Wedding Date A gymeri di yr ystrydeb hon . . .?
Y sêr Debra Messing, Dermot Mulroney, Amy Adams, Jack Davenport, Sarah Parish, Jeremy Sheffield
Cyfarwyddo Clare Kilner
Sgrifennu Dana Fox ar sail nofel gan Elizabeth Young, Asking for Trouble.
Hyd 89 munud
Sut ffilm Comedi ddiniwed a digon dymunol yn ei ffordd - ond un na fydd yn aros yn y cof yn hir.
Y stori Mae'r Americanes Kat (Debra Messing) yn hurio Nick, stalwyn golygus o ddyn, (Dermot Mulroney) am chwe mil o ddoleri i fynd gyda hi i briodas ei chwaer yn Lloegr er mwyn gwneud ei hen gariad Jeffrey (Jack Davenport) yn genfigennus a gwneud i bawb arall feddwl ei bod yn hapus ac wedi dod dros cael ei gadael i lawr gan Jeffrey.
Yn groes i'w dymuniad mae'r berthynas rhyngddi a'r putain gwrywaidd hwn yn aeddfedu a'r trefniant busnes rhwng y ddau yn troi'n rhywbeth mwy teimladwy.
Wrth gwrs, gan mai ffilm yw hon, dydi pethau ddim yn rhedeg yn esmwyth iddynt gyda sawl sbocsen mewn sawl cyn y cawn wybod a fydd y ddau fyw'n hapus byth wedyn.
Y darnau gorau Mae'r cyfan mor ystrydebol yr ydym wedi gweld bron bopeth o'r blaen - a hynny'n well. Ond y mae'r olygfa pan yw Nick yn noeth ac yn syth o'r bath yn wynebu Kat am y tro cyntaf yn codi gwên.
Perfformiadau Byddai pethau'n go flêr heb anwyldeb Debra Messing.
Mae Dermot Mulroney bron mor brennaidd y byddai coed derw yn gofyn am ei lofnod.
Yn dwyn y sioe, fel petai, mae Sarah Parish fel cyfnither gwrs ac amrwd Kat. Diolch amdani.
Gystal â'r trelar? Heb weld un.
Y canlyniad Cyfle i dynnu pob math o ystrydebau ffilm priodas o'r cwpwrdd ond heb roi unrhyw ysgytwad o bwys iddyn nhw.
"A gymeri di yr ystrydeb hon yn ffilm i ti?"
Geiriau cofiadwy Byddai'n well gen i gwffio gyda thi na bod mewn cariad gydag unrhyw ferch arall! Ooooooooooooooooo.
Beth fyddwch chi'n ddweud ar ôl ei gweld? "Doedd hynna ddim cystal a Four Weddings!"
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|