ei fod mewn helynt wrth i Le Chiffre ei wenwyno.
Beth sydd ar goll? Yn fy marn i, mae ambell i beth bach ar goll! Ni chlywir y gerddoriaeth thema arferol ond yn awr ac yn y man. Mae'r llinell holl bwysig, "Bond, James Bond!" yn cael ei chadw'n rhy hir cyn ei hynganu. Mae digon o fwrlwm a brwydro ond y tro hwn mae pethau wedi troi'n greulon iawn. Nid yn unig y mae'r ymladd yn gas, lle mae Bond yn llofruddio, ond mae ein harwr yn derbyn triniaeth ofnadwy hefyd. Ni allwn fyth ddychmygu Sean Connery na Roger Moore yn mynd trwy hyn.
Syrthio mewn cariad Yn y ffilm mae Bond yn meithrin teimladau dwfn tuag at Vesper - a does dim gwell ffordd o wneud i arwr ymddangos yn ddynol na charwriaeth gyda merch ddeniadol.
Hoffaais yr agwedd hon o'r ffilm sy'n cynnig rhywbeth mwy na stori garu arferol.
Golygfa bwerus yw'r un lle gwelir Vesper yn eistedd yn llefain mewn sioc ar lawr y gawod yn y gwesty - ar 么l iddi fod yn dyst i lofruddiaeth erchyll - a Bond yn ymuno'n dawel 芒 hi i'w chysuro.
Credaf i hon fod yn rhan wych i Daniel Craig sy'n chwarae Bond yn ddawnus iawn gan ddangos ei ochr ddynol ac annynol. Portread grymus.
Gorfodir yr actor i gyfleu amrywiaeth o deimladau a dangos hefyd y gall Bond gael ei hudo i fagl a gwneud camgymeriadau.
Caled a garw Er nad yw Craig fel y Bond arferol o ran ymddangosiad mae e'n dal yn rhywiol a golygus mewn ffordd galed a garw!
Ydym ni wedi gweld gormod o'r hen driciau yn ffilmiau Bond?
Gormod o'r botel nwy yn gyfleus i chwythu'r gelyn i ebargofiant? Gormod o Bond yn goroesi pob brwydr? Gormod o wibio o un gwlad i'r llall? Ydy'r ffilmiau Bond wedi chwythu eu plwc ac ond yno i lenwi pocedi cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr?
Na, roedd hon yn ffilm gwerth i'w gweld - dwy awr a hanner o fwrlwm di-stop.
Hoffais yr olygfa gyntaf yn fawr; y neidio athletaidd o dop un adeilad i'r nesaf fel mwnc茂od egniol. Os na fyddai'r elfennau yma yn gyson mewn ffilm ar 么l ffilm, a phobl eisiau ffilm 007 newydd, ni fyddai ffilm ar 么l ffilm yn cael ei chreu.
Einioes newydd Credaf i Casino Royale roi einioes newydd i James Bond a'i wneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae targed y gwylwyr yn un eang iawn, o bobl ifainc yn eu harddegau i bensiynwyr.
Rwy'n ferch 17 oed, ac fe wnes i fwynhau'r ffilm mas draw ac yn rhoi 9/10 i Casino Royale gan fod yn gwbl barod i wylio ffilmiau newydd 007 y dyfodol gyda'r actor golygus hwn a'r llygaid glas treiddgar yn chwarae'r brif ran.
Cofiwch yr enw; Craig, Daniel Craig!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91热爆 Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiadau eraill
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|