Zodiac Ar drywydd llofrudd sy'n lladd ac yn lladd
(2007)
Y sêr
Jake Gyllenhaal; Robert Downey Jnr; Mark Ruffalo; Brian Cox; Chloe Sevigny
Cyfarwyddo
David Fincher
Ysgrifennu
James Vanderbilt
Hyd
158 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm?
Addasiad o nofel gan Robert Graysmith am y dieflig Zodiac - llofrudd oedd yn lladd, erlid a chodi ofn yn ardal San Francisco yn ystod y Chwedegau a'r Saithdegau.
Ni fu'r ffilm yn llwyddiant mawr yn yr Unol Daleithiau pan ddaeth allan ond am ryw reswm mae'n tynnu cynulleidfaoedd derbyniol ar yr ochr hon i Fôr yr Iwerydd.
Y stori
Cartwnydd i bapur newydd y San Francisco Chronicle oedd Robert Goldsmith (Gyllenhaal) a ddaeth i ddatrys negeseuon cudd anfonwyd i'r papur gan lofrudd oedd yn galw ei hyn yn Zodiac.
O ganlyniad i'w allu i ddarllen y negeseuon, mae'n llwyddo i weithio'n agos i'r prif newyddiadurwr penboeth Paul Avery (Downey Jnr).
Y prif dditectif ar yr achos yw Toschi (Ruffalo) sy'n rhwystredig iawn gan i'r llofrudd ymosod ar wasgar gan ei gwneud yn anodd i'r ditectif gasglu tystiolaeth gan yr heddluoedd gwahanol.
Er bod tystiolaeth anuniongyrchol yn erbyn un gŵr yn arbennig, nid oes digon i'w gyhuddo.
Wrth i'r blynyddoedd fynd heibio a neb wedi cael ei ddal mae'r trywydd yn oeri ac obsesiwn Graysmith yn ei feddiannu.
Y canlyniad
Dros y blynyddoedd daeth ffilmiau David Fincher yn rhai hawdd eu hadnabod gan fod iddo arddull unigryw, dywyll, sinistr a dinistriol fel y gwelwyd yn Se7en; Fight Club ac Alien 3.
Er bod glaw - a llawer ohono - yn rhan o nifer fawr o'i ffilmiau - gan gynnwys hon - ni fyddwn byth wedi amau taw un o'i ffilmiau ef oedd hi.
Mae'n bosib i hyn fod yn siom i lawer o'i gefnogwyr brwd ond i mi mae Zodiac yn waith celfydd a di-fai ar y cyfan.
Ar y llaw arall, mae'n rhaid dweud ei bod hi ychydig yn hir. Hefyd, mae cymaint o gymeriadau ac enwau yn cael eu cyflwyno, a'r amser yn neidio fesul chwe mis, blwyddyn a hyd yn oed dair blynedd nes ei gwneud yn anodd ei dilyn.
Rhai Geiriau
• "Dwi angen gwybod pwy ydi o. Dwi angen sefyll yno. Dwi angen edrych ym myw ei lygaid, dwi angen gwybod mai y fo ydi o," meddai Graysmith am y llofrudd.
• Arthur Allen Leigh yn gwadu nad ef yw'r llofrudd: "Nid y fi yw Zodiac. Ac os mai fi ydi o, fyddwn i byth yn dweud wrtho chi."
Ambell i farn
• "Gyda diolch i Fincher, mae'r ffilm newydd hon - sydd gymaint o fformiwla Hollywood ei bod yn ddigon i'ch gwneud yn sâl - wedi ffrwydro allan ac chreu rhywbeth cwbl unigryw ac amhosib i'w fethu," meddai Empire.
Perfformiadau
• Heb os, sioe Robert Downey Jnr yw hon. Mae'n chwarae rhan garismataidd. Mae'n alluog ond yn amherffaith. Felly o wybod am broblemau diweddar ym mywyd go iawn yr actor, roedd y rhan yn un berffaith iddo. Mae'n bleser i'w wylio.
• Ar y cyfan mae Jake Gyllenhaal yn dal ei dir fel y prif gymeriad ond bod tuedd iddo edrych yn gymeriad eithaf diymadferth a gwan ar adegau.
• Dim rhyfedd bod Mark Ruffalo yn un o actorion prysuraf Hollywood oherwydd gellir dibynnu arno - yn enwedig fel ditectif.
Ond dydw i ddim yn meddwl y bydd yn torri drwyddo i fod yn seren. Actor cynorthwyol da ydi o - un hynod o dda.
Darnau gorau
• Golygfa wych o arswydus pan fo Greysmith yn mynd i dŷ gŵr oedd yn arfer bod yn berchen sinema lle'r oedd Arthur Leigh Allen yn gweithio.
Gwerth ei gweld?
Gan unrhyw un sy'n hoffi straeon am lofruddion sy'n lladd ac yn lladd. Ond peidiwch â disgwyl ffilm debyg i Fight Club neu Se7en.
Bydd llawer yn ei hystyried yn rhy hir a chymhleth, yn enwedig gan na fydd y stori yn golygu llawer i ni ym Mhrydain er ei bod yn un wir.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|