The Matador Lladd arnyn nhw
Y sêr
Pierce Brosnan, Greg Kinnear, Hope Davis
Cyfarwyddwr
Richard Shepard
Sgrifennu
Richard Shepard
Hyd
97 munud
Sut ffilm
Yn awr ei fod wedi gorffen â 007 ffilm yw hon i brofi fod mwy i Pierce Brosnan fel actor na James Bond.
Fe'i disgrifiwyd fel "engaging comedy" gan un adolygydd ond mae mwy o ias nag o chwerthin ynddi.
Y stori
Lladdwr meddw ac annymunol sy'n crwydro'r byd yn lladd pobl am dâl ydi Julian Noble (Pierce Brosnan) - "Facilitator of fatalities," chwedl yntau, sydd a phutain ym mhob dinas!
Ond mae'r blynyddoedd o ladd yn dechrau dweud arno pan yw'n cyfarfod dyn busnes, Danny (Greg Kinnear), yn Ninas Mecsico ac er gwaethaf ymddygiad cwrs ac annymunol Julian mae rhyw berthynas od sy'n ymylu ar gyfeillgarwch yn tyfu rhwng y ddau a hynny'n dwyn ffrwyth annisgwyl yn hanes Danny a'i wraig (Hope Davis) maes o law.
Anodd dweud rhagor heb ddifetha'r stori.
Cyfeiria'r teitl at ddawn y matadors gorau i ladd y tarw yn lân ac yn sydyn ac yn broffesiynol gyda'u cledd.
Y canlyniad Ffilm ddigon gafaelgar llawn iasau wrth i'r berthynas rhwng Julian a Danny dyfu ac aeddfedu. Bydd rhai yn sylwi pa mor debyg o ran pryd a gwedd yw Danny i Julian yn rhan olaf y stori pan fo byrddau'r berthynas wedi troi.
Ond er yn cael ei phedlera fel comedi mae llawer nad yw'n ddoniol yma.
Astudiaeth ddigon gafaelgar o berthynas astrus rhwng dau.
Y darnau gorau Y ci rhech yn tarfu ar gyfathrach rywiol - mae honno yn olygfa ddoniol! Y talwrn ymladd teirw.Sawl golygfa o dyndra ac yn sawru o berygl rhwng Julian a Danny.Yr olygfa llawn awyrgylch yng nghartref Danny ar drothwy'r Nadolig.
Perfformiadau Yn eu gwahanol ffyrdd mae Brosnan a Kinnear gystal a'i gilydd gan greu'r awyrgylch fwyaf iasol ar adegau!Er mai ymylol ydi cymeriad Hope Davis ar y cychwyn mae ei pherfformiad pan yw'n cael ei thynnu'n iawn i'r stori yn wefreiddiol mewn golygfa y mae rhywun ar bigau'r drain ynglŷn â sut mae pethau'n mynd i fynd.
Mae Brosnan yn arbennig fel dyn sy'n gwrthod gollwng ei afael mewn dieithryn y mae'n ei gyfarfod. Fel pry na ellir rhoi swadan iddo.
Yn dilyn sglein a soffistigeiddrwydd arwynebol James Bond mae'n tra rhagori fel y llymeitiwr cwrs ac mae'n amlwg o'r cychwyn cyntaf fod hon yn rhan y mae'n ei mwynhau i'r eithaf.
Rhai geiriau Mae rhai pobl yn rhedeg adref mewn creisus ond does gen i ddim cartref. Ti yw fy unig ffrind a dydwi'n prin dy adnabod. Rydw i'n dweud celwydd pan fo angen hynny ac yn dweud y gwir pan alla'i."
Gystal â'r trelar?
Ydi.
Ambell i farn Mae cryn ganmoliaeth i'r perfformiadau. "Engaging comedy," ydi disgrifiad gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ sydd hefyd yn ei chyhuddo o hofran yn ansicr rhwng dwli y Brodyr Cohen a 'chŵl' Tarantino heb ddod o hyd i'w llais ei hun.Dau berfformiad arbenigol gan Brosnan a Kinnear meddai'r Observer sydd hefyd yn gwaradwyddo fod y ffilm yn diweddu mor sentimental. Dydi'r Observer ddim yn hoffi'r nodyn gwleidyddol gywir ar y diwedd ychwaith - na chafodd unrhyw deirw eu brifo tra'n ffilmio!
Gwerth mynd i'w gweld?
Er nad yw'n rhywbeth i sgwennu adra amdani mae'n sicr werth ei gweld - er ei bod y mymryn lleiaf rhy hir.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|