Pobl ifainc yn mentro Gŵyl yn dangos ffilmiau gan blant ysgol
Gwnaed galwad am i astudiaethau ffilm fod yn rhan o faes llafur ein hysgolion mewn gŵyl ffilm yn Aberystwyth fis Hydref 2007.
Mewn gŵyl ffilm arall yng Nghaernarfon cyn diwedd y mis dangoswyd gwaith plant ysgol o'r ardal honno sydd eisoes yn arbrofi ac yn mentro yn y maes - gyda dau o'r rhai a gymerodd ran yn ennill eu 'Hoscars' cyntaf fel petai.
Yn Aberystwyth Iola Baines, Swyddog Datblygu Ffilm, Archif Sgrin a Sain Cymru, a oedd yn cymryd rhan mewn trafodaeth am y portread o Gymru mewn ffilmiau a fynegodd ei dymuniad fod ffilm yn dod yn rhan o addysg disgyblion ysgol.
Yn ystod yr un drafodaeth, gyda Gwenno Ffrancon ac Ed Thomas yr oedd John Hefin, y cadeirydd, wedi mynegi ei siom yntau nad yw astudiaethau ffilm wedi cael eu cymryd o ddifrif mewn prifysgolion gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt er ei fod yn gyfrwng mor hynod o ddylanwadol.
Ta beth, yng Ngwyl Ffilm Pics yng Nghaernarfon 9 - 12 Tachwedd 2007 dangoswyd gweithiau nifer o bobl ifainc yr ardal sy'n cael cryn hwyl ar arbrofi ym myd ffilmiau a defnyddio'r offer diweddaraf i greu nid yn unig ffilmiau arferol ond gwaith animeiddio.
Dywedodd Elen ap Robert , cyfarwyddwr artisrig Galeri yng Nghaernarfon, mai'r gobaith yw y bydd 'Pics' yn tyfu'n ddigwyddiad blynyddol yn sgil y diddordeb sy'n cael ei ddangos yn y cyfrwng gan bobl ifainc.
Yn ogystal a chynnal nifer o weithdai dangoswyd ffrwyth tri phrosiect dros y penwythnos: Ffim animeiddiedig gan bobl ifainc a staff Uned Bryn Llwyd ym Magor ar gyfer rhai nad ydynt yn gallu mynychu eu hysgolion arferol.
Nifer o ffilmiau byrion yn amrywio o rai dogfen i rai animeiddiad gan rai fu'n mynychu prosiect cymunedol celfyddydau perfformio dan yr enw Rygarug - sy'n cael ei gynnal fel gweithgarwch wedi'r ysgol yn Ysgol Gynradd Llanrug.
Tair ffilm a dwy stori ddigidol gan 'Sbarc!' , prosiect gelf sy'n cynnig hyfforddiant mewn ffilm a straeon digidol yn Galeri.
Dywedodd Elen ap Robert fod y cynlluniau yn gweithio ddwy ffordd gan fod y rhai sy'n mynychu'r prosiectau yn gallu manteisio ar arbenigedd sydd ar gael o fewn y diwydiant ffilm yn lleol ac, ar y llaw arall, y bydd o fantais i'r diwydiant ei hun yn y dyfodol fod pobl ifainc ar gael sydd wedi meithrin y sgiliau hyn o ddyddiau ysgol gynradd.
"Mae'n dangos pwysigrwydd gweithio mewn partnerriaeth a manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael," meddai.
"Rydym yn gweld yr Ŵyl eleni fel cam cyntaf tuag at sefydlu gŵyl ffim flynyddol yn Galeri i ddangos gwaith doniau lleol," meddai.
Ychwanegodd fod hyn yn rhan o'r awydd i wireddu'r nod nad lle i weithgareddau dosbarth canol yn unig yw Galeri ond "adeilad i'r holl deulu".
"Un peth sydd wedi gwneud argraff yw pa mor ddyfeisgar yw'r plant sydd wedi bod yn cymryd rhan," meddai.
Sylfaenwyd ffilm Uned Bryn Llwyd, a luniwyd dan arweiniad y Prifardd Mei Mac, ar groesdynnu traddodiadol rhwng clybiau pêl-droed Bangor a Chaernarfon - ac yr oedd arddangosfa o'r paratoadau ar gyfer y gwaith animeiddio.
Disgrifwyd nos Wener 'Pics' fel "Noson Garped Coch" gyda detholiad o ffilmiau cynlluniau Rygarug a Sbarc! yn cael eu dangos ar sgrin fawr am y tro cyntaf a'r rheini'n adlewyrchiad o amrediad eang o ddiddordebau yn ymestyn o animeiddio i ffilmiau hanes yn ymwneud a'r Ail Ryfel Byd a hanes Syr O M Edwards a chyfnod y Welsh Not yn ysgolion Cymru.
Cafwyd enghreifftiau o ddychan hefyd ac o holi pobl ar y stryd ac un ffim 'ysbryd' - y cyfan wedi eu gwneud gan blant o oed ysgol.
Uchafbwynt y digwyddiad oedd yr actores Angharad Llwyd yn cyflwyno gwobr i Dewi Meirion o brosiect Rygarug am y ffilm 'Ysbryd y Nos' ac i Gethin Roberts o Sbarc! a ymddangosodd mewn ffilm ddychan am naturiaethwr o'r enw Iola Williams!
Cysylltiadau Perthnasol
|
|