Ocean's 13 (2007) Tri chynnig - a'r trydydd yn orau
Ocean's Thirteen (2007)
Y sêr
George Clooney; Brad Pitt; Matt Damon; Al Pacino; Ellen Barkin, Elliot Gould
Cyfarwyddo
Steven Soderbergh
Ysgrifennu
Brain Coppleman; David Levien
Hyd
95 munud
Adolygiad Gwion ap Rhisiart
Sut ffilm ?
Y drydedd mewn cyfres llawn steil a chast rhyfeddol o actorion mawr.
Sylfaenwyd y gyntaf, Ocean's Eleven, ar ffilm o'r un enw o'r Pumdegau gyda chast yr un mor ddisglair yn cynnwys Frank Sinatra a Dean Martin.
Mae'r straeon yn dilyn grŵp sydd wedi gwneud gyrfa o ddwyn symiau enfawr o arian a gemwaith - fel arfer o gasinos.
Y stori
Pan gafodd Reuben (Gould) ei dwyllo o swm mawr o arian gan berchen casino pwerus, mae Danny Ocean (Clooney) yn hel ei hen ffrindiau at ei gilydd i dalu'n ôl i Willie Bank (Pacino) am yr hyn a wnaeth i'w cyfaill.
Mae Ocean, Rusty (Pitt) a'r gweddill yn cwrdd yn Las Vegas gyda chynllwyn cymhleth is sicrhau fod Willie Bank yn colli arian ar y noson gyntaf mae'n agor casino newydd.
Gydol y ffilm fe'i gwelwn yn gwisgo siwtiau smart neu yn newid ei edrychiad yn syfrdanol gyda wigiau a mwstas.
Y canlyniad
Mae Ocean's Thirteen yn ffilm llawer mwy cyflawn na'r ddiwethaf - os nad y gyntaf hefyd. Er bod y cynllwyn yn un anodd ei gredu ac yn gymhleth ar adegau, mae'r stori sylfaenol o ddial yn llwyddo i gynnal eich sylw a'ch cydymdeimlad â'r cymeriadau a'r digwyddiadau.
Ar bapur, mae hon yn edrych fel ymdrech i wasgu pob ceiniog allan o gyfres lwyddiannus - ac ni ddylai fod wedi gweithio; ond yn groes i bob disgwyl mae hi'n well na'r ddwy arall.
Ambell i farn
• Rodd y cylchgrawn Americanaidd Moving Pictures yn eithaf cadarnhaol am y ffilm gan ddweud iddi lwyddo i roi mwynhad er nad yw mor droellog â'r ddwy arall.
Er mai'r sibrydion yw mai hon fydd yr olaf o'r Oceans dywed MP i ddigon o ddrysau gael eu gadael yn gilagored!
"Os dyma'r diwedd gwnaed joban digon clodwiw."
Rhai geiriau
Wrth fygwth Danny Ocean dywed Banks seimllyd: "Efallai fod y dref hon wedi newid, ond dwi heb. Dwi'n adnabod nifer o bobl sydd yn buddsoddi yn fy nghadw i'n fyw ac mae yna bobl sy'n gwirioneddol wybod sut i frifo mewn ffordd na elli di ei dychmygu."
Ymateb diffuant a hyderus Ocean yw: "Wel, dwi'n adnabod y dynion y bydde ti'n eu hurio i ddod ar fy ôl ac maen nhw'n fy hoffi i yn fwy nag y maen nhw'n dy hoffi di."
Perfformiadau
• George Clooney yn hoffus a dibynadwy fel Danny Ocean. Mae'n arwain y cast o sêr yn hyderus.
• Mae actio Brad Pitt yn ymylu ar fod yn barodi o Brad Pitt y seren. Dyw ei berfformiadau ddim yn amrywio o un ffilm i'r llall ers rhai blynyddoedd ond go brin mai ei berfformiad yn unig fu'n denu'r cynulleidfaoedd.
• Mae perfformiad Casey Afleck ar ei ben ei hun. Er yn llai adnabyddus na'i frawd hŷn (Ben) mae'n well actor ac yn y ffilm hon mae ei hiwmor a'i amseru greddfol yn gwneud iddo ddisgleirio ymhlith y sêr mwy.
Gwerth ei gweld?
Gyda cherddoriaeth wych a steil yn llifo o bobman, sêr sy'n dod a gwefr i stori ddigon bleserus fyddwch chi ddim yn cymryd cam gwag o dreulio awr a hanner ar nos Sadwrn yn gwylio hon.
Unwaith yn rhagor, dwi bron a marw eisiau prynu siwt ffasiynol, ddrud, yn Saville Row, sy'n edrych fel un Brad a George yn y gyfres.
Cysylltiadau Perthnasol
Ocean's 12
Adolygiad arall o Ocean's 13
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|