The Lake House Corddi'r emosiynau
Adolygiad Meleri Sion o The Lake House gyda Keanu Reeves a Sandra Bullock.
Adfywiol, calonogol a rhamantus - dyna'r geiriau i ddisgrifio'r ffilm fendigedig hon.
Mae hi'n ffilm gydag agweddau hollol annisgwyl a thuedd anghyffredin yn ffilmiau rhamantus heddiw.
Mae'r stori yn un anodd i'w hesbonio - felly mae'n rhaid eistedd yn ôl a gwylio'n fanwl.
Ar brydiau gall y stori fod yn llesteiriol oherwydd y cymhlethdodau amser rhyfeddol sydd ynddi, i'r graddau ei bod hi'n amhosib, weithiau, cyd-gysylltu'r ddau brif gymeriad, Kate Forster (Sandra Bullock) ac Alex Wyler (Keanu Reeves).
Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ymddangos gyda'i gilydd ers llwyddiant Speed ac mae'n bleser gweld bod y sbarc arbennig rhwng y ddau actor yn parhau.
Gadael llythyr Mae'r stori'n cychwyn wrth i'r Dr Kate Forster symud allan o'r Lake House yn y flwyddyn 2006 gan adael llythyr i'r tenant nesaf yn y blwch post.
Mae Alex yn darganfod hwn pan yw'n symud i mewn ac yn penderfynu ysgrifennu yn ôl at Kate nifer o weithiau.
Mae hithau'n ymateb a'r pâr yn parhau i ysgrifennu am tua blwyddyn gan feithrin perthynas a'i gilydd.
Y syndod yw bod Alex yn byw yn y gorffennol - yn y flwyddyn 2004. Serch hynny mae'r berthynas yn arwain at gariad a gwelir y ddau yn bod yn gefn i'w gilydd yn ystod cyfnodau o unigrwydd.
Teimlwn, wrth wylio'r ffilm ac wrth i'r plot ddatblygu, ei bod yn amlwg fod y ddau wedi cyfarfod o'r blaen - sawl gwaith!
Gweddnewid eu bywydau Mae un digwyddiad pwysig yn y stori yn gweddnewid bywydau Alex a Kate ond bydd yn rhaid ichi wylio'r ffilm gyffrous ac emosiynol hon er mwyn darganfod hyn.
Hon, heb amheuaeth, yw fy ffefryn o ran ffilmiau sydd allan ar DVD ar hyn o bryd - Hydref 2006.
Mae'n corddi emosiynau sy'n amrywio o wneud i chi lefain i wneud i'ch calon guro'n gyflymach - yn enwedig yn ystod holl gyffro y diwedd!
Barn gyffredinol: Gwerth ei gweld heb amheuaeth! 8/10.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Adolygiad arall
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|