30 Days of Night (2007) Dychryn bendigedig rhwng afonydd o waed
Y sêr
Josh Hartnett, Melissa George, Ben Foster, Danny Huston, Manu Bennett
Cyfarwyddo
David Slade
Sgrifennu
Steve Niles, Stuart Beattie, Stuart Beattie, Brian Nelson
Hyd
112 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Nid yn aml y byddaf yn gwylio ffilmiau arswyd yn y sinema a hynny am nifer o resymau.
Un rheswm yw fod maint y sgrin, o'i chymharu â'r teledu gartref, yn gwneud yr holl brofiad yn afreal.
Mae llawer o bobl a chwmnïau ffilm wedi gwneud miliynau o bunnau allan o storiâu am fampirod dros y blynyddoedd ac ers i Dracula, er enghraifft, weld golau dydd ar ffilm yn y Pumdegau bu ffilmiau a rhaglenni teledu eraill yn chwarae gyda chwedl y fampir.
Erbyn hyn does yna ddim rhagor, yn fy marn i, y gall pobl ei wneud gyda'r chwedl enwog yma.
Clywed pethau da Fodd bynnag, clywais lawer o bethau da am y ffilm newydd 30 Days of Night gan y cyfarwyddwr, David Slade.
Ffilm yw hi am griw o bobl sy'n byw yn nhref fechan Barrow yn Alaska lle, am fis bob blwyddyn, mae'r gaeaf mor ddrwg mae'n amhosib gadael y lle.
Y gaeaf arbennig hwn mae pobl o Barrow yn mynd i fod mewn llawer o drwbwl!
Cawn arwydd o bethau'n dechrau mynd yn ddrwg ar ddechrau'r ffilm pan fo'r ffonau symudol yn pallu gweithio a'r goleuadau yn y dref yn dechrau diffodd.
Yr unig ffordd y gall y bobl oroesi yw trwy ddod o hyd i ffordd i fodloni chwant y fampirod am fis cyfan.
Mae'r actorion yn chwarae rhannau da iawn yn y ffilm. Josh Hartnett yw'r plismon lleol a'r unig un sy'n fodlon aberthu ei hunan i gael gwared â'r fampirod.
Melissa George sy'n chwarae rhan ei wraig ac fe'm synnwyd pa mor naturiol oedd hi.
Bythgofiadwy Ond y cymeriad bythgofiadwy yn y ffilm yma yw'r prif fampir (Danny Huston) ac fe hoffais i'r modd y creodd y cyfarwyddwr, David Slade, fampirod hollol wahanol i'r rhai a welwyd o'r blaen - gyda'u dillad, eu iaith a'u dannedd, yn enwedig, yn enghraifft o dechnoleg ffilm ar ei gorau.
Hoffais y ffilm yma mas draw ac fe fyddwn i'n annog unrhyw un sy'n hoffi cynnwrf yr adrenalin i wylio'r ffilm yma pe na byddai ond am yr olygfa lle mae'r fampirod yn tynnu pawb allan o'u tai a'r olygfa lle mae Josh Hartnett yn torri pen y ferch fach bant!
Odi, mae'n ffilm llawn rhyfeddodau. Ond, nid yw'n ffilm ar gyfer y rhai sy'n ofni gweld gwaed yn llifo'n afonydd ym mhob golygfa.
A chyda bron i bob cymeriad yn marw, peidiwch a disgwyl ddiweddglo hapus!
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng 91Èȱ¬ Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|