Evan Almighty (2007) Bygwth dilyw newydd
Y sêr
Steve Carell, Morgan Freeman, Wanda Sykes, John Goodman, Lauren Graham
Cyfarwyddo
Tom Shadyac
Sgrifennu
Steve Oedekerk.
Hyd
96 munud
Adolygiad Carys Mair Davies
Dyma ddilyniant i Bruce Almighty ac mae'n well na'r gwreiddiol.
Gyda Steve Carell, y prif actor, wedi gwneud enw iddo'i hun yn ddiweddar ym mhrif rannau ffilmiau fel Meet the Fockers a The-40-Year-Old-Virgin y gobaith oedd y byddai Evan Almighty o'r un safon.
Yn anffodus nid yw hynny'n wir er ei bod yn rhagori ar Bruce Almighty.
Mae'r stori'n troi o amgylch Evan Baxter a ddewiswyd gan Dduw i adeiladu arch yn nhraddodiad Arch Noah.
Dywedwyd wrth Evan y bydd llifogydd mawr yn golchi dros y byd am hanner dydd, 22 Medi - ond does neb yn ei gredu!!
Felly gyda help ei deulu a dau o bob anifail, mae'n adeiladu'r arch ei hun - ar ôl iddo golli ei swydd.
A hithau'n heulwen braf ar y dyddiad tyngedfennol mae'r tyrfaoedd a ddaeth i wylio Evan yn ei wawdio a chwerthin am ei ben.
Felly, ar ddiwedd y ffilm mae un cwestiwn mawr ar ôl, A yw Duw yn gwir siarad ag Evan ynteu ef sydd wedi drysu dan bwysau ei swydd newydd? A'r ateb? Gwyliwch y ffilm!
Er bod hon yn ffilm sy'n cymryd cryn amser i gael gwynt dan ei hadenydd unwaith y sefydlir y stori mae'n ennyn llawer o chwerthin.
Ond mae rhai pethau ofnadwy o erchyll ynddi hefyd fel y ffaith fod Evan yn mynnu bod ei dri mab yn ymuno ag ef mewn dawns deuluol - golygfa sy'n wastraff llwyr o amser y ffilm.
Er nad yw cymeriadau Evan Almighty yn rhai arbennig o gofiadwy mae'r actorion yn gwneud gwaith da o gyfleu'r personoliaethau.
Fy hoff gymeriad i yw Duw sy'n cael ei chwarae gan Morgan Freeman.
Ond yn yr achos hwn mae'r hysbyseb am y ffilm yn well na'r ffilm ei hun sydd ddim yn taro deuddeg.
|