White Noise Mwy o statig a syrffed nag o sŵn!
Y sêr Michael Keaton, Deborah Kara Unger, Chandra West, Ian McNeice, Sarah Strang, Nicholas Elia
Cyfarwyddwr Geoffrey Sax
Sgrifennu Niall Johnson
Hyd 97 munud
Sut ffilm Antur ddychrynllyd i ddirgelwch y paranormal ar sail damcaniaeth ffasiynol EVP - Electronic Voice Phenomenon - sy'n honni y gall y meirwon siarad â ni sy'n dal ar y dir y byw drwy offer trydanol fel peiriannau fideo a setiau teledu.
Ffilm Americanaidd yw hi ond wedi ei gwneud yn Vancouver - nid bod dim o rinweddau na harddwch y ddinas hardd honno yn amlwg o gwbl mewn ffilm dywyll sydd dan gawodydd o law parhaus.
Y stori Ynghanol priodas gyfoglyd o hapus a siwgwraidd mae Jonathan Rivers (Michael Keaton) yn colli ei wraig, Anna (Chandra West) mewn damwain car amheus.
Ymhen dim mae ymchwilydd seicig (Ian McNeice) yn cysylltu ag ef yn dweud i Anna gysylltu ag ef drwy rhyw gymhlethdod o beiriannau fideo a setiau teledu yn ei stafell ymchwil.
Mewn amrantiad mae Rivers wedi bod yn y Dixons agosaf ac yn berchen ei offer ei hun a ddefnyddia i geisio clywed a gweld drwy'r statig a'r sgriniau ariannaidd, gwibiog, beth sydd gan Anna i'w ddweud.
Mae'n ymddangos mai "Cer, cer," yw ei neges a gallai'r gynulleidfa yn hawdd elwa ar wrando arni
Y canlyniad Hyd yn oed os gallwch argyhoeddi eich hun fod ysbrydion yn defnyddio fideos a bod pobl ddigon gwirion ag i dreulio oriau yn clustfeinio ar synau statig i geisio clywed eu lleisiau mi fyddwch chi'n cael White Noise yn dipyn o faich.
Mae hynny o stori sydd yna yn swrth, yn ddiamcan a dibwynt ac er bod awgrym o ddirgelwch y dirgelwch mwyaf yw - beth ydi'r dirgelwch?
Trwsgl hefyd yw'r ymdrech i osod sail wyddonol i'r ffilm gyda dyfyniad gan Thomas Edison yn llenwi'r sgrîn ar y cychwyn.
Y sŵn mwyaf yn y sinema oedd pobl yn tyrchu yn eu pecynnau popcorn.
Y darnau gorau Y nodyn ar y diwedd sy'n dweud mai dim ond un achos o EVP ym mhob deuddeg sy'n fygythiol.
Perfformiadau O'r perfformiad melancolaidd a du hwn anodd credu fod Michael Keaton ymhlith actorion comedi gorau'r sgrîn fawr.
Mae McNeice yn creu argraff fel yr ymchwilydd paranormal ond mae'n diflannu o'r stori yn gynt nag unrhyw rith heb fwlch na pheiriant fideo i ddangos lle bu.
Gystal â'r trelar? Na..
Ambell i farn Ni phlesiwyd fawr neb. "Cyfareddol i ddechrau ond chwerthinllyd yn y pen draw," meddai gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ gan ychwanegu fod cymeriad Keaton yn gorfod gwneud y gwrthwyneb yn llwyr i'r hyn y byddai unrhyw un call yn ei wneud dan yr un amgylchiadau..
Tarodd adolygydd arall yr hoelen ar ei phen trwy ddweud fod cymaint o iasau yn y ffilm ag sydd yna ym murmur rhewgell!
Gwerth mynd i'w gweld? Mae'n glawio'n barhaus yn y ffilm - byddai'n rhaid iddi fod yn glawio'n drwm iawn hefyd i'w gwneud werth chweil aros yn eich sedd yn ystod hon.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|