Casino Royale 2006 Sŵn y ceir yn toddi nghlustiau!
Y sêr
Daniel Craig, Eva Green, Mads Mikkelsen, Judi Dench, Jeffrey Wright, Giancarlo Giannini
Cyfarwyddo
Martin Campbell
Hyd
144 munud
Adolygiad Dylan Davies
A ydych chi yn ffan o James Bond? Ar Dachwedd 16 2006, lansiwyd ei ffilm ddiweddaraf - Casino Royale gyda Daniel Craig yn chwarae rhan James Bond - yr unig berson pryd golau i chwarae'r rhan.
Ennill ei hawl i ladd Ar ddechrau'r ffilm gwelwn sut yr enillodd Bond ei drwydded 00 a'r hawl i ladd ei elynion.
Saethwyd yr olygfa hon mewn du a gwyn er mwyn rhoi'r argraff taw flashback yw hyn.
Mae'r thema gamblo a gamblo gyda chardiau neu poker i'w theimlo drwy'r ffilm.
Mae'r ffilm wedi ei ffilmio mewn nifer o wledydd, o foethusrwydd Prague, Yr Eidal a Llundain i dlodi Uganda a Pakistan.
Uganda yw'r man cychwyn lle gwelwn ddrylliau ar y naill law a thlodi ar y llall gan godi'r cwestiwn; pwy dy'n cyflenwi'r arfau? Cwestiwn y cawn yr ateb iddo yn nes ymlaen pan fo James Bond yn cael ei arwain i'r Bahamas.
I ddweud y gwir, mae'n egluro sut y mae'r rhwydwaith o derfysg yn cael ei rhedeg gyda'r tlodion yn gwneud y gwaith brwnt a'r cyfoethogion yn cyflenwi'r arfau a'r wybodaeth.
Gêm gardiau Y stori yn gryno yw fod yn rhaid i James Bond drechu Le Chiffre (Mads Mikkelsen), bancwr y rhwydwaith derfysg mewn gêm poker yn y Casino Royale er mwyn ei wneud yn fethdalwr.
Dyma lle mae Bond yn cwrdd â Vesper (Eva Green) sydd yn swyddog gyda Thrysorlys Prydain sydd â'r dasg o edrych ar ôl arian y Trysorlys.
Mae James Bond yn llwyddo yn y gêm pocer ond o ganlyniad, mae'n wrthrych nifer o ymosodiadau gan Le Chiffre sydd eisiau ei arian yn ôl.
Ond yn y diwedd caiff Chiffre ei ladd gan y bobl mae benthyg eu arian.
Wrth gwrs, mae Bond yn cael ei demtio gan brydferthwch Vesper ac ar ddiwedd y ffilm mae eto wedi llosgi ei fysedd gan ddarganfod i Vesper ei dwyllo.
Neb dan bymtheg Yn fy marn i mae'r ffilm yn un dda gyda phlot arbennig er, ar adegau roeddwn yn meddwl bod gormod o dor-cyfraith a thrais i'w gweld.
Cefais fy nychryn sawl tro gan ffrwydradau annisgwyl - digon o fraw i adael i'r popcorn gwympo ar lawr!
Er mai tystysgrif 12 sydd i'r ffilm ni fyddwn yn ei hargymell i neb dan 15.
Ceir bendigedig Y rhan orau o'r ffilm yw'r ceir. Gwelir y Ford Mondeo a hen Aston Martin DB5 a'r rhan orau un oedd cael gweld a chlywed yr Aston Martin.
Dyma'r prif reswm imi fynd i weld y ffilm ac ni chefais fy siomi er taw bach iawn o'r car a welir.
Bob tro roeddwn yn clywed y car roedd fy nghlustiau yn toddi.
Do, mwynheais y ffilm ac er iddi ymddangos ar un adeg fod y ffilm ar fin gorffen roedd yna dro arall eto yn y stori.
Wrth i'r ffilm ddirwyn i ben gwelwn James ar stepen drws y Prif Ddihiryn, White, ac ynganu'r geiriau ystrydebol sy'n rhan o bob ffilm Bond, "The name's Bond - James Bond" a'r gerddoriaeth draddodiadol yn y cefndir.
Os ydych yn hoff o ffilm gyda digon o geir a digon o gyffro mae'n ffilm y bydd yn rhaid ichi ei gweld.
Ond os y credwch fod yr hyn a ddigwydd mewn operâu sebon yn dreisgar byddai'n well ichi aros adref!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad Carys Mair Davies
Adolygiad 91Èȱ¬ Cymru'r Byd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|