Snowcake (2006) Emosiynol, trist a doniol
Y sêr
Alan Rickman, Sigourney Weaver, Carrie-Anne Moss
Cyfarwyddo
Marc Evans
Hyd
112 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm
Drama sy'n dangos pa mor fregus yw bywyd ac sy'n trafod unigrwydd, cariad a marwolaeth ond mewn ffordd dyner, aeddfed a chynnes.
Mae'n delio hefyd â chyflwr meddwl awtistig nas gwelwyd mewn ffilm ers i Dustin Hoffman chwarae cymeriad Raymond yn Rain Man ddiwedd yr Wythdegau.
Y stori
Wedi i lori yrru i mewn i ochr car Alex Hughes (Alan Rickman) a lladd y ferch ifanc oedd yn cael lifft gydag ef mae'n penderfynu mynd i gydymdeimlo â'i theulu sy'n byw mewn tref fach yng nghanol nunlle yng Nghanada.
Pan yw'n ymweld â mam y ferch ifanc, Helen Freeman (Sigourney Weaver), mae'n sylweddoli ei bod yn awtistig.
O ganlyniad i'r eira rhaid i Alex aros yn nhŷ Helen am rai dyddiau tan ar ôl yr angladd ac yn raddol mae'n dygymod ag arferion anarferol Helen, a hithau hefyd yn dod i arfer â rhywun newydd yn aros yn ei thŷ.
Ochr yn ochr â hyn gwelwn berthynas hefyd yn datblygu rhwng cymeriad Rickman a Maggie (Carrie-Anne Moss) sy'n byw drws nesaf.
Y canlyniad
Mae'r cyfarwyddwr o Gaerdydd, Marc Evans, wedi creu ffilm emosiynol iawn sy'n drist, doniol ac, ar y cyfan, yn dwymgalon.
Mae'n amhosib cerdded allan o'r sinema heb gael eich effeithio mewn ffordd bositif gan y stori hon.
Mae'r sgript, yn enwedig y lein gan gymeriad Rickman "I don't have baggage, I have haulage," yn gryno a ffraeth dros ben.
Ambell i farn "Gyda gwaith camera llaw a shots agos, mae agosatrwydd gwirioneddol i'r ffilm hon. Mae'n llawn cynhesrwydd a thynerwch nag oedd Marc Evans wedi ei gyffwrdd yn aml yn ei waith blaenorol," meddai Gary Slaymaker o'r Western Mail.
Meddai cylchgrawn Empire: "Archwiliad araf o anabledd a galar sy'n cael ei fywiogi gan berfformiadau gwych a sgript ddoniol a thyner"
Perfformiadau Mae perfformiad Weaver yn arbennig o ddestlus fel person awtistig. Mae'n amlwg iddi dreulio amser maith yn astudio'r cyflwr gan fod ei hymddygiad mympwyol yn rhyfeddol o gredadwy.
Mae Rickman yn chwarae rhan sydd, ar yr wyneb, yn debyg i'r rhan fwyaf o'r cymeriadau sardonig eraill a chwaraeodd dros y blynyddoedd - ond yma mae'n llwyddo i gyfleu canol bregus sy'n ein galluogi i deimlo mwy o empathi nag arfer tuag ato.
Er bod perfformiad Carrie-Ann Moss yn gadarn, ni allwn i gredu fod rhywun sy'n ymddangos mor soffistigedig, deallus a hyderus a hi yn byw ar ei phen ei hun mewn tref fach mor bellennig. Ond efallai mai fy rhagfarn i yw hynny!
Gwerth ei gweld?
Er nad wyf yn un sy'n mwynhau dramâu trymion ac emosiynol mae'r hiwmor sy'n bodoli (gan amlaf yn deillio o ymddygiad cymeriad Weaver) yn torri drwy'r themâu anodd gan ysgafnhau ffilm a allai fod yn araf ac yn un anodd i'w gwylio.
Mae'n amhosib peidio a chael eich swyno gan y berthynas annhebygol sy'n datblygu rhwng dau brif gymeriad - dau sydd mor wahanol ond rywsut yn ddeall ei gilydd i'r dim. Bendigedig!
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|