Premonition (2007) Amseroedd dryslyd
Y sêr
Sandra Bullock, Julian McMahon, Peter Stormare, Kate Nelligan, Amber Valletta
Cyfarwyddo
Mennen Yapo
Sgrifennu
Bill Kelly.
Hyd
90 munud
Sut ffilm
Ymdrech bellach gan Sandra Bullock i ailafael yn ei gyrfa yn dilyn cyfnod tra siomedig wedi ei chychwyn addawol.
Y tro hwn hi yw'r cymeriad canolog yn un o'r ffilmiau gwewyr amser digon dryslyd yna sydd mor boblogaidd y dyddiau hyn.
Y stori
Bore newydd arferol arall o gael y plant yn barod i fynd i'r ysgol yng nghartref dosbarth canol Americanaidd Linda Hanson (Sandra Bullock) a'i gŵr golygus, Jim (Julian McMahon).
Ond toc wedi i Linda ddychwelyd gartref yn ei 4x4 mae cnoc ar y drws a phlismon yno i'w hysbysu fod Jim, sydd bant o gartref ar fusnes, wedi ei ladd mewn damwain ffordd erchyll.
Ond pan gyfyd Linda y bore canlynol pwy sy'n llond ei groen wrth y bwrdd brecwast yn slotian coffi ac yn hysio'r plant ond Jim ei hun.
Y trydydd bore mae Linda'n deffro i ddiwrnod angladd Jim a phawb wedi ymgynnull yn eu du.
Ac felly eto ac eto gyda Jim fel pe byddai'n fyw ac yn farw bob yn ail ddiwrnod.
Buan iawn y sylweddolwn ni - ond nid Linda - fod ei hwythnos wedi cymysgu'n llwyr a hithau'n llythrennol heb fod yn gwybod pa ddiwrnod yw hi wrth iddi bendilio'n ôl a blaen mewn amser a phopeth yn digwydd allan o drefn iddi.
Er y gwyddom ni'n wahanol mae pawb arall yn ofni iddi golli arni'i hun ac yn ei hanfon i seilam un diwrnod ond gan nad yw ei dyddiau mewn trefn mae ganddi amser hefyd i chwilio am ffordd i newid y dyfodol, achub Jim rhag ei dynged oer a maddau iddo am gyboli efo dynes arall.
Y canlyniad
Ffilm ddryslyd a rhwystredig sy'n drech na'n hygoeledd.
Ychwaneger at hynny gymeriadau cardbord nad yw ots gennych amdanynt ac mae'n ffilm sydd mewn trafferth o'r cychwyn.
Mae rhywun yn cydymdeimlo ag awdur a chyfarwyddwr wrth gwrs - bu cymaint o 'ffilmiau amser' yn ddiweddar mae'n rhaid ei bod yn anodd meddwl beth gwahanol y gellir ei wneud. Yn wir dyma ail ffilm amser Sandra Bullock o fewn blwyddyn yn dilyn The Lake House a oedd o leiaf yn rhagori o ran dyfeisgarwch.
Ond mae yna ddiwedd ysgytwol a hwnnw wedi'i ffilmio'n drawiadol.
Ond rhyw deimlad gwag o fod heb ein digoni sydd yna wrth adael y sinema. Un o hanfodion ffilmiau fel hyn yw fod yr arwr yn drech na'r anorfod - neu beth yw'r iws?
Ymgais i godi'r ffilm i dir uwch yw sgyrsiau rhwng Linda ag offeiriad sy'n dweud pethau fel: "Dydi hi byth yn rhy hwyr i ganfod beth sy'n bwysig yn eich bywyd ac i frwydro amdano." "Mae pob dydd yr ydym yn fyw yn wyrth" ac "Llestri gwag yw pobl sydd wedi colli eu ffydd ac yn fwy tebygol o gael eu meddiannu gan rywbeth arall. Mae natur yn casáu diddymdra."
Felly dyna chi.
Perfformiadau
Ers tro bu Sandra Bullock yn chwilio am gyfrwng i adfer ei gyrfa ond dyw'r ffilm hon yn dod a hi ddim nes at wneud hynny. Yn gyntaf, mae hi angen gwell stori ac yn ail gwell cymeriad o fewn y stori honno.
Gyda hon yn dilyn gwewyr amser The Lake House dim rhyfedd nad yw'r ddynes yn gwybod pa ddiwrnod yw hi.
Ambell i farn Mae Deborah Ross yn y Spectator yn disgrifio Sandra Bullock fel un "yn nofio mewn cawl".
"A ddylech chi fynd i'w gweld?" meddai gan ateb ei chwestiwn ei hun, "Wrth gwrs na ddylech chi."
Ond y mae hi'n ychwanegu; "Y mae ffilm sâl yn un peth ond gellid ystyried bod ffilm cyn saled a hon bron a bod yn fuddugoliaeth."
"Gwirion a di-glem," meddasi Philip French yn yr Observer.
Hunllef arall o berfformiad gan Sandra Bullock meddai Peter Bradshaw yn y Guardian
"Trychineb mewn amser," meddai'r Daily Mirror sy'n cwyno am awyrgylch angladdol a hunanbwysig ffilm a allai fod yn dipyn o hwyl.
Ac yn ôl y Sunday Times dylai'r sgript fod wedi bod yn ddigon o rybudd i Sandra Bullock osgoi'r ffilm hon.
Darnau gorau Y ddamwain erchyll gyda'r lori betrol a'r digwyddiad sy'n arwain at hynny.
Gwerth ei gweld? Nid nes bydd ar DVD - wedyn gellir ei hychwanegu at y llu o 'straeon amser' sydd bron a bod yn bla dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|