Hitch Yn nwylo Doctor Serch
Hitch
Y sêr Will Smith, Eva Mendes, Kevin James, Amber Valletta, Julie Ann Emery, Robinne Lee
Cyfarwyddwr Andy Tennant
Sgrifennu Kevin Bisch
Hyd 118 munud
Sut ffilm Comedi ramant gyda Will Smith yn chwarae rhan ymgynghorydd sy'n rhoi cynghorion serch i ddynion sy'n cael trafferth hudo merched.
Y stori Er na chaiff unrhyw drafferth trefnu i bobl eraill syrthio mewn cariad â'i gilydd mae'r meddyg serch, Alex Hitch Hitchens (Will Smith), mewn dyfroedd rhwfaint yn ddyfnach pan yw'n fater o'i berthynas ef a'r newyddiadurwraig, Sara (Eva Mendes).
Nid yn unig mae o mewn cariad â hi ond mae'n allweddol i'r ffilm hefyd nad yw hi'n darganfod natur ei waith - yn hyfforddi dynion sut i swyno merched a'u cael nhw i syrthio mewn cariad â hwy.
Ochr yn ochr â'r stori am berthynas Hitch a Sara mae un arall am Hitch yn cynllwynio carwriaeth rhwng cyfrifydd tew, afrosgo a swil, Bernie (Kevin James) a miliwnyddes dlos, Allegra Cole (Amber Valletta)
Er mwyn ymestyn y ffilm cyflwynir mân enghreifftiau eraill o gelfyddyd wyrthiol Hitch - gydag un ohonyn nhw yn achosi poen a phryder i ffrind Sara ac yn suro'r berthynas rhwng y doctor serch a'r newyddiadurwraig.
Y darnau gorau Mae sawl darn digon diddan:
Y cyfarfod dêtio brys.
Dysgu Bernie sut mae cusanu merch. Adnod fawr Hitch yw y gall wyth merch allan o bob deg ddarogan llwyddiant neu fethiant perthynas ar sail y gusan gyntaf!
Perfformiadau Mae Smith mor llyfn, ffraeth ac atyniadol ag erioed ond o ran bod yn gymeriad mae'n anodd curo James fel Albert drwsgwl sy'n baglu ar draws popeth.
Gystal â'r trelar? Ydi ond bod y ffilm braidd yn hir!
Y canlyniad Bydd rhai yn ystyried Hitch fel ffilm sydd gryn hanner awr yn rhy hir ond er gwaethaf hynny dydi hi ddim yn llusgo ac y mae digonedd o hwyl i'w gael gyda golygfeydd doniol a sgriptio digon ffraeth ar y cyfan.
Mae'r darnau troslais gan Smith yn gweithio'n ddigon del.
Geiriau cofiadwy "Mae gan bob dyn y ddawn i sgubo merch oddi ar ei thraed - y cyfan ydych chi ei angen ydi'r brws iawn," meddai Hitch
"Nid y nifer o weithiau yr ydych chi'n cymryd eich gynt ydi bywyd ond nifer y profiadau sy'n mynd a'ch gwynt." Hitch.
Ambell i farn Derbyniol a boddhaol yw'r farn gyffredinol. Nid yw'r un beirniad yn mynd dros ben llestri gyda'r ffilm hon.
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi - ond byddwch yn barod i lyncu'r hyn a gewch heb gnoi cil.Er yn ddêt gyntaf ddymunol dydi Hitch ddim yn yn ddêt fythgofiadwy!
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|