King Arthur Chwalu hen chwedl
Y sêr Clive Owen, Ioan Gruffudd, Keira Knightley, Stellan Skarsgrd, Ray Winstone
Cyfarwyddwr Antoine Fuqua
Sgrifennu David Franzoni
Hyd 123 munud
Sut ffilm Yn ôl yr arwyddion "Contains moderate battle violence and mild sex" sy'n ei gwneud nid yn annhebyg i fyw bob dydd sawl un ohonom.
Bu hefyd yn cael ei gwerthu fel y ffilm sy'n datgelu'r gwirionedd am y Brenin Arthur go iawn.
Er mwyn gwneud hynny mae'r elfennau traddodiadol o Fyrddin y dewin, o gleddyf mewn maen, o daflu Caledfwlch i'r llyn a'r rhan fwyaf o bethau eraill sydd wedi gwneud hon yn stori mor oesol yn cael eu gwthio i'r neilltu.
Dan y drefn newydd dydi Arthur ddim yn frenin ond yn arweinydd criw o farchogion dewr, llwyddiannus mewn brwydr, sy'n cael eu gorfodi i wasanaethu'r Rhufeiniaid o gwmpas Mur Hadrian yn yr Hen Ogledd.
Mae'n hanner Rhufeiniwr yn hanner Brython.
Y stori A hwythau ar drothwy ennill eu rhyddid gan y Rhufeiniaid anfonir Arthur (Clive Owen) a'i filwyr ar un antur - "mission" ydi gair y ffilm Bruce Willisaidd hon - olaf i achub teulu sydd dan fygythiad lleng o Sacsoniaid gwaedlyd dan arweiniad Cedric (Stellan Skarsgard) Darth Varderaidd ei lais a'i fab Cynric (Til Schweigr) gyda phleth yn ei locsyn gên.
Ymhlith milwyr Arthur mae Lawnslot (Ioan Gruffudd) a Bors (Ray Winstone) y mae ei ymddygiad mor gwrs â sŵn ei enw.
Y marchogion eraill ydi Tristan (Mads Mikkelsen), Gawain (Joel Edgerton, Galahad (Hugh Dancy) a Dagonet (Ray Stevenson).
Mae'n diddordeb yn y benywaidd yn cael ei gynnau gan Gwenhwyfar (Guinevere yn y ffilm yn cael ei chwarae gan Keira Knightly) un o'r Woads sef y brodorion lleol sy'n peintio'u hunain yn las cyn rhuthro o gwmpas yn cwffio ac yn lladd.
Y canlyniad Ni ellir peidio â meddwl na fyddai wedi bod yn ddoeth i wneuthurwyr King Arthur gymryd cyngor y dyn papur newydd ar ddiwedd y ffilm ragorol honno, The Man Who Shot Liberty Vallance, lle dywed: "Pan yw'r chwedl yn tyfu'n ffaith - cyhoeddwch y chwedl - When the legend becomes fact, print the legend."
Tebyg ei bod yn fuddiol i haneswyr gael gwybod y gwir am Arthur a phwy ydoedd go iawn ond o safbwynt stori a rhamant dydi'r 'gwir' sy'n cael ei gynnig yma yn rhagori dim ar y chwedlau sydd wedi'n diddori dros yr holl flynyddoedd.
O ganlyniad dydi King Arthur yn ddim amgenach na B movie arall am ddyrnaid dewr yn cyflawni gwrhydri difesur wrth fentro'u bywydau i achub eraill gan weiddi "Rhyddid" bob yn ail brawddeg wrth wneud hynny.
Rhywbeth a welwyd sawl gwaith o'r blaen yn y pictiwrs ac yn llawer iawn gwell ac yn fwy gafaelgar yn rhywbeth fel The Maginificent Seven yr oedd ganddi lawer mwy i'w ddweud am frawdgarwch, cariad a thrais.
Y darnau gorau Mewn ffilm gyda llawer o sŵn ond fawr o sylwedd na chlyfrwch mae'r frwydr ar y rhew yn aros yn y cof - yn enwedig y tric o edrych drwy'r rhew oddi isod.
Perfformiadau A bod yn onest fyddem ni yng Nghymru ddim wedi cymryd fawr o sylw o Frenin Arthur Antoine Fuqa oni bai bod yr actor o Gymro, Ioan Gruffudd, yn cymryd rhan.
Fe'n golchwyd gan don o gyhoeddusrwydd wrth i'r seren deithio i Gaerdydd ar gyfer perfformiad premier nad oedd yn berfformiad cyntaf ond yn gyfle i ohebyddion teledu ofyn iddo, wedi dwys ystyriaeth, gwestiynau treiddgar fel, "Sut deimlad yw bod yn ôl yng Nghymru?" a "Sut un yw Keira Knightly?" a "Beth mae'ch cariad yn i feddwl o'r ffilm?" ac "Ai chi fydd y James Bond nesaf?"
Yn unfryd unfarn daethant i'r casgliad ei fod o nid yn unig yn "well" na Clive Owen ond hefyd yn hen foi iawn sydd heb golli'i ben â llwyddiant.
Gystal â'r trelar? Dydi hi ddim gwaeth.
Ambell i farn Mae'n arwyddocaol mai yng Nghymru y bu'r canmol mwyaf diolch i'r Effaith Ioan Gruffudd.
Dros Glawdd Offa - neu'r tu draw i Fur Hadrian - gwelwyd y ffilm am yr hyn yw mewn gwirionedd. Antur hynod gyffredin gyda pherfformiadau rhesymol na fydd neb yn cofio amdani yr adeg hon y flwyddyn nesaf.
Mae'r ddamcaniaeth hanesyddol 'newydd' - mai milwyr Rhufeinig oedd Arthur a'i farchogion - hefyd yn cael ei chwestiynu gan haneswyr. Cwestiwn Beth yw pwrpas y prolog am Lawnslot - a'r ffilm wedyn yn symud yn llwyr i ganolbwyntio ar Arthur?
Gwerth mynd i'w gweld Oherwydd Y Diddordeb Ioan Gruffudd, ydi. Fel arall, go brin.
Cysylltiadau Perthnasol
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|