The Simpsons Movie Plant yr Urdd yn cael eu plesio
Bu aelodau ifainc yr Urdd yn Sir Benfro yn gweld Simpsons The Movie yn sinema Apollo, Aberafan, Gorffennaf 27.
Kirsty Jones sy'n trafod os oedd y ffilm gystal â beth a ddisgwyliwyd yn dilyn yr holl heip ynteu a adawyd y gynulleidfa yn siomedig o weld eu hoff gymeriadau ar y sgrin fawr am y tro cyntaf.
Meddai Kirsty: Fel y gallwch ddychmygu, mae'r Simpsons yn cael eu hunain yng nghanol trychineb apocalyptaidd gyda dyfodol eu tref, Springfield, yn yn nwylo'r arwr annhebygol, 91Èȱ¬r!
Mae cymuned Springfield yn gyrru 91Èȱ¬r a'i deulu o'r dref ar ôl iddo achosi trychineb ecolegol enfawr trwy halogi llyn a'r teulu'n ceisio ailafael yn eu bywydau yn Alaska.
Ond cyn bo hir mae Marge ac aelodau eraill mwy cydwybodol o'r teulu yn sylweddoli bod yn rhaid iddyn nhw ddychwelyd i'w cartref a wynebu eu cyfrifoldebau.
Ond gadewir 91Èȱ¬r yn Alaska gyda dim byd i'w wneud ond meddwl sut mae e'n mynd i achub ei briodas a sut yn y byd y gall e achub ei dref cyn iddi gael ei dinistrio!
Mwynheais y ffilm hon ac roeddwn yn chwerthin gydol campau 91Èȱ¬r sy'n peri i bopeth o'i gwmpas fynd o ddrwg i waeth gan ddinistrio'i berthynas â'i deulu i'r graddau fod ei fab Bart yn troi at Flanders am gwmniaeth dadol!
Un peth sy'n rhaid ei ddweud am y ffilm hon yw ei bod yn eithaf byr gan ymddangos fel pennod hir o'r Simpsons arferol ar y teledu er fy mod i wedi bod yn disgwyl rhywbeth tebycach i Hollywood Blockbuster gyda mwy o rannau cameo fel yr un hynod o ddoniol o Arnold Schwarzenegger fel arlywydd America.
Byddai mwy o'r math yna o beth wedi bod yn wych.
Er na chefais i ddigon o deulu animeiddiog enwocaf y byd ni fydd ffans y cymeriadau hyn yn cael eu siomi gan 'y mwfi' a chefais ymateb cadarnhaol gan bob un o blant yr Urdd.
Ac roedd yn amlwg o'r chwerthin swnllyd iddyn nhw fwynhau pob munud.
Os ydych am fynd i weld y ffilm eich hunain- cofiwch aros tan ddiwedd y glodrestr, fel awgryma crëwr y Simpsons, Matt Groëning, oherwydd mae yna ddarn bach arbennig gan Maggie! Gwyliwch yn ofalus!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall a chlip sain
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|