Fahrenheit 9/11 Chwerthin - a wylo'n dawel
Bu Aled Edwards yn gweld y ffilm Erys tri pheth yn fyw yn y cof ynghylch gweld Fahrenheit 9/11 o eiddo Michael Moore ar ymddangosiad cyntaf y ffilm yng Nghaerdydd.
Yn hwyr ar nos Sul braf ddechrau Gorffennaf daeth llu i weld y ffilm. Roeddwn yn disgwyl gweld rhengoedd arferol y canol oed radical a Christnogol yn llenwi'r theatr ond nid felly yr oedd hi. Cafwyd cyplau ifanc y bennaf.
Er syndod a mawr a rhyddhad i mi, nid oeddwn yn adnabod unrhyw un yn y gynulleidfa.
Ar ddiwedd y ffilm, cododd y dorf niferus hon fel un o'r bron i gymeradwyo'r hyn a welwyd.
Ar brydiau, gwnaeth Fahrenheit 9/11 imi chwerthin, fe wnaeth imi wylo'n dawel ac i feddwl llawer mwy hefyd am realiti a chost ddynol y rhyfel a gyflawnwyd yn ein henwau.
Roedd rhai o'r lluniau yn debyg iawn i'r rhai y gallwn eu cofio'n blentyn o Vietnam yn y chwedegau. Do, fe wnes innau godi i gymeradwyo ar y diwedd.
Ond yn fwy na dim, yr hyn a fydd yn aros yn fyw yn y cof fydd angerdd a dagrau mam o Flint ym Michigan wedi iddi golli mab yn Irac.
Roeddwn yn llawn ddisgwyl y dilorni effeithiol a gafwyd o George W. Bush, ond roedd rhywbeth hynod o real am y fam hon a aeth i Washington i fwrw ei hangerdd.
Sylweddolir, wrth gwrs, bod Moore yn ei defnyddio ynghyd â'i galar i'w ddibenion ei hun ond yr oedd hon am gael ei defnyddio.
Gwendidau'r ffilm Fel y dangoswyd yn erthygl ddeifiol Sarah Baxter yn y Sunday Times, ceir gwendidau yn y ffilm.Yn bennaf, mae'n cymryd ambell beth yn rhy bell.
Honnir, er enghraifft, i deulu Bush a'u cyfeillion ennill $1.4 biliwn o law diddordebau yn Saudi Arabia. Fe aeth y rhan helaethaf o'r arian hwn i ddwylo'r cwmni arfau BDM, rhan o'r Carlyle Group, cyn i'r Bush hynaf ymuno â'r cwmni yn 1998. Cafodd BDM ei werthu chwe mis cyn hynny.
Gwneir llawer yn y ffilm hefyd ynghylch cysylltiadau honedig Unocol a'r Taliban yn Afghanistan. Cafwyd prosiect o eiddo Unocol i adeiladu pibell nwy o ardaloedd y Caspian drwy Afghanistan. Dechreuwyd ar y gwaith yn nyddiau Clinton yn y Ty Gwyn; ond erbyn dyfodiad George W. Bush yn arlywydd, roedd y cwmni wedi gollwng y prosiect.
Yr Ymateb Wedi dweud hyn, nodir taw tacteg bennaf gwrthwynebwyr Moore fu ymosod ar y modd mae'n dilorni America.
Honnodd y David Brooks ceidwadol ei anian fod rhyddfrydwyr ei wlad yn troi bellach at wneuthurwr ffilmiau sy'n crwydro'r byd yn darlunio Americanwyr fel y pobl mwyaf dwl y blaned yn hytrach nag at arwyr fel Martin Luther King.
Mentraf awgrymu bod hyn yn crybwyll bod prif fyrdwn ffilm Michael Moore yn sylfaenol gredadwy. Fe gafwyd cysylltiad clos rhwng teulu bin Laden a theulu Bush cyn ac ar ôl '9/11'.
Y mae'r byd eto'i weld beth yw'r cysylltiad rhwng Saddam Hussein a'r difrod erchyll a gafwyd yn Efrog Newydd y Medi cofiadwy hwnnw. Y mae olew ynghyd â'r fasnach arfau a'r arian sy'n dod yn sgil y ddau ddiwydiant yn parhau i ddrewi.
Yn fwy na dim, erys y gwirionedd oesol tawl plant y tlodion sy'n colli eu bywydau mewn byddinoedd. Roedd y darn lle yr aeth Moore yng nghwmni milwr ifanc i gael gwleidyddion Washington i gynnig eu plant nhw ar gyfer y lluoedd arfog yn boenus. Ond un o frîd niferus gwleidyddion Washington sydd â phlentyn yn Irac.
Y difrod gwleidyddol Fel Sarah Baxter, tybiaf y gall y Moore direidus beri niwed i'w achos ei hun. Yn America, fel y gwyr ymgyrch John Kerry yn rhy dda, y mae diffyg gwladgarwch yn bechod anfaddeuol. Yn drawiadol iawn, gwelodd pobl Kerry yn dda i bellhau eu hunain oddi wrth y ffilm. Fe all gor ddweud Moore roi Bush yn ôl yn y Ty Gwyn.
Nid felly ym Mhrydain. Cyn gweld Fahrenheit 9/11 cefais gyfle i ddarllen sylwadau treiddgar Helena Kennedy yn Just Law (2004) ar sut yr aeth ein llywodraeth i ennill y cyngor cyfreithiol bod rhyfel yn erbyn Irac yn gyfreithlon.
Yn ôl Kennedy, cred y mwyafrif o gyfreithwyr gydag arbenigedd mewn materion rhyngwladol nad oedd y fendith a roddwyd drwy law'r Athro Christopher Greenwood o'r LSE i'r Twrnai Cyffredinol yn ddiogel.
Gwyddom erbyn hyn, bod yr hyn a dybiwyd ynghylch bygythiad honedig Saddam Hussein hefyd yn ansicr.
Y mae Fahrenheit 9/11 yn cloi gyda darlun poenus o George W. Bush yn baglu dros ei eiriau.
Gan gofio'r llun trawiadol hwnnw yn y Sunday Times o'r Tony Blair gwritgoch a noeth yn cuddio ei gywilydd â chopi tenau o adroddiad yr Arglwydd Butler sydd ar fin ei gyhoeddi, gallwn ond hel meddyliau ynghylch y gwirionedd a ddatgelir yng ngwaith Moore.
Fe all Bush barhau i faglu ond eraill sy'n disgyn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|