Serenity Star Wars efo llai o arian a mwy i'w ddweud?
Y sêr Nathan Fillion, Gina Torres, Alan Tudyk, Morena Baccarin, Adam Baldwin, Jewel Staite, Sean Maher, Summer Glau, Ron Glass, Chiwetel Ejiofor
Cyfarwyddwr Joss - Buffy the Vampire Slayer - Whedon
Sgrifennu Joss Whedon
Hyd 119 munud
Sut ffilm Star Wars y dyn tlawd meddai rhai. Star Wars pe byddai gan George Lucas lai o arian a mwy i'w ddweud meddai arall.
Disgrifiwyd Serenity hefyd fel ffilm gowboi yn y gofod bum can mlynedd yn y dyfodol.
Beth bynnag, dechrau'r daith oedd cyfres deledu o'r enw Firefly na pharhaodd ond am un bennod ar ddeg er mawr annhegwch a hi yn ôl llawer o'i ffyddloniaid a fydd wrth eu boddau i'r stori gyrraedd y sgrîn fawr erbyn hyn.
Y stori Bum can mlynedd yn y dyfodol mae'n Galaeth yn cael ei rhedeg gan rym llywodraethol The Alliance sy'n cadw pobl yn eu lle trwy fwydo eu meddyliau yn ei syniadau ei hun. Yn anffodus, un o sgil effeithiau hyn yw fod pobl yn colli eu hawydd i weithio ac i fyw - ar wahân i leiafrif bach sy'n adweithio'n gwbl wahanol ac yn malu a dinistrio popeth y maen nhw'n dod i gysylltiad ag ef.
Ar fwrdd y llong - neu 'gwch' gofod y Serenity mae criw o herwyr brith, Mal (Nathan Fillian), Zoe (Gina Torres) Wash y peilot (Alan Tudyk), Jayne, gŵr Zoe (Adam Baldwin) a Kaylee y mecanic (Jewel Staite) yn byw bywyd gwyllt yn helcid o un blaned i'r llall yn gwenud drygau, dwyn ac yn meddiannu beth bynnag allan nhw gael eu dwylo arno ac wedi eu dadriddio gyda'r Alliance.
Fodd bynnag try eu bywyd yn ganmil gwylltach a pheryclach pan fo meddyg ifanc, Simon (Sean Maher), a'i chwaer delepathig River (Summer Glau) yn ymuno â hwy. Mae hi ar ffo rhag yr Alliance a fu'n ymyrryd a'i hymennydd.
Buan iawn yr aiff hi'n helfa waedlyd o un pen i'r galaeth i'r llall gyda lladdwr dinistriol, dideimlad - ac anorchfygol mae'n ymddangos - The Operative (Chewitel Ejiofor), ar eu sodlau, heb sôn am y Reavers bwystfilaidd a'u tuedd anffodus i fwyta pobl yn fyw.
Y canlyniad Er mai ffilm gowboi efo gynnau mwy a chyda rocedi yn lle ceffylau ydi hon mae'n ymgyrraedd at rywbeth mwy aruchel hefyd gydag un o'i phosteri yn dwyn y geiriau, "Am fod y dyfodol yn werth ymladd amdano".
Ond hwyl, cyffro a sbri ydi Serenity yn y bôn gyda digon yn digwydd wrth i'r criw ddianc o un helynt i'r llall ac nid oes amheuaeth y bydd wrth fodd y rhai hynny sy'n teimlo iddyn nhw gael cam pan roddwyd y farwol i'r gyfres deledu.
Fel sy'n ofynnol, mae digonedd o dechno-batro a mwy fyth o siarad tyff gan ddynion talog sy'n gorfod gwneud beth sy'n rhaid i ddynion ei wneud.
Y darnau gorau Mae'r brwydrau i gyd yn drawiadol - nid yn unig y rhai rhwng llongau gofod ond hefyd rhwng pobl a'i gilydd.
Perfformiadau Natham Fillion fel yr arweinydd arwrol yn cerdded fel cowboi, yn siarad fel cowboi, yn anelu ei wn fel cowboi ac yn ei roi yn ei wain fel cowboi.
Perfformiad trawiadol hefyd gan Chewitel Ejiofor fel y lladdwr oer a dideimlad.
Gystal â'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Y beirniaid yn ddigon canmoliaethus ar y cyfan.
Aeth mwy nag un i gymharu Serenity yn ffafriol â Star Wars gyda rhai yn mynnu fod ymdrech llai uchelgeisiol Whedon yn rhagori.
Mae canmoliaeth gyffredinol i'r cymeriadau, i'r hiwmor a'r ddialog hefyd.
Wrth eu henwau Sylwodd un beirniad fod enwau go iawn yr actorion yn dangos cymaint os nad mwy o ddychymyg ag enwau gwneud y cymeriadau.
Y gwir yw fod hynny'n wir am sawl ffilm o'r Unol Daleithiau ond fe berthyn rhyw gyfaredd arbennig i enwau fel Alan Tudyk, Morena Baccarin, Jewel Staite, Summer Glau a Chiwetel Ejiofor. Wel, allwch chi ddychmygu eich hun yn sefyll yn y drws a gweiddi, "Chiwetel Ejiofor, mae'n amser gwely. Der i'r tÅ·. Nawr!"
Gwerth mynd i'w gweld? Ydi. Yn wir, dywedodd un adolygydd ei bod yn bwysig fod gennych droed os am fethu'r ffilm hon - er mwyn ichi fedru cicio'ch hun wedyn!Nid pawb fyddai'n cytuno â hynny.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|