Maria Full of Grace Trafferthion merch y drygiau
Y sêr Catalina Sandino Moreno, Virgina Ariza, Yenny Paola Vega, Guilied López
Cyfarwyddwr Joshua Marston
Sgrifennu Joshua Marston
Hyd 101 munud
Sut ffilm Ffilm Sbaeneg gydag is-deitlau am helyntion merch 17 oed o bentref tlodaidd ger Bogota yn Colombia, De America, sy'n cael ei hudo oherwydd ei thlodi i lyncu cyffuriau er mwyn eu smyglo i'r Unol Daleithiau.
Ffilm gyntaf seml ond ysgytiol ddwys Joshua Marston.
Y stori Mae Maria (Catalina Sandino Moreno) yn gweithio am gyflog pitw mewn ffatri pacio rhosod, yn rhwygo'r pigau oddi ar goesau'r blodau.
Heb ddim dyfodol wedi colli ei swydd am fod yn bowld ac hefyd yn feichiog gyda babi ei chariad di-ddim mae'n gadael am y dref lle mae'n cael cael ei pherswadio i wneud gwell arian trwy lyncu 60 o belennau heroin i'w cludo yn ei stumog i'r Unol Daleithiau i'w hymgarthu i ddelwyr sy'n ei disgwyl hi a merched eraill yno.
Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae pethau'n mynd o chwith yn y ffordd fwyaf ofnadwy a hithau'n cael ei dal mewn gwe gymhleth mewn gwlad ddieithr.
Y canlyniad Ffilm hynod afaelgar sy'n cydio mewn cynulleidfa o'r cychwyn cyntaf un.
Mor hawdd y gallasai fod yn felodramatig a sentimental ond dewis Marston ddweud y stori mewn ffordd sy'n ymylu ar fod yn ddogfennol gan adael i'r digwyddiadau ddylanwadu ar y gynulleidfa heb iddo ef 'bregethu' o gwbl. Mae'n gyflwyniad trawiadol.
Dewisodd bortreadu Maria fel merch fywiog, hoffus, gyda thipyn o gythrel ynddi yn hytrach nag yn ddiniweityn digynnig a hynny'n ychwanegu at rym y ffilm wrth iddi wynebu ei thrallodion yn yr Unol Daleithiau.
Dynoliaeth y ffilm sydd i gyfrif am ei llwyddiant wrth i Maria a merched eraill gael eu gorfodi i'r fasnach gyffuriau oherwydd eu hamgylchiadau cymdeithasol ac economaidd.
Ond peidiwch a disgwyl gweld pobl yn rhuthro o gwmpas Efrog Newydd mewn ceir cyflym yn tanio gynnau - nid dyna'r awyrgylch o gwbl. Mae'n llawer mwy trawiadol ac ysgytiol na'r ystrydebu hwnnw.
Y darnau gorau Y darlun o'r drefn gludo cyffuriau yn ei chyfanrwydd ac yn arbennig y golygfeydd o'r 'mulod' fel y gelwir y merched yn llyncu'r pelennau heroin.
Y daith awyren i'r Unol Daleithiau.
Y daith tacsis yn Efrog Newydd.
Perfformiadau I berfformiad Catalina Sandino Moreno mae llawer o'r diolch am lwyddiant y ffilm - ond mae hithau'n ffodus hefyd o'r gefnogaeth a gaiff gan yr actorion eraill i gyd.
Gystal â'r trelar? Heb weld un. Yn anffodus nid yw hon yn ffilm sydd wedi ei hyrwyddo rhyw lawer yn y prif sinemâu.
Ambell i farn Gwnaeth Maria Full of Grace argraff bawb a'i gwelodd gan gynnwys cynulleidfaoedd a beirniaid mewn gwyliau ffilm.
"Ffilm gyntaf o gryn awdurdod," meddai Philip French yn yr Observer.
Gwelodd Mark Kermode gyfarwyddwr ac actores yma y mae'n gobeithio gweld pethau mawr ganddyn nhw yn y dyfodol er gwaethaf rhai diffygion mewn arddull a welodd yn Maria
.Gwerth mynd i'w gweld? Er gwaetha'r is-deitlau mae hon yn ffilm na ddylid ei cholli. Trueni nad yw'n cael ei dangos yn y prif sinemâu. Cadwch eich llygaid yn agored amdani yn y rhai llai.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|