91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


V for Vendetta
V ydw i ydw i ydw i . . .

15

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Natalie Portman, Hugo Weaving, Stephen Fry, John Hurt, Stephen Rea

Cyfarwyddo
James McTeigue

Sgrifennu
Y brodyr Andy a Larry Wachowski ar sail comic Alan Moore a David Lloyd.

Hyd
132 munud

Sut ffilm
Batman yn cyfarfod Winston Smith, 1984.

Y cefndir
Yn 1989 cyhoeddodd Alan Moore a David Lloyd nofel ar ffurf stribed comic yn ymateb i Thatcheriaeth.

Yn ei stori, V for Vendetta rhododd Alan Moore hanes brwydr arwr mantellog - mewn het corn hir ac yn gwisgo mwgwd ar ffurf wyneb Guy Fawkes - yn erbyn llywodraeth unbenaethol, ffasgaidd, a ddaeth i rym yn Lloegr.

Ei nod - fel Fawkes o'i flaen - oedd chwythu 'n deilchion y Senedd yn Llundain.

Cafodd y comic dderbyniad cynnes ymhlith gwrthwynebwyr Thatcher a'i dull o lywodraethu.

Y comic alegoriol hwnnw, gyda rhai diweddariadau, sydd yn awr wedi ei droi yn ffilm gan y brodyr Wachowski gwneuthurwyr y Matrix. Cafwyd James McTeigue a oedd yn cynorthwyo ar y Matrix i gyfarwyddo.

Y stori
Mae hi'n 2020 a Lloegr dan ormes teyrn o Ganghellor unbenaethol, Adam Sutlet (John Hurt) - ac nid llithriad Freudaidd fu teipio 'Lloegr' yn y frawddeg hon gan mai at Loegr y cyfeirir dro ar ôl tro yn y ffilm gan beri i rywun feddwl fod llywodraethau addfwynach a thecach ym Mae Caerdydd a Chaeredin.

Ar y llaw arall, efallai mai anallu Hollywood i wahaniaethu rhwng Prydain a Lloegr sydd yma.

Beth bynnag am hynny, mae Lloegr dan ormes Sutler a'i oruchwyliaeth haearnaidd lle mae pobl ddiniwed yn cael eu cymryd i'r ddalfa heb reswm, fyth i'w gweld eto. Lle mae hoywon yn cael eu dienyddio ac y mae'n drosedd bod â'r Koran yn eich meddiant.

Mae yna Ministry of Objectionable Material yn gwahardd gweithiau celf a llyfrau anghymeradwy yng ngolwg y Llywodraeth.

Ond y mae un gŵr dienw sy'n galw ei hun yn 'V' ( am Vendetta) (Hugo Weaving) sy'n ymladd yn erbyn y camwri hwn.

Yn gwisgo mantell ddu, het gorn hir a mwgwd ar ffurf wyneb Guy Fawkes y mae o'n gweithredu i ddymchwel y Llywodraeth a Sutler sy'n amenio pob un o'i ddatganiadau gorffwyll â'r geiriau, "England prevails".

Trowyd V yn ddialydd wedi iddo gael ei losgi y tu draw i adnabyddiaeth wedi bwrw tymor yn wrthrych yn un o sefydliadau arbrofion gwyddonol y Llywodraeth.

Yn ei gynorthwyo ef y mae merch ifanc o'r enw, a dyma ichi gyd-ddigwyddiad, Evey (Natalie Portman) a achubwyd ganddo rhag ei threisio gan blismyn lled-swyddogol y Llywodraeth - y Fingermen dychrynllyd - pan oedd hi allan yn hwyr y nos ar strydoedd Llundain.

Mae V yn cyhoeddi y bydd, ymhen blwyddyn, yn chwythu'r Senedd ar Dachwedd 5 er mwyn rhoi cychwyn ar wrthryfel a fydd yn adfer i'r bobl eu rhyddid.

Y canlyniad
Ffilm gymysglyd ac yn un y penderfynwyd, oherwydd byrdwn ei stori, ohirio ei rhyddhau fis Tachwedd y llynedd yn pan oedd y ffrwydradau terfysgol yn Lludain mor fyw yng nghof pobl.

Mae yma adlais o sawl ffilm yma wrth gwrs. Adlais amlwg o ffilmiau am arwyr mantellog a mygydaidd eraill fel Zorro, Batman a Spider-Man a'u brwydrau dros y diamddiffyn mewn cymdeithas.

Mae adlais, wedyn, o Phantom of the Opera a Beauty and the Beast yn y stori garu rhwng Evey a V.

Ond am 1984 y mae rhywun yn meddwl yn bennaf a go brin mai dim ond cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith mai John Hurt - a chwaraeai ran Winston Smith yn y fersiwn ffilm a wnaed yn 1984 o nofel Orwell, 1984- a ddewiswyd i chwarae y teyrn, Sutler.

Y mae llawer yn V i'n hatgoffa o'r nofel honno gan gynnwys Sutler yn cyfathrebu a'i wlad a'i weision trwy gyfrwng sgrîn anferth.

Mae'n ffilm sy'n codi nifer o gwestiynau - nid lleiaf ynglŷn â cphriodoldeb defnyddio terfysgaeth i sicrhau cyfiawnder.

Wedi'r cyfan, er mor gymeradwy yw bwriadau V dialydd yw yn ei hanfod. Dial y mae am yr hyn a wnaeth y Llywodraeth iddo ef yn bersonol.

Ond chwythu adeilad y mae i sicrhau ei ddiben gan ddweud nad adeilad (y senedd yn San Steffan) yw angen y bobl ar hyn o bryd ond gobaith ar gyfer y dyfodol.

Er mor ragorol ei bwriadau mae i V nifer o ddiffygion fel ffilm gan fod yn llawer rhy drwsgl ac anghelfydd.

Ar adegau, mae rhywun yn ansicr hefyd beth yn union mae hi'n ceisio'i ddweud wrthym megis mewn golygfa yn dilyn carcharu Evey.

Mae tuedd i lusgo hefyd, er gwaethaf ymdrechion i ddod ag ambell i dro annisgwyl i'r stori.

Er bod digon yma i sicrhau gwrandawiad mae elfen o siom hefyd

Ambell i farn
Hyd yn hyn ni fu'r adolygwyr yn rhy garedig gyda V - ac, yn wir, fe fydd rhai yn teimlo iddyn nhw fod yn rhy angharedig â hi.

  • Daeth Peter Bradshaw yn y Guardian i'r casgliad fod y ffilm yn "weird, bizzare and baffling" mewn ffordd cwbl syrffedus gan ddweud fod ei gwylio yn cael yr un effaith ag amddifadu eich ymennydd o ocsigen dros gyfnod o ddwy awr.
    Gan gyfeirio at duedd V i ddyfynnu o Shakespeare mae'n ei gyhuddo o fod wedi hepgor yr unig ddyfyniad gwir berthnasol, y geiriau hynny am "a tale told by an idiot".
  • Yn y Spectator mae Olivia Glazebrook yn cyfeirio ati fel ffilm chwerthillyd sy'n troi'n blagus.
  • Er nad yw neb yn uchel iawn ei ganmoliaeth dydi pawb ddim mor llawdrwm. Mae gwefan Saesneg y 91Èȱ¬ yn cyfeirio at yr holl syniadau sy'n cael eu gwyntyllu ac at ddau 'ddigwyddiad' trawiadol. Ond tra'n dweud fod y ffilm yn procio mae'n gorfod cydnabod hefyd nad yw'n cyffroi nac yn gafael fel stori.
  • Yn yr Observer dywed Philip French mai'r peth mwyaf clyfar am y ffilm yw ei llwyddiant yn troi dialydd terfysgol yn arwr gan aros yn wleidyddol gywir ar yr un pryd.

    Perfformiadau
  • Anodd gwybod beth i'w wneud o berfformiad actor nad ydym yn gweld ei wyneb gydol y ffilm. Llefaru o'r tu ôl i fwgwd y mae Hugo Weaving gydol yr amser gan roi'r argraff o bwped yn siarad. Mae'r wên barhaol yn gwylltio rhywun erbyn y diwedd.
    Weithiau, pan yw'n dyfynnu o Shakespeare yn fwyaf arbennig, mae geiriau'n cael eu colli.
  • Wnaeth Natalie Portman druan fawr o argraff ffafriol ar neb gyda sawl un yn cael hwyl am ben ei hacen Saesneg Lloegr.
    Yn wir mae'r Guardian yn cyfeirio ati fel actores y gellir dibynnu arni i fod yn ofnadwy -"reliably terrible".
    Er bod "ofnadwy" yn air llawer rhy gryd]f ar sail y perfformiad hwn, dydi hi ddim yn dod a llawer o fywyd i'r rhan.
  • Actor lled ymylol sydd yn gwneud argraff fodd bynnag ydi Stephen Rea fel yr heddwas sydd ar drywydd V.

    Rhai geiriau
  • Ni ddylai pobl fyw mewn ofn o'u Llywodraeth - llywodraethau ddylai fod ofn y bobl.
  • Ein gwaith ni yw adrodd y newyddion nid ei greu - gwaith y Llywodraeth yw hynny.
  • Mae artistiaid yn defnyddio celwyddau i ddweud y gwir.
  • Dydw i ddim eisiau iti farw. - Dyna'r peth hyfrytaf a ddywedwyd wrthyf erioed.

    Gwerth ei gweld Anwybydded y beirniaid - er gwaethaf amryfal ddiffygion mae rhywbeth yma i gnoi cil arno. A pheidiwch a cholli'r olygfa dominos a'r ffrwydrad terfynol.

    Edrych ymlaen
  • Basic Instinct 2 - gyda Sharon Stone unwaith eto.
  • Silent Hill - dychryn a braw.
  • Da Vinci Code - hyd yn oed i'r rhai sydd heb ddarllen y nofel!
  • Three Burials - Ffilm gowboi fodern gyda Tommy Lee Jones.
  • Inside Man - efo Spike Lee, Clive Owen a Denzel Washington
  • Extrano - bywyd unig llawfeddyg o'r Ariannin.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý