Around the World in 80 Days Gwirion yn hytrach na doniol
Y sêr Steve Coogan, Jackie Chan, Cécile De France, Jim Broadbent, Ewen Bremner
Cyfarwyddwr Frank Coraci
Sgrifennu David Titcher, David Benullo, David Goldstein
Hyd 120 munud
Sut ffilm Mae yna awgrym o feirniadaeth pan ydych chi'n disgrifio rhywbeth fel cawl eildwym - ond dydi hynny ddim yn deg.
Yn aml iawn gall cawl heddiw fod yn llawer iawn mwy blasus ar ôl ei aildwymo yfory.
Bu yna gryn dipyn o aildwymo cawliau blasus iawn yn y byd ffilm yn ddiweddar a hynny gyda chryn lwyddiant wrth roi gwedd newydd i hen stori.
Gyda The Ladykillers mae dehongliad y brodyr Coen o stori ffilm Ealing yn wahanol yn dra gwahanol o ran lleoliad (Mississipp) a chywair a'r prif gymeriad (Tom Hanks) yn dra gwahanol i'r un a chwaraewyd gan Alec Guinness.
Ar fin ein cyrraedd mae Stepford Wives newydd - gyda Nicole Kidman - ac edrych ymlaen mawr sut flas fydd ar y stori wych honno yn eildwym.
Yn brawf pendant nad yw pob cawl yn cadw'i flas wrth gael ei aldwymo, wele Around the World in Eighty Days yn cyrraedd y sinemau.
Mae'n rheol digon rhesymol: os nad yw ffilm ar ôl ei hailwneud yn wahanol ac yn well na'r hyn sydd ar gael yn barod dydi hi ddim gwerth trafferthu.
O ran tegwch ag 80 Days mae Frank Coraci yn gwneud ymdrech deg i ddehongliu'r stori'n wahanol gan roi'r pwyslais nid ar brif gymeriad nofel Jules Verne, Phileas Fogg, ond ar ei gydymaith, Passepartout. Rheswm da pam gan mai'r bywiog Jackie Chan, amrywiol ei gampau, sy'n chwarae'r rhan a hynny'n cynnig digon o gyfle am stranciau corfforol gwyllt.
Ond go brin fod hynny, a throi Fogg yn 'ddyfeisydd gwallgof' parod ei ddamwain yn ddigon i gyfiawnhau ail gyflwyno'r stori - er bod y fersiwn flaenorol gyda David Niven a Cantinflas yn dyddio'n i 1956.
Y stori Ddiwedd y bedwaredd ganrif bymtheg, mae'r dyfeisydd Phileas Fogg (Steve Coogan) yn cael ei dwyllo gan ei elyn, yr Arglwydd Kelvin (Jim Broadbent), pennaeth Yr Academi Wyddonol Frenhinol yn Llundain, i fetio y gall o deithio o amgylch y byd o fewn 80 niwrnod gyda swydd Kelvin yn wobr am lwyddo.
Yn ymuno ag ef ar ei daith mae Passepartout (Jackie Chan), lleidr y mae'r heddlu ar ei warthaf a Monique La Roche (Cecile De France).
Maent yn gadael Llundain mewn balwn gan alw yn Ffrainc, Twrci, China a'r Unol Daleithiau cyn croesi'n ôl dros yr Iwerydd a dyfeisio'r awyren gyntaf.
Mae eu taith yn un anos na'r disgwyl oherwydd ymdrechion y Kelvin cynllwyngar yn eu herbyn.
Y darnau gorau Er bod ymladdfeydd dawnslyd Chan yn drawiadol mae rhywun yn tagu ar y gormod o'r pwdin hwn. Fel arall mae cyffro a thyndra yn brin.
Perfformiadau Chan sy'n dwyn y sylw. Does gan Coogan mo'r presenoldeb i reoli'r ffilm ac nid yw'n gosod ei stamp er mai o'i gwmpas ef mae'r stori'n troi.
Yn dwyn ambell i olygfa hefyd mae Ewen Bremner fel plismon drama sy'n cael ei anfon are u gwarthaf gan Kelvin.
Bydd rhywfaint o hwyl i'w gael o gadw llygad yn agored am ymddangosiadau byrion gan John Cleese, Rob Schneider, Arnold Schwarzenegger a Kathy Bates fel y Frenhines Victoria.
Gystal â'r trelar? Na.
Y canlyniad Mwy gwirion na doniol gyda llawer o bobl yn cerdded yn erbyn pethau, yn baglu dros bethau a thros ei gilydd.
Mae ambell i olygfa gyffrous ond siomedig yw 80 Days ar y cyfrif hwnnw hefyd ac mae'n brin o linellau bachog.Gwerth mynd i'w gweld Bydd y DVD ar gael cyn bo hir.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|