Shrek 3 Shrek yn dychwelyd am y trydydd tro
Adolygiad Carys Mair Davies o Shrek the Third.
Yn Shrek the Third mae Shrek (llais Michael Myers) a'i wraig Fiona (Cameron Diaz) yn cael eu hunain yn cyflenwi ar gyfer brenin a brenhines gwlad Far Far Away.
Ond gan fod bryd Shrek ar ddychwelyd i'w gartref ei hunan mae'n mynd ar daith er mwyn perswadio Arthur - y bachgen sydd â'r hawl nesaf i'r orsedd - i gymryd brenhiniaeth Far Far Away oddi arno.
Ond wedi i Shrek gychwyn ar ei daith mae tywysog creulon, Prince Charming, yn cyhoeddi rhyfel ar Far Far Away gan orfodi'r trigolion i fod yn gaethweision iddo ac yn carcharu Fiona, gwraig Shrek.
Y cwestiwn yw, a fydd Shrek yn llwyddo i ddychwelyd i Far Far Away ac achub y dydd?
Dim ond amser a ddengys; ac yn ystod hyn i gyd mae gan Fiona ei syrpreis enfawr ei hunan ar gyfer Shrek . . .
Ceir cymeriadau bythgofiadwy yn y ffilm, megis yr asyn bywiog, Donkey (Eddie Murphy) ond heb os fy hoff gymeriad i yw'r gath, Puss in Boots (Antonio Banderas).
Pwrpas y gath yw ychwanegu hiwmor at y ffilm gan ysgafnhau'r tensiwn wrth iddo gweryla gyda'r asyn o hyd ac o hyd ac o hyd!!
Pan es i'r sinema gyda fy ffrindiau i weld Shrek 3 roeddwn yn poeni na fuasai'r ffilm yn ateb fy nisgwyliadau gan i'r ddwy ffilm gyntaf fod mor wych.
Ond cefais fy siomi o'r ochr orau a'r hyn a wnaeth y ffilm yn arbennig i mi oedd cymeriadau newydd fel Sinderela ac Eira Wen
Ond nid yw Shrek 3 gystal ffilm â'r Shrek gwreiddiol ond yn well na Shrek 2.
Er y buaswn yn cymeradwyo Shrek 3 i unrhyw un; gair o rybudd yn gyntaf - byddwch ar goll yn llwyr oni bai eich bod wedi gweld dwy ffilm gyntaf y gyfres gan fod digwyddiadau'r plot yn dibynnu'n llwyr ar yr hyn a ddigwyddodd yn Shrek 1 a 2.
Chris Miller a Raman Hui yw'r cynhyrchwyr ac rwy'n credu fod labelu'r ffilm yn TBC yn gwbl gywir gan nad oes dim anweddus na chreulon ynddi.
Mae'r diweddglo yn un 'taclus' sy'n cwblhau cylch bywyd Shrek a Fiona i ryw raddau.
Oherwydd hyn nid wyf yn siŵr â ddylai'r cynhyrchwyr ychwanegu ffilm arall at y gyfres.
Gwir y buaswn yn mwynhau gweld mwy o straeon am Shrek a'i dreialon ond rwyf hefyd yn ymwybodol y gall yr hanes fynd yn ddiflas.
Wedi dweud hynny - os bydd Shrek 4 byddaf yn bendant yn mynd i'w gweld.
Mae Shrek 3 yn ffilm sy'n apelio at ferched a bechgyn i'r un graddau ac yn ffilm sy'n gwneud i chi chwerthin yn uche
Felly, rwy'n argymell pawb sydd wedi gweld dwy ffilm gyntaf y gyfres i fynd i weld y drydedd ffilm.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Shrek 2
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|